Cwmcowddu Diweddariad ar y prosiect – Ebrill 2024
Prif nod y prosiect hwn yw gwella effeithlonrwydd bwydo yn y fuches laeth trwy werthuso a gwneud y mwyaf o’r drefn fwydo bresennol. Gyda buches sy’n lloia drwy’r flwyddyn ac yn anelu at gynhyrchu 9,000 litr fesul buwch, mae gwerthuso a monitro’r dognau’n barhaus yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cnwd mor economaidd â phosibl. Un o'r prif amcanion yw lleihau'r defnydd o ddwysfwyd o 0.39kg/litr i lai na 0.30kg/litr, gan sicrhau bod y dognau ac ansawdd y porthiant sydd ar gael yn cyd-fynd, yn ogystal â monitro statws maeth y fuches gan ddefnyddio proffilio metabolig.
Cynnydd hyd yma:
- Cwblhawyd dadansoddiad o’r silwair i bennu'r cynnwys maethol a llywio'r broses o lunio dogn
- Cynhaliwyd proffilio metabolaidd gwaed i asesu statws maeth y fuches
- Addaswyd dognau’r buchod sych ar ôl i’r proffilio metabolaidd ddangos bod statws egni a phrotein y buchod yn isel
Diweddariad ar y prosiect – Ebrill 2024
Cynnydd hyd yma:
Ionawr 2024:
- Dechreuwyd y gwaith datblygu'r prosiect, gan ganolbwyntio ar fonitro ac addasu dogn yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r silwair a data’r proffilio metabolig
- Mae'r prosiect wedi gwerthuso a chadarnhau gofynion a digonolrwydd dogn y gaeaf.
Ebrill 2024:
- Llwyfan pori wedi'i sefydlu i wneud y defnydd gorau o'r ffynhonnell borthiant gost-effeithiol hon a mireinio pori'r haf i gyd-fynd â gofynion buchod cnwd uchel. Yn hanfodol i hyn bydd rheolaeth briodol o’r llwyfan pori cylchdro trwy gofnodi twf glaswellt ym mhob padog yn wythnosol a chydbwyso anghenion maethol ychwanegol y fuwch o silwair a dwysfwyd cyn i laswellt fynd yn brin o’r proffil galw ar y lletem laswellt.
Y Camau Nesaf?
- Monitro'r lletem laswellt i sicrhau bod digon o laswellt blaen ar gael a’i chydbwysedd â silwair a dwysfwyd yn ôl yr angen ac mewn modd amserol i fodloni anghenion egni'r fuches yn ystod y cyfnod pori.
- Monitro effeithiolrwydd dogn, ffigurau cynhyrchu, a ffrwythlondeb yn barhaus er mwyn asesu a yw'r gofynion maethol yn cael eu bodloni ac yna gwneud yr addasiadau angenrheidiol.
- Cyfrifo a monitro’r gyfradd bwydo, costau porthiant, a dangosyddion economaidd eraill i asesu effaith ariannol gwell maeth i’r fuches.
- Asesu unrhyw newidiadau yn ôl troed carbon y fferm o ganlyniad i'r addasiadau mewn maeth a wnaed.