Gorllewin Cymru

  • Man codi, Clwb Rygbi Llambed
  • Teulu Jones, Fferm Pant, Llanddewi Brefi
  • Teulu Rees-Jones- Wholehouse Farm
  • Barns at Brynich
  • Cascave Gin

Archebwch eich lle 

Claire Jones a’r Teulu – Pant, Llanddewi Brefi

Mae Claire Jones yn ffermwr sy'n croesawu newid. Ochr yn ochr â’i gŵr, Stephen, mae hi yn ei thrydedd flwyddyn o gynhyrchu llaeth, yn sgil newid o ffermio bîff a defaid. Yn awyddus i gynhyrchu’r llaeth hwnnw mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac sy’n cefnogi bywyd gwyllt a byd natur, manteisiodd Claire ar raglen Mentor Cyswllt Ffermio i gael cyngor a chymorth gan ffermwr llaeth sefydledig.

Mae Fferm Pant bellach yn gartref i 140 o wartheg, sy’n cael eu rhedeg ar system bori helaeth ac yn lloia yn y gwanwyn. Roedd trosglwyddo i laeth yn fodd o ddiogelu’r busnes at y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf; y cam nesaf yw cyflwyno technegau ffermio adfywiol.

Roedd Claire yn newydd i ffermio pan wnaeth hi gyfarfod a phriodi â Stephen ac ymuno ag ef ar fferm ei deulu. Mae Claire yn frodor o Geredigion ond heb unrhyw gefndir teuluol mewn amaethyddiaeth, a dechreuodd ei gyrfa fel gemydd. Ond mae Claire wedi cofleidio amaethyddiaeth, gan daflu ei hun i’r gwaith dyddiol o redeg y fferm. Mae’n godro, yn gyrru peiriannau, yn mesur porfa, ac yn gwneud y gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r busnes.

Kayleigh Rees-Jones a'r Teulu – The Wholehouse

Mae yna lawer o hwyl, cariad a rhyddid yn The Wholehouse. Profwch fusnes yng nghanol ardal Bannau Brycheiniog lle mae teulu a chynaliadwyedd wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Mae Kayleigh a'i theulu yn rhedeg fferm ddefaid Adfywiol a phenderfynwyd arallgyfeirio yn 2021. Ochr yn ochr â'r fferm, maen nhw bellach yn darparu llety gwyliau moethus, lleoliad priodas unigryw, a maes chwarae antur epig i gerddwyr cŵn. 

Brynich Barns

Busnes teuluol bach yw Brynich, sydd wedi bod yn y teulu ers 1966, gan ddechrau bywyd fel fferm deuluol ac esblygu dros y blynyddoedd i fod y busnes a welwch chi heddiw. Mae’r brawd a’r chwaer, Mark a Cath, yn dal i fod yn berchen ar fferm Brynich ac yn ei rhedeg gyda gwraig Mark, Becca, a thîm o staff ymroddedig. Gellir archebu'r Barn ar gyfer priodasau, digwyddiadau, cyfarfodydd ac encilion. Rydyn ni hefyd yn cynnig llety godidog yn ein bythynnod hunanarlwyo, gyda digonedd o le y tu allan mewn lleoliad delfrydol. Ar fferm Brynich, rydyn ni’n ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gwneud pob ymdrech i reoli ein tir mewn ffordd sy’n gwarchod ein bioamrywiaeth. Ar ddiwedd 2020, fe wnaethon ni blannu 10,000 o goed ar y fferm i wella cynefinoedd bywyd gwyllt.

Cascave Gin

Ganed Cascave Gin, menter deuluol yn y bôn, dros wydraid o G&T (beth arall?). Fe'i sefydlwyd gan fam a dwy ferch gyda'r nod o greu profiad sy'n cyfleu hanfod Bannau Brycheiniog. Mae Cascave Gin wedi’i leoli ar fferm deuluol bîff a defaid organig ger Aberhonddu. Ar hyn o bryd, mae portffolio Cascave yn cynnwys tri jin: Y Premium Dry Gin a’r Cave-Aged Gin ac yn fwy diweddar y Stormy Gin newydd. Yn ogystal â'r jin, mae gan y teulu Davies amrywiaeth o eiddo twristiaeth sy’n cynnwys bythynnod eco, trawsnewidiadau ysgubor a ffermdai traddodiadol Cymreig ar y fferm.