Awel Mai Hughes

Enw

 Awel Mai Hughes

Sefydliad

Agri Advisor Legal LLP

Mae Awel yn Bartner yng nghwmni cyfreithiol Agri Advisor ac wedi cymhwyso fel Cyfreithwraig ers dros 10 mlynedd. Mae Awel yn bennaeth ar yr adran Ewyllysau, Treth ac Ystadau o fewn Agri Advisor. Mae’n arbenigo mewn cynllunio olyniaeth a gweinyddu ystadau, yn ogystal a chynghori ar amryw o faterion eraill fel Ewyllysau, Pwerau Atwrnai a materion y Llys Gwarchod. Mae Awel yn cynorthwyo unigolion a busnesau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt ond yn ffocysu yn bennaf ar ardaloedd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Awel yn gymrawd y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol, sydd wedi ei galluogi i ehangu ei phrofiad a’i gallu i gynghori ar gyfraith amaethyddol a gwledig. Mae Awel yn aml yn gweithredu fel Ysgutor, Ymddiriedolwr neu Ddirprwy proffesiynol. Yn ogystal â hyn, wrth fod yn ffermwraig cig eidion a defaid yng Ngogledd Cymru, mae gan Awel ddealltwriaeth ymarferol o’r cyfleoedd a’r sialensau sy’n wynebu’r diwydiant a busnesau gwledig. Mae Awel yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Ardaloedd

Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru

Ieithoedd

Cymraeg a Saesneg