Datblygu eich Busnes
Cynnal a datblygu eich busnes drwy gael y bobl iawn, sydd â'r sgiliau a'r brwdfrydedd i wireddu eich nod
Mae'r busnesau hynny sy'n gallu cynnal asesiadau effeithiol o'r bylchau yn eu sgiliau mewn sefyllfa well i nodi a meithrin y sgiliau cywir sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu ac ehangu.
Gallech elwa o ystyried sut allai eich busnes dyfu, drwy ddatblygu a gwella sgiliau eich gweithwyr cyflogedig. Mae gwella sgiliau yn allweddol i fusnesau sy'n dymuno cymryd y cam nesaf i ddatblygu eu busnes.
Drwy ychwanegu at y sgiliau sydd eisoes gan eich gweithwyr cyflogedig ac ychwanegu sgiliau allweddol newydd, bydd eich busnes mewn sefyllfa well i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad a fydd yn helpu i ddatblygu eich busnes.
Manteision canolbwyntio ar sgiliau wrth Ddatblygu Busnes:
- Teimlo'n fwy hyderus wrth gystadlu am gontractau newydd
- Datblygu eich cynnyrch neu eich gwasanaethau i fod yn well na’ch cystadleuwyr
- Sicrhau bod eich busnes yn barod at y dyfodol drwy ehangu'r sgiliau sy'n sail i'ch busnes a'i wneud yn fwy cynaliadwy
- Lledaenu eich enw da am gynnig ansawdd da ac am fod yn ddibynadwy
Pa Ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd?
Dysgwch pa fath o ddarpariaeth genedlaethol sydd ar gael i'ch busnes
Proffil Sgiliau Busnes
Yn ansicr pa sgiliau sydd angen eu datblygu? Cwblhewch ein Proffil Sgiliau Busnes i greu proffil sgiliau unigryw o'ch busnes.
Bydd ein cynghorwyr busnes yn dadansoddi'r adroddiad a byddant yn cysylltu a chi i lunio pecyn cymorth ar eich cyfer.
Cynllunio ar gyfer datblygiad sgiliau parhaus
Gall hyfforddi’ch gweithwyr yn effeithiol a gwella eu sgiliau’n barhaus wella’ch siawns o lwyddo a chyfrannu at dwf y busnes.
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gweithwyr bob amser mewn sefyllfa lle gallant gyflawni eu rolau'n effeithiol.
Edrychwch ar y sgiliau mae eu hangen arnoch yn y busnes yn awr ac yn y dyfodol. Cymharwch y rhain â’r sgiliau sydd gan eich gweithwyr ar hyn o bryd a'r rhai yr hoffech eu datblygu. Defnyddiwch hun i lunio cynllun priodol ar gyfer hyfforddi a datblygu eich staff. Rhowch gynnig ar ein Proffil Sgiliau i'ch rhoi ar ben ffordd.
Archwiliwch hyfforddi a mentora i helpu gweithwyr i drosglwyddo sgiliau o'r naill i'r llall, au galluogi i ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn cadw eich sgiliau ac arbenigedd yn y busnes.
Edrychwch ar ein canllaw ar greu lle gwaith cadarnhaol yn eich busnes.
Mentora Busnes
Mae Rhaglen Fentora Busnes Cymru ar gyfer perchnogion busnesau sydd eisiau help i farchnata neu ehangu eu busnes, gweithredu newid yn eu busnes, neu ond angen ysbrydoliaeth i helpu i ddelio â her benodol. Gellir gweld mwy o wybodaeth yn ein rhaglen Mentora.