Arthur J Gallagher
Fel un o gwmnïau broceriaeth yswiriant a rheoli risg mwyaf y byd, mae hyfforddiant a datblygu gweithwyr yn hanfodol i lwyddiant Arthur J. Gallagher.
Dechreuodd y cwmni, sy’n cyflogi bobl yn Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd a Thonysguboriau y rhaglen pan welodd bod bwlch sgiliau yn y farchnad.
Sylweddolodd nad oedd llawer o geiswyr gwaith oedd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, o reidrwydd yn meddu ar y sgiliau yswiriant oedd yn ofynnol ar gyfer eu strategaeth cyswllt cwsmeriaid newydd.
Yn 2010, dechreuodd y cwmni weithio gyda’r darparwr dysgu Acorn Learning Solutions Ltd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau. Mae’r cwmni’n darparu tair prentisiaeth ar lefelau gwahanol i staff newydd a phresennol, o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaethau Uwch, gan gynnig ystod o gyfleoedd sydd yn cyd-fynd â model busnes y cwmni.