Tata Steel : Macro-gyflogwr y Flwyddyn

Y drafferth i recriwtio gweithwyr medrus mewn gweithle byd-eang sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol oedd un o’r prif resymau pam y datblygodd Tata Steel ei raglen brentisiaethau bresennol.

Mae dros 6,300 o bobl yn gweithio gyda’r cwmni yng Nghymru, 211 ohonynt yn brentisiaid. Gan fod y gweithlu’n heneiddio, mae angen i’r cwmni sicrhau ei fod yn hyfforddi ac yn datblygu gweithwyr medrus a fydd yn gallu parhau â'r gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

Bu gan Tata Steel raglen brentisiaethau ers dros hanner canrif. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cydweithio â Choleg Pen-y-bont ac yn cyflenwi pum fframwaith mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg – Crefft a Thechnegydd, Prentisiaethau Uwch mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch Lefel 4 a Gwyddorau Bywyd a Diwydiannau Gwyddonol Cysylltiedig, Prentisiaeth ar gyfer Technegwyr Labordy a Thechnegwyr Gwyddoniaeth, a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Prosesu Metal a Gwaith Cysylltiedig.

Mae’r cwmni’n elwa ar y rhaglen trwy gael “llif parod o fedrusrwydd i’r sefydliad”. Yn ogystal, mae’r prentisiaid yn elwa trwy gael eu talu a’u haddysgu ac maent yn cael codiad cyflog wrth gyrraedd cerrig milltir sy’n gysylltiedig â’u datblygiad.