SEE (Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr)

Mae'r fenter SEE yn gyfle cyffrous i fusnesau ledled Gogledd Cymru ddatblygu sgiliau eu staff a chreu gweithlu sydd a chymwysterau uchel a fydd mewn sefyllfa well i sichrau llwyddiant masnachol yn y dyfodol.

Mae £18.7 miliwn wedi'i glustnodi i ariannu'r prosiect, a'n nod ni yw hyfforddi 7,000 o weithwyr drwy roi cymorthdaliadau da.

Dyma'r manteision i fusnesau

Sefydlwyd y fenter SEE i roi hwb mawr i'r economi lleol. Mae'r rhaglen yn targedu sectorau allweddol, yn cynnwys:

  • Y sector Bwyd
  • Yr Economi Digidol (Rhoi cymorth i fusnesau i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad a fydd yn gwella eu galluoedd TGCh)
  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • Twristiaeth, Adloniant a Hamdden
  • Y Sector Gofal
  • Adeiladu
  • Ynni a'r Sector Carbon Isel

Yn ogystal, gall y busnesau hynny nad ydynt yn gweithredu yn unrhyw un o'r sectorau hyn wneud cais am gyllid hefyd, ar yr amod bod modd sichrau'r tim SEE y bydd y cymorth y maent yn ei roi yn cael effaith bositif ar y busnes.

Bydd y fenter SEE o fudd i bawb perthnasol. Bydd cyfle i'ch gweithwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn gwella eu rhagolygon gyrfaol a'u potensial i ennill arian yn y tymor hir. Ar yr un pryd, byddwch chi fel cyflogwr yn elwa o gael tim mwy effeithiol sy'n meddu ar well sgiliau i ddarparu gwell canlyniadau i chi; tim sydd wedi ei adfywio a'i ysbrydoli gan yr heriau a'r gwobrau y mae hyfforddiant yn eu cynnig.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Gellir rhannu cymorth i'ch busnes yn 3 cham amlwg:

  1. Yn gyntaf, mae lefel uchel o gymorth ariannol ar gael, felly gallwch fwynhau manteision cael hyfforddiant gyda chymhorthdal i'ch gweithlu.
  2. Yn ail, by'r tim SEE yn eich helpu i wneud asesiad o'ch staff, a chanfod y bylchau yn sgiliau eich tim, a'r cyfleoedd i'w hyfforddi.
  3. Ac yn drydydd, unwaith y cytunir ar gynllun hyfforddi, ein darparwyr hyffordiant cymeradwy'n rheoli'r cyrsiau ar eich rhan. Bydd yr holl gyrsiau'n benodol berthnasol i anghenion eich busnes ac yn cael eu dewis i sichrau'r gorau gan eich tim.

Dyma eich ymrwymiad chi

Rydym yn ddifrifol iawn ynglyn a dymuno helpu busnesau yng ngogledd Cymru i dyfu a ffynnu, ac rydym yn disgwyl lefel o ymrwymiad yn gyfnewid am hynny. Bydd y rhan fwyaf o'r rhaglenni hyfforddiant a gynigir i'ch staff yn gymwysterau NVQ (er bod Dyfarniadau a Thystysgrifau eraill ar gael). Mae'r rhain yn gymwysterau uchel eu parch, a bydd ar eich staff angen eich cefnogaeth a'ch parodrwydd i ganiatau amser o'r gwaith iddynt i hyfforddi.

Er bod cymorthdaliadau da ar gyfer yr hyfforddiant, bydd gofyn hefyd i chi dalu canran o gost y cwrs - yn dibynnu ar faint eich cwmni:

  • mae busnesau bach a microfusnesau'n talu 30% o gostau hyfforddi.
  • mae busnesau canolig yn talu 40% o gostau'r hyffordiant
  • mae sefydliadau mawr yn talu 50% o gostau'r hyfforddiant

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Os yw eich busnes yn gweithredu yng ngogledd Cymru (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Mon), yna mae eich gweithwyr i gyd yn gymwys i gael cymorth SEE.

 

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae SEE yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Chronfeydd yr UE: Buddsoddi yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Gogledd Cymru
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Coleg Cambria