Clinigau un-i-un ar y fferm gan Cyswllt Ffermio
Mae ein clinigau un-i-un ar y fferm yn glinigau samplo a chyngor ar ystod o bynciau sydd wedi’u hariannu’n llawn. Bydd pob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys i wneud cais am hyd at ddau glinig o’r rhestr isod. Caiff y clinigau eu darparu gan ymgynghorwyr annibynnol a bydd pob cyngor yn gyfrinachol.
Bydd pob busnes yn derbyn adroddiad o’r clinig yn cynnwys y canlynol:
- Cyflwyniad i’r pwnc
- Canlyniadau’r samplau neu’r ymweliad
- Argymhelliad neu argymhellion ar gyfer gwella
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y clinigau ar y fferm, mae’n rhaid i'r busnes fod wedi'i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, a bod ganddo CRN, CPH ac o leiaf 3 hectar.
Clinigau sydd ar gael:
Clinig dŵr:
- Ymgeisiwch am sampl dŵr o’ch prif gyflenwad dŵr
- Nodwch unrhyw halogiad dŵr a chymryd camau i stopio neu leihau hyn
- Sicrhewch nad yw ansawdd dŵr gwael yn effeithio ar berfformiad stoc
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer y clinigau un-i-un sy’n cael eu cynnig gan Cyswllt Ffermio, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.
Noder: Er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau samplu pridd yn fanwl gywir, ni fydd y gwaith samplu yn cael ei wneud nes bod yr amodau yn addas.