Cyflogaeth Pobl Anabl
Ydych chi’n cyflogi pobl anabl? Hoffech chi ehangu’r gronfa dalent sydd ar gael ichi a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eich gweithlu? Neu ydych chi am gefnogi’r gweithwyr anabl sydd eisoes yn rhan o’ch gweithlu?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, gan greu amodau lle gall pob unigolyn ffynnu.
Yn draddodiadol mae cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn sylweddol is na chyfradd cyflogaeth pobl nad ydynt yn anabl.
Mae ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos mai cyfradd cyflogaeth pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 50%, o’i gymharu ag 81% o bobl nad ydynt yn anabl.
Mae angen gweithredu i gau’r bwlch cyflogaeth hwn. Un o’r ymrwymiadau allweddol a nodwyd yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r nifer o gyflogwyr sy’n creu gweithleoedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae’r wybodaeth a’r cymorth a gyflwynir yma yn annog ac yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth, gan ddangos y gallwch ddatblygu eich arferion recriwtio a chyflogaeth yn hawdd i wella canlyniadau swyddi a rhagolygon gyrfa i bobl anabl, cael mynediad at gronfa dalent, a manteisio ar weithlu amrywiol.
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.
Beth yw e?
Gwasanaeth unigryw am ddim yw hwn i bob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo faint y busnes. Gall yr Hyrwyddwyr gysylltu â chi mewnffordd sy'n addas i chi a'ch busnes ar sail un-i-un neu mewn cyfarfodydd staff.
P'un a ydych chi am gyflwyno talent newydd i'ch tîm, cadw staff presennol sydd wedi mynd yn anabl, neu am sicrhau bod eich gweithle a'ch polisïau Adnoddau Dynol yn gynhwysol, gall yr Hyrwyddwyr helpu. Gallan nhw roi cyngor ar hyn a'r canlynol:
- Recriwtio cynhwysol;
- Cymorth ariannol;
- Cyngor ymarferol ar gadw staff.
Sut fydda' i'n elwa o hyn?
Drwy gysylltu â Hyrwyddwr cewch gyfle i gael pecyn cymorth pwrpasol ar gyfer eich busnes – a fydd yn helpu i sichrau bod eich busnes yn arwain y ffordd o ran cynwysoldeb.
Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru.