Erthygl Carbon ar gyfer ‘Y Tir’

Mae'n hysbys bod cynhyrchu nwyon tŷ gwydr (GHG) yn cyflymu'r broses o newid yn yr hinsawdd. Roedd y sector amaethyddol yn gyfrifol am 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2016 (Llywodraeth Cymru, 2016). Mae Cymru wedi ymrwymo i darged o ostyngiad o 95% (o lefelau 1990) mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 (Llywodraeth Cymru, 2019). Oherwydd hyn, mae amaethyddiaeth, ynghyd â phob sector arall, o dan bwysau sylweddol i leihau ei allyriadau, yn ogystal â'i effeithiau amgylcheddol ehangach. Er mwyn helpu i gyflawni'r her hon, mae'r dulliau y gall ffermwyr eu cymryd yn cynnwys 1) lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm, a 2) atafaelu (sefydlogi) carbon trwy dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer; a thrwy hynny, 'gwrthbwyso' rhai o'r allyriadau sy'n cael eu cynhyrchu ar y fferm. Mae ôl troed carbon fferm yn darparu amcangyfrifon o'r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm, yn ogystal â charbon a gaiff ei atafaelu ar y fferm. Gellir ei fesur gan ddefnyddio gwahanol gyfrifianellau ôl troed carbon.

Nwyon o fewn yr atmosffer sy'n trapio gwres yw nwyon tŷ gwydr. Y tri phrif nwy tŷ gwydr mewn amaethyddiaeth yw carbon deuocsid (CO2), methan (CH4) ac ocsid nitraidd (N2O). Mae'r tri hyn yn cael eu trosi i'w ‘hallyriadau carbon deuocsid cyfatebol' (CO2e) mewn cyfrifianellau ôl troed carbon, yn seiliedig ar eu gwerthoedd Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) a ddefnyddir yn rhyngwladol gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC). Mae’r nwyon tŷ gwydr hyn yn amrywio o ran eu cryfder a'u hoes; y nwyon tŷ gwydr sydd â'r effaith fwyaf o fyd amaethyddiaeth yw methan ac ocsid nitraidd, gan fod y ddau nwy yn gryf iawn o ran eu GWP.

Mae ffigurau a adroddwyd yn awgrymu mai methan yw 56% o nwyon tŷ gwydr amaethyddol y DU, 31% yw ocsid nitraidd, ac mae 13% yn garbon deuocsid (AHDB, 2024).

Mae pob nwy tŷ gwydr yn deillio o wahanol ffynonellau ar y fferm. Dyma rai enghreifftiau o'u ffynonellau

  • Carbon deuocsid - llosgi tanwydd ffosil, defnyddio tanwydd ac ynni, gwrtaith, trin y tir

  • Methan - da byw cnoi cil trwy eplesu enterig, trin tail a’i ledaenu, storfeydd slyri

  • Ocsid nitraidd - dyddodi gwrtaith, lledaenu tail ar borfeydd, gweddillion cnydau

Gall mesurau i leihau ôl troed carbon fferm fod yn benodol i fferm/menter unigol. Nid yw llawer yn arferion newydd, ac/neu ni fyddant yn costio'r busnes ffermio, ac yn aml, maent yn dechnegau sydd eisoes yn cael eu gweithredu ar ffermydd. Mae mesurau i leihau ôl troed carbon fferm hefyd yn arwain at well effeithlonrwydd mewn llawer o achosion, gan gynhyrchu arbedion cost. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â da byw, tir ac ynni.

Nid yw'n bosibl osgoi'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir, ond efallai y bydd cyfle i'w gwrthbwyso ar y fferm. Mae amaethyddiaeth yn un o'r ychydig sectorau sy'n gallu 'atafaelu' a storio carbon. Atafaelu carbon yw'r broses naturiol lle caiff carbon deuocsid ei ddal a'i dynnu o'r atmosffer yn ystod ffotosynthesis. Yna caiff cyfran o hyn ei throsglwyddo i'r pridd trwy'r gwreiddiau a'i storio o dan y ddaear yn y pridd, yn ogystal ag mewn coed a gwrychoedd. Mae stoc carbon yn cyfeirio at y swm presennol o garbon sy'n cael ei storio ar fferm o fewn coed, gwrychoedd a phriddoedd. 

Mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar stociau carbon pridd, gan gynnwys y math o bridd, glawiad a rheolaeth ar y tir. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod stociau carbon pridd y DU yn fwy na 4,000 megaton o garbon (Bradley et al., 2005). Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu bod stociau carbon pridd presennol yn gyson neu'n cynyddu o dan laswelltiroedd parhaol (Emmett et al., 2023). Bydd priddoedd yn cyrraedd pwynt dirlenwi o ran storio carbon, lle bydd y potensial i storio carbon ychwanegol ynddynt yn dod yn gyfyngedig (Smith, 2014). Bydd rhai priddoedd eisoes wedi cyrraedd y pwynt dirlenwi hwn, ac oherwydd hyn, mae enillion atafaelu carbon pellach mewn stociau carbon pridd yn amrywio. Ar ben hynny, efallai y bydd gan briddoedd diraddiedig stoc carbon isel ar hyn o bryd er y gallai fod ganddynt fwy o botensial i atafaelu carbon ymhellach. Ni adroddwyd y bu cynnydd yng ngharbon yr uwchbridd yn y DU dros y 30 mlynedd diwethaf (Emmet et al., 2010).

Menter Cymru gyfan yw Prosiect Pridd Cymru Cyswllt Ffermio. Nod y fenter yw amcangyfrif stoc carbon pridd caeau gwahanol i ddyfnder pridd o 50 cm ar nifer o wahanol ffermydd. Mae cyfanswm o 56 fferm o Rwydwaith 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio wedi bod yn rhan o'r prosiect hyd yma, a gellir defnyddio'r data manwl a gasglwyd i roi cipolwg ar sut mae stociau carbon pridd yn amrywio rhwng caeau a reolir mewn ffyrdd amrywiol a rhwng systemau ffermio (gan ddibynnu ar ffactorau fel defnydd y tir, topograffeg, hinsawdd). Mae'r canfyddiadau wedi dangos amrywiaeth mawr mewn cynnwys carbon organig pridd a’r stoc carbon organig amcangyfrifedig rhwng ffermydd. Isod ceir cipolwg ar ganlyniadau grŵp o 15 fferm a samplwyd yn hydref 2023 -

 

Ffigur 1: Cynnwys Mater Organig Pridd Cyfartalog (%) pob dyfnder samplu ym mhob math o gae ar gyfer pob fferm.

Tabl 1: Stoc Carbon Pridd Cyfartalog (t/ha) pob dyfnder samplu ym mhob math o gae.

Mae lefelau carbon yn fwy sefydlog ar ddyfnder, ac argymhellir isafswm dyfnder samplu o 30 cm i gyfrif am wahaniaethau o fewn proffil y pridd yn ôl yr arfer gorau (IPCC, 2006). Mae ymchwil wedi dangos bod newidiadau sylweddol yn stociau carbon y pridd yn gyffredinol yn digwydd yn 20 cm uchaf y pridd (Fornara et al., 2020), ac felly, mae colledion carbon yn cael eu lleihau'n ddyfnach yn y pridd oherwydd bod llai o aflonyddu. Mae carbon yn cael ei golli o briddoedd yn llawer cyflymach nag y mae'n cael ei ennill, ac felly, mae cynnal stociau carbon cyfredol yn bwysig (Smith, 2014). Mae mesurau i gynnal stociau carbon pridd presennol, ac o bosibl cynyddu faint o garbon sy’n cael ei atafaelu yn cynnwys lleihau aflonyddu ar y pridd a defnyddio technegau trin y tir cyn lleied â phosib, megis drilio’n uniongyrchol a digroeni hadau lle bo’n bosibl/addas gwneud hynny. Yn gyffredinol, mae gan borfeydd parhaol systemau gwreiddio dyfnach na chnydau blynyddol wrth i rywogaethau planhigion dyfu rhwydwaith gwreiddio mwy dros amser, felly byddant yn cronni haenau dyfnach o sefydlogi carbon mewn priddoedd (Thorup-Kristensen et al., 2020). Gall llawer o'r mesurau hyn hefyd arwain at fanteision ychwanegol, megis cynyddu cynhyrchiant porfeydd, gwella iechyd, strwythur, a ffrwythlondeb y pridd, yn ogystal â’i allu i gadw lleithder.

Mae coed (a gwrychoedd), yn yr un modd â glaswellt, yn amsugno carbon deuocsid yn ystod ffotosynthesis ac yn ei storio fel biomas. Felly, mae ganddynt botensial atafaelu carbon da, gan weithredu fel storfa carbon uwchben ac o dan y ddaear. Efallai na fydd coed yn dechrau atafaelu llawer o garbon yn syth ar ôl cael eu plannu, ond yn gyffredinol, bydd stoc carbon pridd yn cynyddu wrth i goed dyfu’n fwy. Mae cyfraddau atafaelu posibl gan goetiroedd newydd a phresennol yn dibynnu ar nifer o ffactorau. O ran creu coetiroedd, bydd y rhywogaethau a blannir yn effeithio ar gyfraddau atafaelu (h.y., gall rhywogaethau sy'n tyfu'n gyflym fel conwydd arwain at gyfraddau atafaelu uwch). Bydd ffactorau sy'n cyfyngu ar dwf coed, fel diffyg rheolaeth neu glefydau, yn cyfyngu ar botensial atafaelu carbon, ac mewn rhai achosion, yn arwain at y broses gwbl groes (sef rhyddhau carbon i'r atmosffer). Yn yr un modd â phriddoedd, bydd coed a gwrychoedd hefyd yn cyrraedd lefel ddigyfnewid o ran gallu eu  stoc carbon.

I grynhoi, ni fu erioed fwy o angen i wella ein dealltwriaeth o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac atafaelu carbon mewn amaethyddiaeth. Gall hyn ddod hyd yn oed yn fwy o flaenoriaeth yn y dyfodol wrth i ymchwil bellach gael ei chynnal. Dylid ystyried yn ofalus wrth ddehongli a thrafod carbon yn fras (p'un a yw hynny'n allyriadau sy'n cael eu cynhyrchu neu eu hatafaelu) gan fod sawl ffordd o'i fynegi, yn ogystal â rhywfaint o amrywioldeb mewn methodoleg ar gyfer ei gyfrifo. Un pwynt allweddol wrth fesur ac asesu ôl troed carbon fferm dro ar ôl tro dros amser yw bod yr un dull (a'r un gyfrifiannell) yn cael ei ddefnyddio bob tro. Ni ddylid ystyried carbon ar ei ben ei hun, gan fod llawer o arferion ffermio sydd o fudd i ôl troed carbon fferm hefyd yn gallu cynnig enillion economaidd ac amgylcheddol.

Cyfeiriadau

AHDB (2024). Greenhouse gas emissions: agriculture. Ar gael yma Cyrchwyd 11 Tachwedd 2024.

Bradley, R.I., Milne, R., Bell, J., Lilly, A., Jordan, C., Higgins, A. (2005). A soil carbon and land use database for the United Kingdom. Soil Use and Management 21(4), 363-369.

Emmett, B., Evans, C., Matthews, R., Smith, P., Thompson, A. (2023). Environment and

Rural Affairs Monitoring & Modelling Programme (ERAMMP). ERAMMP Report-101: The opportunities and limitations of carbon capture in soil and peatlands. Report to Welsh Government (Contract C208/2021/2022) (Prosiect 08435 Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU)

Emmett, B.A., Reynolds, B., Chamberlain, P.M., Rowe, E., Spurgeon, D., Brittain, S.A., Frogbrook, Z., Hughes, S., Lawlor, A.J., Poskitt, J., Potter, E., Robinson, D.A., Scott, A., Wood, C., Woods, C. (2010). Countryside Survey: Soils Report from 2007. Technical Report No. 9/07 NERC/ Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, 192 o dudalennau. (Rhif Prosiect Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU: C03259). 

Fornara, D., Olave, R., Higgins, A. (2020). Evidence of low response of soil carbon stocks to grassland intensification. Agriculture, Ecosystems and Environment 287, 106705.

IPCC (2006). Chapter 2. Generic methodologies applicable to multiple land-use categories. In: 2006 IPCC Guidelines for National Greenhouse Gas Inventories. Volume 4. Agriculture, forestry and other land use. Prepared by the National Greenhouse Gas Inventories Programme (eds Eggleston HS, Buendia L, Miwa K, Ngara T, TanabeK), 2.1–2.59. IGES, Siapan.

Smith, P. (2014). Do grasslands act as a perpetual sink for carbon? Global Change Biology 20(9), 2708-2711.

Thorup-Kristensen, K., Halberg, N., Nicolaisen, M., Olesen, J.E., Crews, T.E., Hinsinger, P., Kirkegaard, J., Pierret, A., Dresbøll, D.B. (2020). Digging deeper for agricultural resources, the value of deep rooting. Trends in Plant Science 25(4), 406-417.

Llywodraeth Cymru (2019). Cymru yn derbyn targed y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd o weld Lleihad o 95% mewn allyriadau. Ar gael yma Cyrchwyd 11 Tachwedd 2024.

Llywodraeth Cymru (2016). Amaethyddiaeth: Llwybr Allyriadau Sector. Ar gael yma Cyrchwyd 11 Tachwedd 2024.