KWT Accounting
Mae busnes bach yn Shotton wedi dod o hyd i'r ateb perffaith i’w anghenion recriwtio fel busnes sy’n tyfu, sef y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd.
Mae Gwasanaethau Cyfrifyddu KWT wedi manteisio ar y rhaglen er mwyn helpu i oresgyn prinder sgiliau yn y busnes ar ôl iddo ddechrau tyfu’n gyflym.
Dywedodd Ken Taylor, y perchennog a’r cyfarwyddwr a sefydlodd y busnes fel unig fasnachwr naw mlynedd yn ôl: “Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n wych ond sydd hefyd wedi golygu fy mod wedi'i chael yn anodd rheoli'r llwyth gwaith sy’n dod i mewn gan gleientiaid a chadw ar ben fy ngwaith gweinyddol fy hun.
“Es at fy narparwr hyfforddiant lleol i drafod yr heriau roedd fy musnes yn eu hwynebu a sut byddai modd i mi fynd i’r afael â'r problemau o ran recriwtio. Fe wnaethon nhw awgrymu fy mod yn defnyddio'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i ddod o hyd i rywun â’r sgiliau a’r cymwysterau addas i lenwi'r bwlch sgiliau yn y busnes.
“Fe ddaethom o hyd i glerc cymwys a phrofiadol iawn a oedd yn fodlon gweithio'r oriau rhan amser y gallwn eu cynnig ac mae hi wedi bod yn gaffaeliad gwych i'r busnes. Mae hi wedi cymryd rheolaeth lwyr dros y gwaith anfonebu a gweinyddu ac mae hi’n mynd ati’n gyflym iawn i ddysgu’r prosesau digidol a fydd yn angenrheidiol i'w rheoli yn y tymor hir.
“Mae cael aelodau ychwanegol o staff wedi bod yn hanfodol er mwyn helpu fy musnes i dyfu ac y mae wedi golygu bod gen i amser rhydd i allu rheoli’r llwyth gwaith gan gleientiaid, sy’n tyfu. Fyddwn i ddim wedi gallu cadw'r busnes i fynd heb gymorth y staff rydw i wedi’u recriwtio drwy’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd. Mae wedi bod yn ffordd wych o recriwtio staff cymwys a medrus yn gyflym ac yn effeithiol er mwyn goresgyn yr anawsterau roedd y busnes yn eu hwynebu o ran adnoddau staff.
“Wrth i’r busnes barhau i dyfu, byddaf yn sicr o ddefnyddio’r rhaglen at ddibenion recriwtio eto, ac fe fyddwn yn argymell bod busnesau bach eraill sy’n wynebu problemau o ran recriwtio yn ei defnyddio hefyd.”
Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi’i dylunio i roi hyder a phrofiad i unigolion fynd ati i gael swyddi drwy leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith, gweithdai hyfforddi sgiliau a chyflogadwyedd, uwchsgilio mewn sgiliau hanfodol a staff cynorthwyol ymroddgar.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma.