Telerau ac amodau

Amodau a thelerau’r wefan

Rheolir www.busnes.cymru.gov.uk gan Lywodraeth Cymru: sef ‘Ni’ isod. Drwy ymweld â’r wefan hon, rydych chi fel defnyddiwr ‘(‘Chi’) yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf, 1 Hydref 2012.

Mae gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yn cynnwys www.busnes.cymru.gov.uk ar gael i chi at ddibenion defnydd ac edrych personol. Mae cyrchu a defnyddio busnes.cymru.gov.uk gyda’r amodau a’r telerau hyn yn arwydd eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn.  Byddant yn weithredol o’r dyddiad i chi ddefnyddio’r wefan hon gyntaf. 

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad yw’n tramgwyddo hawliau, yn cyfyngu nad yn atal defnydd na mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r cyfryw gyfyngiad neu ataliad yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod i unrhyw berson, a throsglwyddiad cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol o fewn y safle hwn. 

Fe’ch gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo drwy’r wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, enllibus, anllad, tramgwyddus na gwarthus neu unrhyw ddeunydd sydd yn, neu sy’n annog, ymddygiad y gellid ei ystyried yn weithred droseddol, sy’n debygol o arwain at atebolrwydd neu rwymedigaeth sifil, neu sydd fel arall yn torri unrhyw gyfraith.  Gwnawn gydweithredu’n llawn gydag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn neu yn ein cyfarwyddo ni i ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy’n gosod unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o’r math ar y wefan

Gosod dolenni i busnes.cymru.gov.uk neu o busnes.cymru.gov.uk

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i osod dolenni i’r wybodaeth sy’n gynwysedig ar y tudalennu hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu â busnes.cymru.gov.uk

Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu fod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi ei chymeradwyo gan busnes.cymru.gov.uk.

Pan fo’n safle’n cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y cysylltiadau hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hyn, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed y gellid ei achosi o’ch defnydd chi ohonynt.

Defnyddio cynnwys busnes.cymru.gov.uk

Cyhoeddir busnes.cymru.gov.uk drwy'r Trwydded Llywodraeth Agored, a chewch atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyn belled â’ch bod yn cadw at delerau’r drwydded honno.

Mae’r deunydd ar y safle hwn wedi ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am wybodaeth bellach.

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Llywodraeth Cymru yn nodau perchnogol i Lywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnydd o’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchir drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw perchennog yr hawlfraint berthnasol. 

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru.
E-bost: brandingqueries@wales.gsi.gov.uk

Ymwadiad

Darperir gwefan busnes.cymru.gov.uk a’r deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau llywodraeth (neu i wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’, heb unrhyw gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed hynny’n benodol neu’n oblygedig yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i’r gwarantau goblygedig o addasrwydd, sicrwydd, cyflawnder a chywirdeb, safon ddigonol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith.
Nid ydym yn gwarantu nac yn arddel, y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon heb amhariad neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, neu y bydd y safle neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei fod ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, gywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw draul, golled neu ddifrod yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw draul, golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnydd, neu golled defnydd, unrhyw ddata, neu golled elw, yn sgil neu mewn perthynas â defnydd www.busnes.cymru.gov.uk neu unrhyw ddibyniaeth ar ei gynnwys. 

Ni ellir gwarantu fod unrhyw drosglwyddiadau data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych atom ni. Felly hefyd, eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych chi atom ni. 

Ni ddylid defnyddio cynnwys gwefan busnes.cymru.gov.uk yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr sicrhau cyngor proffesiynol priodol a pherthnasol i’w hamgylchiadau neilltuol.

Fe allai’r deunydd gynnwys barn neu argymhellion gan drydydd partïon, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nac yn fynegiant o’i ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd a allai godi yn sgil deunydd o’r math gan drydydd parti.

Cyfraith berthnasol

Caiff yr amodau a’r telerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadleuon a gyfyd yn sgil yr amodau a’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelwch rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’i gynhyrchu. Rhaid i chithau gymryd camau diogelwch eich hun i sicrhau nad yw’r prosesau a ddefnyddir gennych chi’n eich gwneud yn agored i risg feirysau, codau cyfrifiadur maleisus neu unrhyw ffurf arall o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi.  Mae hi bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirysau ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol a achosir drwy ddefnyddio deunydd sy’n deillio o'r wefan hon

Fe allwn ddiwygio’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw bryd heb rybudd.  Dylech eu gwirio’n rheolaidd.  Bydd parhau i ddefnyddio gwefan busnes.cymru.gov.uk wedi newid yn arwydd eich bod yn derbyn y newidiadau. 

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau pan fo methiant o’r fath oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni. 
Os ydym Ni’n ildio unrhyw hawliau sydd ar gael o dan yr amodau a’r telerau ar un achlysur, nid yw hynny’n golygu y caiff yr hawliau hynny eu hildio’n otomatig ar unrhyw achlysur arall.
Os ystyrir fod unrhyw rai o’r amodau a’r telerau na ellir eu gorfodi’n gyfreithiol neu’n annilys neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, er hynny, bydd yr amodau a’r telerau sy’n weddill yn parhau’n llawn.

Preifatrwydd a chwcis

Polisi preifatrwydd www.busnes.cymru.gov.uk

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at bolisi preifatrwydd cadarn. Dim ond at y dibenion canlynol yr ydym yn casglu gwybodaeth:
• i’n helpu ni i wneud y wefan i weithio’n well i chi
• i ni fedru cysylltu â chi pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny
• i’n galluogi ni i’ch hysbysu chi o’r newidiadau perthnasol i gymorth busnes os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau
• i’n galluogi ni i roi gwybodaeth leol gywir pan fyddwch ei hangen 
• i ni ddeall sut mae pobl yn defnyddio’r safle, er mwyn i ni fedru ei wella’n gyson

Yr wybodaeth a gesglir gennym

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan bobl sy’n ymweld â’r wefan:
• y cwestiynau, yr ymholiadau a’r adborth a adewir gan bobl, yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn anfon e-bost atom
• manylion personol a busnes cryno (eich enw chi, enw eich busnes, cyfeiriad e-bost a rhanbarth • cyfeiriadau IP ymwelwyr, a manylion y porwr a ddefnyddiwyd ganddynt
• gwybodaeth o’r modd y bydd pobl yn defnyddio’r safle, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau

Os byddwch yn anfon adborth atom, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges.

Mwy am cwcis

Mae www.busnes.cymru.gov.uk yn defnyddio ffeiliau data bychain sydd wedi eu storio ar eich cyfrifiadur a elwir yn ‘cwcis’. Mae’r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn.  Maent yn ein helpu ni i wella eich profiad chi o’n gwefan. Darllenwch at ba ddibenion y byddwn yn eu defnyddio, a sut i reoli eu defnydd ar ein tudalen cwcis

Sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Defnyddir unrhyw wybodaeth a gasglwn i:
• wella cynnwys a chynllun y wefan
• cysylltu â chi (gyda’ch caniatâd) i ymateb i adborth
• cysylltu â chi drwy’n cylchlythyrau i anfon gwybodaeth atoch am gymorth posibl i’ch busnes, a newyddion sy’n gysylltiedig â hynny

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda chyrff eraill at ddibenion masnachol, marchnata nag ymchwil marchnad, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall. 

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o wefannau adrannau llywodraeth a chyrff eraill. Rydym am ei gwneud hi’n glir bod y polisi preifatrwydd hwn (sef yr un yr ydych yn ei ddarllen)  yn perthyn i wefan busnes.cymru.gov.uk yn unig.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch chi i wefan arall o’r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os gwelwch yn dda os ydych am wybod beth fydd y wefan honno’n gwneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i busnes.cymru.gov.uk o wefan arall

Pan fyddwch yn cyrraedd busnes.cymru.gov.uk o wefan arall, mae’n bosib y cawn wybodaeth bersonol amdanoch gan y wefan honno.  Dylech ddarllen bolisi preifatrwydd y gwefannau yr ewch iddynt sy’n cysylltu chi gyda busnes.cymru.gov.uk os ydych eisiau gwybodaeth am hyn.

Cysylltu gyda www.busnes.cymru.co.uk ac o www.busnes.cymru.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â’r wybodaeth sy’n cael ei letya ar y tudalennau hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu ag o.
Fodd bynnag, nid ydym yn eich caniatáu i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â www.busnes.cymru.gov.uk, nac yn cael ei gymeradwyo ganddoennym.

Pan fydd ein safle’n cynnwys dolenni i safleoedd ac adnodda a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd hyn na’r adnoddau sydd arnynt, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd chi ohonynt.