Ffeithiau Fferm Bodwi
Mae Safle Arddangos Bodwi yn fferm ddefaid a bîff ar lawr gwlad sydd wedi bod yn cael ei rhedeg gan y teulu Griffith ers pedair cenhedlaeth.
Mae Edward a Jackie Griffith yn ffermio gyda rhieni Edward, sef William a Helen. Mae eu mab, Ellis, wedi ymuno â’r busnes erbyn hyn.
Mae’r teulu’n ffermio cyfanswm o 247 hectar (ha) sy’n cynnwys 113 ha o dir ar rent ar ddaliad 18 milltir i ffwrdd o Fferm Bodwi.
Mae priddoedd Bodwi yn lôm canolig ffrwythlon. Mae’r tir yn dir glas i hyd heblaw am 6.9ha o geirch a dyfir fel rhan o gytundeb Glastir Uwch.
Mae’r fferm yn cadw buches o 160 o wartheg sugno Stabiliser ar y fferm, ynghyd â diadell o 1150 o famogiaid Suffolk croes.
Mae’r fuches yn lloia mewn bloc naw wythnos o 7 Ebrill, gyda’r 80% cyntaf yn lloia o fewn y tair wythnos gyntaf.
Mae’r uned bîff wedi bod yn rhedeg fel buches gaeedig ers 20 mlynedd. Defnyddir techneg trosglwyddo embryonau i sicrhau’r gwelliannau geneteg gorau posibl.
Mae’r lloi gwryw’n cael eu magu ar gyfer bîff, rhai ar fferm Bodwi ac eraill ar uned besgi yn Selby. Y targed ar gyfer pesgi yw 12-14 mis gyda gwartheg yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i’r lladd-dy.
Mae rhai o’r anifeiliaid gwryw’n cael eu gwerthu fel teirw magu yn 12-14 mis oed.
Mae heffrod yn cael eu magu ar laswellt a silwair ar ôl diddyfnu. Mae cyfran yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid ac eraill yn cael eu gwerthu fel heffrod magu. Mae unrhyw anifeiliaid nad ydynt yn cyrraedd y safon ar gyfer magu’n cael eu pesgi ar y fferm.
Mae perfformiad yr holl wartheg yn cael ei gofnodi.
Mae’r mamogiaid yn cael eu troi at hyrddod Abermax neu Texel, gan sicrhau cyfartaledd sganio o 180%.
Mae’r ddiadell yn ŵyna dan do ym mis Chwefror. Mae ŵyn yn derbyn dwysfwyd ar y borfa ym mis Ebrill a Mai er mwyn gwerthu popeth erbyn diwedd Awst.
Mae’r holl ŵyn yn cael eu gwerthu i ladd.
Mae’r teulu hefyd yn cadw diadell o 280 o ŵyn benyw cyfnewid, wedi’u prynu’n bennaf o’r Alban.
Arallgyfeirio
Mae ynni’n cael ei gynhyrchu o dyrbin gwynt 10kW
Mae incwm ychwanegol yn cael ei greu o safle bychan ar gyfer carafanau, yn ogystal â phedwar bwthyn gwyliau.