Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Ar Gyfer Sgiliau a Chyflogadwyedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl i feithrin sgiliau a hyder i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Bydd yn sicrhau hefyd bod cyflogwyr yn gallu dod o hyd i’r gweithlu sydd ei angen arnynt er mwyn i’w busnesau ffynnu.
Mae Sgiliau a Chyflogadwyedd yn feysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn deall mai gorau oll y mae sgiliau pobl, gorau oll y mae eu siawns o gael gwaith teg a sefydlog sy’n rhoi boddhad iddynt.
Y gryfaf mae’r sylfaen sgiliau yng Nghymru, po fwyaf y siawns o ddenu busnesau newydd a thyfu’r busnesau sydd gennym er mwyn gwella ffyniant.
Cynllun Cyflogadwyedd
Nod y cynllun yw mynd i’r afael â diweithdra ac anweithgarwch economaidd ac mae’n nodi pedwar prif faes:-
• Darparu cymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra i’r unigolyn.
• Pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i uwchsgilio a chefnogi eu staff.
• Ymateb i’r bylchau presennol o ran sgiliau, a’r rhai a ragwelir.
• Paratoi ar gyfer newid sylfaenol ym myd gwaith.
Adroddiad cynnydd y cynllun cyflogadwyedd Mawrth i Medi 2018


Datganiad Iaith Gymraeg
Mae’r Porth Sgiliau i Fusnes yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid.
Caiff y cynnwys ar y wefan sydd gennym gyfrifoldeb uniongyrchol amdano ei gyhoeddi’n ddwyieithog ac mae’n cydymffurfio â’r Safonau’r Gymraeg, y set o ofynion statudol sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
Lle darperir dolenni i wybodaeth di-Lywodraeth Cymru ystyriwn naill ai'n bwysig a/neu berthnasol i’r cyd-destun a’r maes pwnc, mae’n gyfrifoldeb y safleoedd allanol hyn i adolygu eu rhwymedigaethau i’r Iaith Gymraeg a’r gofyniad i gydymffurfio a Safonau’r Gymraeg lle bo’n berthnasol.
Am fwy o wybodaeth ar Safonau’r Gymraeg ewch i Gwefan Comisiynydd y Gymraeg