Skills Cymru

Mae digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru yn dod i Landudno a Chaerdydd.

Venue Cymru, Llandudno: 4 - 5 Hydref 2017
Arena Motorpoint, Caerdydd: 11 - 12 Hydref 2017

Mae’r digwyddiadau rhyngweithiol yma yn croesawu dros 100 o sefydliadau sydd yn ysbrydoli bron i 10,000 o ymwelwyr gan gynnig iddynt wybodaeth am y nifer o wahanol gyfleoedd gyrfaol ar gael.

Os pobl ifanc yw’ch marchnad darged chi fel recriwtiaid, myfyrwyr, cyflogeion, prentisiaid, cwsmeriaid neu eu rhieni, eu teuluoedd a’u hathrawon yna dylech chi archebu lle i arddangos eich busnes.

Pam arddangos?

P’un a ydych chi’n arddangos mewn un digwyddiad neu’r ddau byddwch yn ymuno â chyflogwyr, hyfforddwyr ac addysgwyr pennaf o bob rhan o Gymru gan gwrdd â miloedd o unigolion, eu hathrawon a’u rhieni. 

Dyma’ch cyfle chi i recriwtio am swyddi gwag a chyrsiau, dylanwadu a hyrwyddo’ch busnes chi i weithlu yfory Cymru.

Manteision

Mae'r digwyddiadau yn cynnig manteision mawr:

  • Cwrdd wyneb i wyneb â’ch cynulleidfa a rhoi dealltwriaeth well iddyn nhw o anghenion, gofynion a diwylliant eich busnes chi.
  • Dod â’ch busnes yn fyw gan roi mwy o apêl iddo a’i wneud yn fwy cofiadwy wrth i ymwelwyr gyffwrdd, teimlo a chael profiad uniongyrchol o beth sydd gennych chi i’w gynnig.

Dyma beth oedd gan rhai o arddangoswyr blwyddyn ddiwethaf i ddweud am y digwyddiadau:

“Rydym wedi cael ymateb gwych gan y bobl ifanc yn y digwyddiad hwn, yn eu cannoedd. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi’r cyfle i ni eu gwneud yn ymwybodol o’r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa o fewn y cyfryngau, nid cyflwyno ac adrodd i ni yn unig, ond y rhaglennu tu ôl i'r wefan, sydd ag elfen TG gryf.” BBC Cymru Wales

“Rydym yn wynebu her fawr sgiliau yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu denu pobl ifanc talentog i’r diwydiant technoleg a bod ni yn buddsoddi yn eu datblygiad. Mae SkillsCymru yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael profiad ymarferol a dysgu am lwybrau gyrfa.” ESTnet

Ymunwch â ni

I neilltuo lle i’ch stondin chi, neu i gael gwybodaeth bellach am brisiau a chyfleoedd noddi, cysylltwch â 01823 362800, e-bostiwch gabrielle.mcevans@prospects.co.uk neu ymwelwch â www.skillscymru.co.uk/cadwch-le-nawr/-arddangosydd.