CANLLAW I DDEWIS EICH HYFFORDDIANT

1.    Hyfforddiant mewnol

Dywedwyd yn aml mai'r ffordd orau o wneud yn siŵr bod cyflogai yn deall pwnc yn drylwyr yw drwy iddynt hyfforddi eraill.

Efallai y byddwch am gynllunio a rhedeg eich hyfforddiant eich hun neu weithio mewn partneriaeth â sefydliadau tebyg i chi, neu gyda chwsmeriaid neu gyflenwyr. 

Mae rhai o fanteision hyfforddiant mewnol yn cynnwys:

  • Mae'n cynnig gwerth am arian gan nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i bobl fod i ffwrdd o’r safle, gan arbed ar gostau teithio neu gynhaliaeth.

  • Nid oes angen ystyried sut i drosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd yn ôl i ddiwylliant neu arferion gwaith eich busnes.

  • Y gallu i addasu hyfforddiant i'ch union anghenion neu weithdrefnau busnes.

  • Mae’n fwy hyblyg o ran amserlennu.

  • Y gallu i addasu hyfforddiant yn ystod y ddarpariaeth os oes angen.

  • Mae'n gwella cyfathrebu mewnol, gwaith tîm a pherthnasau yn eich sefydliad.

Efallai y bydd cyfle masnachol i werthu arbenigedd hyfforddiant eich busnes chi i eraill. 

Daw hyfforddiant mewnol i'r rhan fwyaf o gyflogeion trwy hyfforddiant anffurfiol yn y gwaith.  Gallai hyn gynnwys cyflogeion yn hyfforddi cydweithwyr, rheolwyr yn hyfforddi
cyflogeion, neu hyfforddwr penodedig mewnol.

Fodd bynnag, gall hyd yn oed y busnesau lleiaf heb unrhyw gyllideb hyfforddi wneud hyfforddiant mewnol.

Gallai mathau o hyfforddiant mewnol gynnwys:

  • cysgodi swydd
  • coetsio neu fentora  
  • cylchdroi swydd
  • prosiectau neu aseiniadau arbennig
  • trosglwyddo hyfforddiant - pan fydd un cyflogai yn mynd ar gwrs (neu ar-lein) ac yna'n trosglwyddo'r wybodaeth i gyflogeion eraill

Gellir cynnal mathau mwy strwythuredig o hyfforddiant mewnol mewn ystafell gyfarfod, neu debyg; neu dros y rhyngrwyd a gall gynnwys pynciau fel:

  • sgiliau rheoli megis cyfathrebu, cyflwyno ac arwain
  • pecynnau cyfrifiadurol
  • cyllid
  • gwerthu a marchnata
  • cynllunio busnes
  • gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol

2.    Hyfforddiant allanol

Os nad oes gennych y sgiliau neu'r adnoddau i hyfforddi eich cyflogeion yn fewnol, efallai y byddwch chi'n dewis defnyddio darparwr hyfforddiant allanol.

Gall defnyddio darparwr hyfforddiant allanol gynnig nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Maent yn arbenigwyr yn y pwnc, yn eich sector busnes, ac yn meddu ar y sgiliau i hyfforddi eraill.
  • Gallant roi gwybod i chi a'ch cyflogeion am yr arfer gorau cyfredol a syniadau newydd a'ch helpu i feincnodi yn erbyn cystadleuwyr.
  • Mae'n rhoi cyfle i'ch cyflogeion rwydweithio â phobl o gwmnïau neu sectorau eraill.
  • Gall eich cyflogeion ddysgu'n well i ffwrdd o’u hamgylchedd gwaith arferol.

Fodd bynnag, mae angen i chi hefyd ystyried rhai o'r anfanteision, gan gynnwys:

  • Gall hyfforddiant allanol amharu ar eich busnes - oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi anfon tîm cyfan i ffwrdd o'r swyddfa ar yr un pryd.
  • Mae hyfforddiant allanol yn ddrutach na hyfforddiant mewnol.
  • Efallai na fydd yr hyfforddiant yn benodol i'ch busnes chi a bydd angen  ystyried sut i drosglwyddo'r dysgu yn ôl i'ch prosesau busnes eich hun.

Dewis darparwr hyfforddiant allanol

Wrth benderfynu pa fath o hyfforddiant neu ddarparwr hyfforddiant yr hoffech ei ddefnyddio, ystyriwch y canlynol:

  • A yw'r darparwr yn deall fy amcanion hyfforddi a gofynion fy sector?
  • A yw'r hyfforddiant ar y lefel gywir ar gyfer y rhai yn fy musnes ac a fydd yn arwain at unrhyw achrediadau neu gymwysterau?
  • A yw'r darparwr yn cynnig amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer fy mhobl?
  • Sut mae'r hyfforddiant yn cael ei asesu?
  • A yw'r darparwr wedi cael unrhyw gymeradwyaeth gan fy nghorff masnach neu gorff proffesiynol?
  • A all y darparwr fy nghyflwyno i gleientiaid bodlon neu gynnig tystlythyrau?
  • A yw'r cwrs yn cynnig gwerth am arian?

3.    Ffynonellau gwybodaeth a darpariaeth

Mae yna lawer o gwmnïau masnachol a cholegau sy'n gallu darparu hyfforddiant generig ac arbenigol.  Fodd bynnag, efallai y gallech hefyd gael cyngor, cefnogaeth,  ac
adnoddau gan: 

Llywodraeth Cymru: BOSS

Mae Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) Llywodraeth Cymru yn cynnig amrediad o gyrsiau ar-lein am ddim ar bynciau sy’n cynnwys:

  • Coetsio i Arweinwyr
  • Creu Timau Llwyddiannus
  • Cyflwyniad i Reoli Prosiectau
  • Cynefino Effeithiol
  • Gwneud Penderfyniadau
  • Llunio Cyflwyniadau Effeithiol
  • Mentora Eraill yn Effeithiol
  • Rheoli Absenoldeb
  • Rheoli Eich Amser
  • Pennu Amcanion a Monitro Perfformiad
  • Ymdopi â Newid yn y Gweithle

Gellir cofrestru am ddim ac yn syml ar https://businesswales.gov.wales/cy/boss

Sefydliadau masnach

Mae sefydliadau masnach yn deall anghenion hyfforddiant cyfredol busnesau yn eu sector yn ogystal â'r sgiliau hynny y mae'n debygol y bydd eu hangen yn y dyfodol.   Byddant yn
aml yn argymell darparwyr hyfforddiant preifat cymeradwy neu’n cynnig awgrymiadau ar ddod o hyd i rai ag enw da.  Weithiau maent yn cynnig eu cyrsiau hyfforddi eu hunain.
Cyrff proffesiynol

Gall y rhain gynnig neu argymell cyrsiau hyfforddi a gwybodaeth sy'n llai sector-benodol a mwy cyffredinol, er enghraifft yn ymwneud ag allforio neu gyfrifyddiaeth.  Yn aml mae
ganddynt gydnabyddiaeth broffesiynol, yn enwedig os yw'r hyfforddiant yn rhan o raglen datblygiad proffesiynol parhaus.

Cynghorau Sgiliau Sector

Mae’r rhain yn sefydliadau annibynnol dan drwydded y llywodraeth sy'n dwyn ynghyd cyflogwyr, undebau llafur a chyrff proffesiynol.  Eu nod yw nodi a mynd i'r afael â phrinder
sgiliau a bylchau yn ôl sector. 

Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gorff sy'n cynrychioli Cymru gyfan ar gyfer yr holl sefydliadau neu unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant hyfforddi.  
Mae'r aelodau'n amrywio o ddarparwyr hyfforddiant arbenigol bach i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac
elusennau.

ColegauCymru 

Corff cenedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli’r holl golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.  Mae’r colegau yn gweithio’n agos gyda busnesau, yn datblygu
cyrsiau wedi'i deilwra i uwchsgilio’r gweithlu, darparu Prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, a chyrsiau ar lefel addysg uwch e.e. DCU, Graddau Sylfaen.
 

 

Lawrlwythwch