Sgiliau Sero Net
EIN NOD: Datblygu gweithlu medrus a fydd yn cefnogi ein her sero net.
Beth mae sgiliau sero net yn ei olygu i'ch busnes?
Mae'r galw am sgiliau sero net yn tyfu ledled Cymru. Mae'r rhain yn sgiliau sydd eu hangen i helpu i gefnogi ein taith i Sero Net erbyn 2050. Mae ein heconomi yn newid, ac mae angen i bob un ohonom addasu'r ffordd rydym yn gweithio i gyflawni'r newidiadau hyn – felly bydd buddsoddi mewn sgiliau yn ffactor allweddol wrth gyflawni nodau a rennir.
Gall buddsoddi yn y modd hwn olygu llawer o fanteision;
- Llai o gostau ynni ac effeithlonrwydd tymor hwy
-
Mwy o ffocws ar gynaliadwyedd
-
Gwella’u siawns o ennill busnes newydd
-
Arloesi o ran cynhyrchion a gwasanaethau
-
Cynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau buddsoddiad a chontractau newydd
-
Dod yn fwy effeithlon a gwneud eu busnes yn gryfach
-
Gwella delwedd eu brand a meithrin ymddiriedaeth a ffyddlondeb cwsmeriaid
-
Gosod arferion gorau y gall eraill eu dilyn
-
Bodloni safonau a rheoliadau
-
Datblygu gweithlu mwy amrywiol a hyblyg
Ennill y fantais gystadleuol honno wrth gefnogi ein Nodau Sero Net
Pa gymorth sydd ar gael i chi?
Er mwyn eich helpu i ddeall manteision ac effeithiau buddsoddi mewn hyfforddiant, cymwysterau a sgiliau ar gyfer eich gweithlu, mae gennym nifer o opsiynau ar gael, sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion busnes penodol.
Rydym yn deall efallai nad tyfu sgiliau sero net o fewn eich busnes fydd eich blaenoriaeth uniongyrchol. Oherwydd blaenoriaethau neu bwysau eraill, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd rhyddhau staff i fynychu cyrsiau neu ddim yn gwybod beth yw eich opsiynau neu'r cymorth sydd ar gael. Rydym yn datblygu pecyn cymorth i'ch helpu i ddeall eich opsiynau i uwchsgilio eich staff ar gyfer sero net.
Mae llawer o'n rhaglenni hyfforddi a'n llwybrau uwchsgilio eisoes yn cefnogi setiau sgiliau y mae diwydiant a busnesau yn galw amdanynt. Mae cymorth a chyngor ar gael drwy ein holl gynlluniau
Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Rydym wedi cynnwys elfen Sero Net yn benodol yn y rhaglen hyfforddi hon. Wedi'i anelu at bob cyflogwr yng Nghymru sy'n bwriadu adolygu eu harferion gwaith a buddsoddi mewn uwchsgilio eu gweithlu. Mae'r rhaglen yn caniatáu i chi hawlio cyllid o 50% i gefnogi ystod o bynciau hyfforddi:
Meysydd Hyfforddiant a Gymeradwywyd Ymlaen Llaw
Pynciau Hyfforddiant | Buddion i Fusnes |
---|---|
Ynni Adnewyddadwy, a Chynhyrchu Gwres, gan gynnwys Effeithlonrwydd a Rheolaeth Ynni |
Bydd yr angen i adolygu a newid ffynonellau gwres ac ynni yn ffactor hanfodol wrth helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â chostau rhedeg busnes. Gall y gweithredoedd gynnwys;
|
Dal, Defnyddio a Storio Carbon |
Gweler uchod |
Newid tanwydd (oddi wrth nwy naturiol a/neu danwyddau ffosil eraill heb systemau rheoli carbon) |
Gweler uchod |
Economi Gylchol, Deunyddiau Cynaliadwy a Gwastraff |
Deall manteision ac ymarferoldeb dull economi gylchol ac effeithlonrwydd adnoddau fel ffordd o leihau allyriadau carbon (ac arbed arian) I gynnwys:
Hyfforddiant a Gwybodaeth am ddim Trosolwg byr o pam mae'r economi gylchol ar gael trwy BSI Group: Yn fuddiol i sefydliadau a sut y gall BS 8001 eich helpu i gymryd camau tuag at ddod yn fwy cylchol a chreu gwerth uniongyrchol ac anuniongyrchol. Wedi'i anelu at swyddogion gweithredol, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac uwch reolwyr |
Symudedd a Chludo Trydan |
Bydd y newid i'r defnydd o gerbydau trydan yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau allyriadau carbon a chefnogi sector trafnidiaeth gwyrddach a glanach I gynnwys:
|
Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Pren a Defnydd Tir |
Helpu i gefnogi'r newid i arferion amaethyddol cynaliadwy, amaethgoedwigaeth a dal carbon a rheoli defnydd tir ar gyfer lliniaru carbon. |
Cynlluniau datgarboneiddio a chyfrifyddu carbon |
Cyfeirir ato hefyd fel Hyfforddiant Llythrennedd Carbon – gyda'r nod o leihau ôl troed carbon a chefnogi gofynion adrodd. Y gall hyfforddiant ei gefnogi;
|
Codi ac Ôl-osod Adeiladau Preswyl |
Mae newid y ffordd rydym yn adeiladu, addasu, gwresogi a rhedeg ein cartrefi yn elfen hanfodol o ran cyflawni sero-net. Bydd darparu sgiliau mewn ystod eang o dechnegau Adeiladu ac Ôl-ffitio yn helpu i godi sylfaen sgiliau'r gweithlu presennol i gyflawni'r canlyniadau cywir i'r sector a chodi lefelau gwybodaeth mewn egwyddorion, safonau adeiladu a chymhwysedd |
Arweinyddiaeth a Rheoli |
Mae newidiadau i arferion busnes yn gofyn am dîm arwain medrus i ysgogi newid ac ymgorffori arferion ac egwyddorion newydd Gall y rhain gynnwys meysydd fel;
|
Gellir dod o hyd i fanylion sut i wneud cais yma;
Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)
Beth yw'r sgiliau a'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i chi nawr?
Os ydych yn bwriadu ehangu eich gweithlu, mae llawer o opsiynau a llwybrau ar gael.
Rhaglenni Sgiliau a Hyfforddiant yng Nghymru
Datblygu gweithlu hyfedr - Unigolion Di-waith
Di-waith | Gwybodaeth/dolenni |
---|---|
Y Warant i Bobl Ifanc (16-24 oed) | Darparu cefnogaeth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig. Gwarant i Bobl Ifanc hunangyflogedig | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru) |
ReAct+ (20+ oed) | Cynnig pecyn cymorth i helpu rhywun sydd wedi colli ei swydd yn y 6 mis diwethaf neu gyn-droseddwr/troseddwr sydd wedi cael dedfryd gymunedol, i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. ReAct Plus | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru) |
Prentisiaethau (16+ oed) | Ennill cymhwyster cydnabyddedig a sgiliau hanfodol wrth i chi weithio ac ennill cyflog. Prentisiaethau | Gyrfa Cymru (llyw.cymru) |
Cymunedau am Waith+ |
Darparu cymorth cynghori cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, gan eu helpu i sicrhau cyflogaeth. Cymunedau am Waith a Mwy | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru) |
Twf Swyddi Cymru+ (16-19 oed) | Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy'n rhoi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i gael swydd neu hyfforddiant pellach. Twf Swyddi Cymru Plws | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru) |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned | Darparu dysgu i oedolion mewn amrywiaeth o gyrsiau yn y gymuned leol. (Gwefannau Awdurdodau Lleol). |
Addysg Bellach (ar ôl 16 oed) | Addysg Bellach yng Nghymru ar ôl 16 sy'n darparu cyrsiau rhan-amser a llawnamser, sy'n cynnwys colegau a'r chweched dosbarth. |
Addysg Uwch (ar ôl 18 oed) | Cyrsiau a chymwysterau a ddarperir gan brifysgolion fel diplomâu, graddau sylfaen a graddau baglor. |
Datblygu gweithlu hyfedr - Unigolion Cyflogedig
Cyflogedig | Gwybodaeth/dolenni |
---|---|
Cyfrifon Dysgu Personol (19 oed) | Darparu cyllid i unigolion astudio cyrsiau a ariennir yn llawn yn rhan-amser a chyrsiau hyblyg wrth weithio. Cyfrifon Dysgu Personol | Gyrfa Cymru (llyw.cymru) |
ReAct+ (20+ oed) | Cynnig pecyn cymorth i helpu rhywun sydd wedi cael hysbysiad colli swydd ffurfiol i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. ReAct Plws | Cymru'n Gweithio (llyw.cymru) |
Prentisiaethau (16+ oed) | Ennill cymhwyster cydnabyddedig a sgiliau hanfodol wrth i chi weithio ac ennill cyflog. Prentisiaethau | Gyrfa Cymru (llyw.cymru) |
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru | Gall Undebau Llafur ddefnyddio arian i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithlu. Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru) |
Addysg Bellach (ar ôl 16 oed) | Addysg Bellach yng Nghymru ar ôl 16 sy'n darparu cyrsiau rhan-amser a llawnamser, sy'n cynnwys colegau a'r chweched dosbarth. |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned | Darparu dysgu i oedolion mewn amrywiaeth o gyrsiau yn y gymuned leol. (Gwefannau awdurdodau lleol). |
Addysg Uwch (ar ôl 18 oed) | Cyrsiau a chymwysterau a ddarperir gan brifysgolion fel diplomâu, graddau sylfaen a graddau baglor. |
Datblygu gweithlu hyfedr - Cyflogwyr
Rhaglenni | Gwybodaeth/dolenni |
---|---|
Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Cyllid o 50% ar gyfer hyfforddiant hyblyg i gefnogi cyflogwyr i uwchsgilio eu staff mewn Sgiliau Digidol, Allforio, Sero-Net, Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Creadigol, a Thwristiaeth a Lletygarwch. Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru) |
ReAct+ (20+ oed ac anabl) | Cynnig cymhorthdal cyflog o hyd at £4,000 mewn rhandaliad chwarterol i gyflogi person anabl 20 oed neu'n hŷn. ReAct+ | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru) |
Prentisiaethau | Recriwtio prentis i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Hyfforddiant wedi'i ariannu'n llawn drwy'r rhwydwaith o ddarparwyr Hyfforddiant Prentisiaeth. Recriwtio prentis: canllawiau i gyflogwyr | GOV. CYMRU |
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru | Gall Undebau Llafur ddefnyddio arian i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithlu. Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF) | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru) |
BOSS/Cymorth Busnes | Mae'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein am ddim a grëwyd gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i'ch cefnogi i ddechrau a rhedeg eich busnes yn llwyddiannus. Tudalen hafan | BOSS (llyw.cymru) |
Twf Swyddi Cymru + | Mae'n cynnig cymorthdaliadau cyflog a chymorth wedi'i deilwra i helpu i dyfu eich gweithlu. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn chwilio am eich help i greu cyfleoedd cyflogaeth, sesiynau blasu gwaith, neu leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc. Twf Swyddi Cymru+ | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru) |
Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net
Os ydych eisiau gwybod mwy am yr hyn y mae Cymru'n ei wneud i gefnogi'r anghenion sgiliau wrth i ni drosglwyddo i'n dyfodol Sero Net yna bydd ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn helpu. Mae'n cynnwys 36 o gamau gweithredu dros 7 Blaenoriaeth, gyda'r nod o helpu i nodi a darparu'r sgiliau cywir nawr ac yn y dyfodol i gefnogi ein taith sero net.
Hoelio Sylw ar Hanesion o Lwyddiant yng Nghymru
Mae mwy a mwy o fusnesau'n mynd ati i wella’u cynaliadwyedd ac i ddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn eu cael ar y bobl a'r lleoedd o'u hamgylch. Mae'r rhain yn gymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel ac sy'n gweld y manteision sy’n gysylltiedig â sicrhau bod gan eu gweithlu y sgiliau cywir.
Rydym wedi datblygu nifer o astudiaethau achos byr, sy’n tynnu sylw at rai o'r newidiadau y mae cyflogwyr yn eu gwneud ar hyn o bryd. Mae’r astudiaethau hynny’n dangos sut mae’r newidiadau’n effeithio ar eu harferion busnes ond hefyd yr effaith y maent yn ei chael o ran datblygu gweithlu medrus a fydd yn gallu ymateb i heriau'r dyfodol.
https://www.llyw.cymru/astudiaethau-achos-sgiliau-sero-net
Gobeithio y bydd yr enghreifftiau hyn yn eich helpu i weld y posibiliadau o’r newydd ac i benderfynu buddsoddi mewn sgiliau.
Am fod yn rhan o’r sgwrs a dylanwadu ar sgiliau'r dyfodol?
Hoffem ddeall mwy am y rhwystrau a’r heriau sy’n eich hwynebu wrth ichi fynd ati i wella sgiliau’ch staff er mwyn helpu i wireddu’n hymrwymiadau sero net erbyn 2030.
Wrth inni fynd ati i ddatblygu'r cynllun, gwnaethom drafod yn helaeth â rhanddeiliaid sy’n frwd o blaid darparu'r sgiliau a'r cyfleoedd cywir a fydd yn helpu i wireddu’n hymrwymiad sero net, yn ogystal â helpu Cymru i dyfu ac i ffynnu.
Byddwn yn parhau i wneud hynny er mwyn inni i gyd feithrin dealltwriaeth lawn o anghenion busnesau, yr anghenion at y dyfodol, a'r sgiliau sydd eu hangen.
Diben y camau gweithredu yn y cynllun yw creu system sgiliau fwy hyblyg, ymatebol, ac ystwyth yng Nghymru. Ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain: mae angen i bobl o nifer o feysydd ddod ynghyd i fynd â’r maen i’r wal, ac mae hynny'n cynnwys cyfraniadau gennych chi fel cyflogwyr.
Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith hwn, mae nifer o opsiynau a nifer o sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw: NetZeroSkills@gov.wales
Lle gallwch chi fynd er mwyn cael Cymorth a Chefnogaeth?
Mae gwahanol opsiynau ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth i’w gweld ar wefan Busnes Cymru - Recriwtio a Hyfforddi. Darganfod mwy at Yn Gefn i Chi