Cynnydd ar gyfer Llwyddiant

Prif ddiben rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yw gwella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer sector y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.

Nod y rhaglen yw creu cyfleoedd i'r rheini sydd eisoes yn ymarferwyr ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau, a gwella'r gofal, y cymorth a'r profiad y maent yn ei rannu â'r plant yn eu gofal.

O Medi 2019, mae'r rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant wedi darparu arian penodol i dreialu'r fframweithiau prentisiaeth ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD) a Gwaith Chwarae i 500 o ymarferwyr sy'n gweithio rhwng 10 ac 16 awr yr wythnos yng Nghymru ar hyn o bryd.

O Chwefror 2021, bydd rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn darparu arian am y Dyfarniad Lefel 3 mewn Trawsnewid i Waith Chwarae (o'r Blynyddoedd Cynnar) ar draws Cymru.

O Chwefror 2022, bydd rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn darparu arian am y Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwith Chwarae (L2 APP) a Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) ar draws Cymru.

Bydd cyfle i'r ymarferwyr ddilyn eu hyfforddiant yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog (yn Gymraeg ac yn Saesneg).

Caiff yr hyfforddiant hwn ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, a chaiff ei gyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru gan Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a fydd wedi'u contractio.

Mae 100% o'r cyllid ar gael i fusnesau wella sgiliau eu staff ac ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.

Dyma restr o'r darparwyr ym mhob ardal a'u manylion cyswllt: Darparwyr Hyfforddiant

Bydd mwy o gyfleoedd ar gael drwy raglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn y dyfodol agos.

Cymhwystra:

Dyma'r fframweithiau penodol sy'n gymwys i gael cyllid:

  • Prentisiaeth Gwaith Chwarae Lefel 2
  • Prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2
  • Prentisiaeth Gwaith Chwarae Lefel 3
  • Prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 Mae'n rhaid i'r unigolion fod wedi'u cyflogi, â chontract cyflogaeth rhwng 10 ac 16 awr yr wythnos, mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, gofal plant neu chwarae (efallai y bydd cyflogeion sy'n gweithio mwy nag 16 awr yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Brentisiaeth brif ffrwd)
  • Gall y lleoliad blynyddoedd cynnar, gofal plant neu chwarae fod wedi'i gofrestru neu heb ei gofrestru; fodd bynnag, mae'n rhaid i leoliadau sydd heb eu cofrestru allu dangos eu bod yn gweithio tuag at gael eu cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 
  • Mae'n bosibl y bydd meini prawf eraill yn gymwys
  • Lefel 3 mewn Trawsnewid i Waith Chwarae (o’r Blynyddoedd Cynnar)
  • Yr lleoliad cyflogaeth yn Cymru
  • Cyfrangwyr dros yr oedran 18
  • Cyfrangwyr sydd yn cyflogedig ac yn dal cytundeb cyflogaeth mewn lleoliad blynyddoedd cynnar,gofal plant neu chwarae
  • Cyfrangwyr sydd wedi a gyrhaeddwyd yn flaenorol mewn lefel 3 CCLP cymhwyster
  • Mae'n bosibl y bydd meini prawf eraill yn gymwys
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) a Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3)
  • Yr lleoliad cyflogaeth yn Cymru
  • Cyfrangwyr dros yr oedran 18
  • Cyfrangwyr sydd yn cyflogedig ac yn dal cytundeb cyflogaeth mewn lleoliad blynyddoedd cynnar,gofal plant neu chwarae
  • Mae'n bosibl y bydd meini prawf eraill yn gymwys

Gall busnesau sydd â diddordeb yn y rhaglen gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy'r cyfeiriad ebost earlyyears@llyw.cymru i ddechrau.

Gall busnesau hefyd gysylltu'n uniongyrchol â'r darparwr hyfforddiant yn eu hardal.

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cenedlaethol
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru