Pam fyddai Sophia yn fentor effeithiol
- Fel ffermwr tenant cenhedlaeth gyntaf, cwblhaodd Sophia brentisiaeth llaeth organig yn Norwy wyth mlynedd yn ôl, cyn symud yn ôl i Gymru i sefydlu ei busnes llaeth ei hun fel tenant ar dyddyn.
- Digon anghonfensiynol fu ei llwybr i mewn i fyd ffermio fel un a fagwyd yn Abertawe ac a raddiodd mewn Saesneg, ond taniwyd ei hangerdd am ffermio organig a chynhyrchu bwyd cynaliadwy wedi iddi ymgymryd â nifer o swyddi gwirfoddol dramor. Os mai arallgyfeirio neu ddechrau menter newydd ym maes caws artisan, iogwrt neu gynhyrchu cyffug yw eich bwriad, dyma fentor ysbrydoledig i chi!
- Yn ystod yr wyth mlynedd olaf, mae hi wedi datblygu ei busnes fferm ei hun ar gyllideb hynod dynn. Wedi cynyddu nifer o erwau’r tyddyn o chwech i 30, ac yna i 50, fe fydd hi’n ymgymryd â thenantiaeth 117 erw cyn hir. Mae’n ymfalchïo yn y ffaith nad yw wedi derbyn unrhyw gymhorthdal gan y llywodraeth, benthyciad banc na chefnogaeth ariannol o unrhyw fath erioed.
- Ar hyn o bryd mae Sophia’n cadw tua 50 o eifr a 13 buwch Jersey ar system bori cylchdro sy’n seiliedig ar borfa. Cedwir y lloi a’r myn geifr gyda’u mamau, ac mae’n godro unwaith bob dydd. Caiff y llaeth ei brosesu ar y fferm i greu cynnyrch mewn sypiau bach sy’n cael eu gwerthu’n uniongyrchol ganddi. Mae’n defnyddio peiriant godro symudol syml mewn sied bwrpasol.
- Ar dân eisiau ehangu ei buches a datblygu ei marchnad, nod Sophia yn y pen draw yw prosesu a marchnata caws aeddfed arbenigol sy’n dangos iechyd a bioamrywiaeth y fuches ar ei fferm. Mae’n optimistaidd y gall fuddsoddi mewn offer mwy newydd ac effeithiol ar fferm fwy o faint. Cred Sophia fod annog ffermydd llaeth eraill i fabwysiadu system lo/myn gafr wrth droed nid yn unig yn helpu i hybu teyrngarwch ond hefyd yn creu amgylchedd waith well ar gyfer ffermwyr a’u stoc.
- Yn wybodus, brwdfrydig ac yn gyfathrebwr da, mae Sophia’n awyddus i helpu mentoreion i ddatblygu cynlluniau cam wrth gam er mwyn gallu cyflawni eu hamcanion!
Busnes fferm cyfredol
- Micro-laethdy geifr a gwartheg Jersey o ganolbarth Cymru yw Dyfi Dairy (www.dyfidairy.com). Wedi’i sefydlu wyth mlynedd yn ôl, dyma’r llaethdy Cymreig gwreiddiol ar gyfer lloi a myn geifr wrth droed. Defnyddia Sophia system adfywiol sy’n seiliedig ar laswellt i gynhyrchu gwahanol fathau o gaws, iogwrt, llaeth crai a llaeth wedi’i basteureiddio, a chyffug.
- Drwy gyfrwng Facebook ac Instagram y mae’r gwaith marchnata yn digwydd a chaiff y cyffug ei werthu i siopau ar hyd a lled y wlad. Mae cynnyrch Dyfi Dairy i’w weld mewn nifer o siopau bwyd iach yng Nghymru ac mae Sophia hefyd yn rhedeg gwasanaeth postio/tanysgrifio lle mae cwsmeriaid yn tanysgrifio am dri mis ar y tro.
- Marcwyr Hylendid – mae’r parlwr godro a’r ystafelloedd prosesu wedi’u creu’n arbennig ac wedi llwyddo i ennill gradd 5 ar gyfer hylendid bwyd yn ogystal â sicrhau cyfrif bacta a Chyfrif Celloedd Somatig (CCS) cyson isel ar gyfer profion llaeth.
- Y busnes yw prif ffynhonnell incwm Sophia bellach ac mae hi’n cyflogi gweinyddwr rhan amser a gweithiwr ar y fferm.
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Cwblhaodd Sophia brentisiaeth laeth ddwy flynedd yn Norwy, gan arbenigo ym maes geifr. Mae ganddi hefyd brofiad o ardystiad organig, adeiladu ystafelloedd prosesu a rheoli arlwyo.
- Arferai fod yn rheolwr prosiect gyda’r Pasture Fed Livestock Association – yn sefydlu safonau ac yn rhedeg y llaethdy’n seiliedig ar brosiect peilot o borfa.
- Cynigia help anffurfiol i nifer o ffermwyr lleol sy’n ystyried sefydlu llaethdy lloi wrth droed neu fyn geifr wrth droed ac mae hi hefyd yn mentora ffermwyr bîff a thir âr gyda phori adfywiol a gwerthu uniongyrchol.
- Cwblhaodd Sophia nifer o gyrsiau’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, golygu fideo, creu gwefannau a hawlfraint a chafodd ei chyflogi i weithio ar nifer o brosiectau’n ymwneud â bwyd, yn benodol curadu, creu a chynghori ynghylch marchnata a hysbysebu. Mae hi hefyd yn trefnu ymweliadau astudio, yn gwneud cyflwyniadau ac yn ddiweddar hefyd, bu ar ymweliad ag Iwerddon fel rhan o brosiect ‘Cyfnewidfa Rheolaeth’ Cyswllt Ffermio. Gweler canlyniadau’r ymweliad yma.
Ambell gyngor i sicrhau llwyddiant mewn busnes
“Sicrhewch fod eich busnes yn adlewyrchu eich gwerthoedd chi eich hun. Os yw cwsmeriaid yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei gynrychioli, maen nhw’n fwy tebygol o aros yn deyrngar.”
“Mae penderfyniad a gwytnwch yn hanfodol!”
“Gwnewch eich gwaith ymchwil, dysgwch beth sydd angen ar y farchnad gan sicrhau fod yr hyn rydych chi’n ei gyflenwi’n cyfateb â hynny.”