Beth Jennings

Enw:  Beth Jennings

Lleoliad: Sir y Fflint

E-bost: bethan.jennings@agrisgop.cymru  

Rhif ffôn: 01352 770561 / 07975 918300

Arbenigedd: Busnes a rheolaeth ariannol 

  • Mae rheoli newid a datrys problemau yn ail natur i’r ffermwr ac arbenigwr blodau Beth Jennings, sydd wedi rhoi sylw i’r ddau beth hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf! Yn ogystal â chydweithio gyda’i gŵr ar eu fferm iseldir bîff, defaid a thir âr, mae hi’n gweithio’n rhan amser fel gwerthwr blodau cymwysedig, profiadol. 
  • Mae Beth wedi chwarae rhan flaenllaw ym materion cynllunio strategol byd busnes ers i’r pâr ddechrau rhedeg fferm ei theulu yn ogystal â’u fferm eu hunain tua 13 mlynedd yn ôl. Mae gan y wraig a’r fam brysur hon brofiad helaeth iawn o fyd busnes a rheolaeth ariannol. Aeth Beth a’i gŵr ati i ailstrwythuro eu model busnes gwreiddiol yn llwyr, gan edrych ar gryfderau a gwendidau a llunio cynllun busnes newydd sy’n canolbwyntio ar effeithlondeb, rheoli tir yn gynaliadwy a gwneud elw.   
  • Mae Beth wedi cael llawer o brofiad yn y gorffennol o gysylltu â ffermwyr, tyfwyr, partneriaid cadwyn gyflenwi a chwsmeriaid. Ar ôl goresgyn nifer o heriau busnes ac ariannol ei hun, mae hi’n edrych ymlaen at gefnogi ffermwyr eraill wrth iddynt weithio tuag at eu nodau fel aelodau o’i grŵp Agrisgôp cefnogol. Byddwch yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan ei gallu i addasu, ei pharodrwydd i ‘ddisgwyl yr annisgwyl’ ac i ddysgu gan unigolion eraill o’r un anian wrth i chi weithio i ddod o hyd i atebion i broblemau. 
  • Fel unigolyn artistig a chreadigol, mae Beth yn credu bod ganddi’r gallu i gymell ei hunan a chanolbwyntio’n dda. Gall wrando a chyfathrebu’n hyderus drwy’r Gymraeg a’r Saesneg – ac mae blynyddoedd niferus o weithio gyda sefydliadau gwledig ac unigolion yng Ngogledd Cymru wedi rhoi llawer o brofiad a rhwydweithiau eang iddi ac mae’n hi’n hapus iawn i rannu hyn ag eraill.

Busnes presennol y fferm

 

  • Fferm iseldir gymysg, gyda defaid, bîff a thir âr, yn cael ei rhedeg yn hunangynhaliol yn bennaf gyda gŵr Beth – peiriannydd amaethyddol hyfforddedig – sy’n gallu cynnal a thrwsio’r holl dractorau a pheiriannau. 
  • Maent yn tyfu cnydau fel barlys, ceirch sy’n darparu deunydd gwasarn, ynghyd â gwreiddgnydau fel betys porthiant
  • Mae strategaethau ffermio cynaliadwy’r fferm yn datblygu bob blwyddyn, ac mae Beth a’i gŵr yn awyddus iawn i gael y newyddion diweddaraf ac yn mynychu gweithdai, cyrsiau hyfforddiant a theithiau cerdded ar y fferm a drefnir gan Cyswllt Ffermio. 
  • Mae’r da byw yn cael eu gwerthu mewn ocsiynau lleol yn bennaf 

Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol 

  • Aelod lleol o RABI ac wedi bod yn codi arian i’r sefydliad dros y 10 mlynedd diwethaf (y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol - Royal Agriculture Benevolent Institution) 
  • Cyn is-gadeirydd ac aelod o’r grŵp WFU (Women’s Farming Union) 
  • Cyn-aelod o grŵp Agrisgôp (ymhlith y pynciau a gafodd eu hadolygu roedd Iechyd a Lles Anifeiliaid; Rheoli busnes: Arallgyfeirio) 
  • Cyn-riant-lywodraethwr ac aelod o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ysgol gynradd leol.
  • Gwerthwr blodau rhan amser gyda busnes lleol