Ysbrydolwch genhedlaeth o Gymry gyda phrentisiaethau
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn un o brif fudiadau plant ac ieuenctid Cymru, ac mae’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd drwy glybiau, ysgolion a grwpiau cymunedol.
Ychydig mwy na blwyddyn yn ôl, nid oedd y mudiad, sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, hyd yn oed wedi ystyried cynnal Rhaglen Brentisiaeth.
Wedi i raglen gael ei chyflwyno gyda’r darparwr hyfforddiant Babcock, mae’r Urdd wedi tyfu a datblygu ei gyfres o weithgareddau mewn mwy o gymunedau.
Dyma oedd gan Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd i’w ddweud: “Rydyn ni wedi adolygu ac wedi rhoi rhai newidiadau ar waith yn ein strwythur ac mae hyn wedi ein galluogi ni i ddatblygu Rhaglen Brentisiaeth a chyflogi prentisiaid yn y mudiad.
“Mae prentisiaethau wedi galluogi’r Urdd i wella a chynyddu ein darpariaeth o wasanaethau cymunedol ym mhob cwr o Gymru ac i gyrraedd mwy o blant a phobl ifanc.”
Mae’r mudiad wedi cael 10 prentis dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hyn wedi helpu i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Mae rhai o’r prentisiaid yn dal i fod yn yr ysgol ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt gael swydd pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae gwneud prentisiaethau yn rhan annatod o’r mudiad wedi galluogi’r Urdd i fod yn fwy uchelgeisiol a chyrraedd mwy o gymunedau.
Mae hyn hefyd wedi sicrhau bod gan y mudiad weithlu uchelgeisiol, sydd wedi cael llawer o hyfforddiant.