Sut gall gweithwyr hŷn helpu fy musnes i?
Bydd cadw, hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn yn sicrhau bod y gweithwyr sydd eu hangen gennych chi wrth i lai o bobl ifanc ymuno â’r farchnad waith.
Efallai hefyd y bydd angen i lawer barhau i weithio’n hirach, mewn ymateb i gynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 66 erbyn 2020 a 67 erbyn 2028.
Ond mae’r manteision yn ymwneud ag ansawdd gweithwyr ac nid niferoedd yn unig. Dywed cyflogwyr fod manteision di-ri o gyflogi pobl hŷn fel rhan o weithlu amlgenhedlaeth – a risgiau o beidio â gwneud hynny hefyd.
- amrywiaeth ehangach o brofiad a sgiliau
- ffyddlon, dibynadwy, ymroddedig a chydwybodol
- trosglwyddo sgiliau ar draws y gweithlu trwy fentora
- llai o drosiant staff ac felly llai o gostau recriwtio
- gwella ysbryd ymhlith staff
- mae cymdeithas sy’n heneiddio yn golygu cwsmeriaid sy’n heneiddio. Gall eich gweithwyr hŷn roi persbectif gwahanol i chi.
- prinder sgiliau a fydd yn effeithio ar eich busnes
- colli profiad a gwybodaeth gweithwyr hirsefydlog
- tangyflawni ymhlith staff ddim yn cael ei gymell gan ddiffyg cyfleoedd datblygu
- staff yn gadael cyn pryd oherwydd diffyg cyfleoedd i weithio’n hyblyg neu ddewisiadau ymddeol yn raddol
- hawliadau ar sail gwahaniaethu ar sail oedran a chostau cysylltiedig
- costau recriwtio drud a diangen.