Twristiaeth

Mae Cymru angen mwy o...

Gogyddion, Staff Bar, Hyfforddwyr Awyr Agored, Rheolwyr Bwytai,  Gweinyddion a Gweinyddesau, Gweithwyr Marchnata Proffesiynol,  Rheolwyr Gwestai, Rheolwyr Arlwyo, Gynorthwywyr Cegin.

Beth yw’r fantais ichi?

  • Cydbwysedd gwaith/bywyd. Oriau hyblyg a rhan-amser mewn rhai swyddi.
  • Datblygiad. Cyfle i ddod mewn ar y gwaelod a gweithio eich ffordd i fyny.
  • Amrywiaeth. Digon o brofiadau a chyfleoedd amrywiol, mae pob diwrnod yn wahanol.
  • Pobl. Cyfle i weithio a dysgu fel aelod o dîm.

Diddordeb? Beth nesaf?

Dechreuwch rwydweithio.

Mae rhwydweithio a lledu’r gair yn bwysig yn y diwydiannau Twristiaeth a Lletygarwch. Mae’r swyddi’n cynnwys cyswllt dyddiol â’r cyhoedd, sy’n golygu bod cyflogwyr yn chwilio am bobl hawdd gwneud â nhw ac sy’n gyfathrebwyr da. Beth am alw mewn gwesty, bwyty neu ganolfan gweithgareddau leol a chyflwyno’ch hun a gadael CV gyda nhw? Adeiladwch eich rhwydwaith o gysylltiadau i’ch werthu eich hun. 

Ennill profiad.

Mae llawer yn dewis gweithio yn y diwydiant yn gyntaf a phrofi’r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael cyn penderfynu pa lwybr gyrfa maent am ei ddilyn. Manteisiwch ar gymaint o brofiad gwaith ag y gallwch!

Sgiliau cymdeithasol.

Gyda 44% o gwsmeriaid yn defnyddio’r cyfryngau digidol i archebu gwyliau, i edrych am bethau i’w gwneud, i rannu lluniau a chynnwys neu i gyflwyno adolygiadau; mae gwybodaeth ddigidol ac arbenigedd yn y cyfryngau cymdeithasol yn sgiliau defnyddiol sy’n yn atyniadol i gyflogwyr twristiaeth. Cofiwch hefyd fod nifer o gyflogwyr yn defnyddio twitter a facebook i hysbysebu swyddi. 

Eich gyrfa.

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu’ch gyrfa i gyrraedd brig y diwydiant, mae yna gyfleoedd niferus ym meysydd Twristiaeth a Lletygarwch. Mae llawer o’r swyddi yn y diwydiant yn ymarferol heb fod angen cymwysterau i gychwyn. Gallech ddilyn llwybr prentisiaeth a fydd yn eich galluogi i ddysgu wrth wneud y 
swydd, ennill cymhwyster ac ennill cyflog. I chwilio am brentisiaeth, darganfod cwrs neu os am fwy o wybodaeth, am Yrfaoedd mewn twristiaeth, ewch i www.gyrfacymru.com/golwgardwristiaeth

Lawrlwythwch y daflen isod:


Taflen Gyrfa Cymru

Wyddech chi?

  • Mae Twristiaeth Gweithgareddau Awyr Agored yn gyfwerth â £481miliwn 
  • Mae hynny’n 8,000 o swyddi yng Nghymru
  • Mae ymwelwyr yn gwario tua £14miliwn y diwrnod, sef £5.1 biliwn y flwyddyn