Cwmcowddu: Diweddariad ar y prosiect - Gorffennaf 2024

Cafodd pob un o’r plotiau eu difrodi gan gwningod dros y gaeaf gan arwain at brinder gorchudd tir a llawer o chwyn, ac fe effeithiodd gwanwyn oer a gwlyb 2024 ymhellach ar dwf.

Gwelwyd cynnydd mewn tymheredd ym mis Ebrill ac yn dilyn gwasgaru rhywfaint o nitrogen, roedd mwyafrif y plotiau wedi sefydlu’n llawn, gyda’r tymor pori cyntaf wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau mis Mai.

Gosod ffensys trydan a chewyll atal pori

Rhannwyd y cae yn 6 phadog pori (Ffigur 4) gan ddefnyddio ffensys trydan dros dro (ffens tair gwifren) i greu padogau 0.5 ha i alluogi system o bori a gorffwys gael ei defnyddio gyda tharged o gyfnod gorffwys o 30 diwrnod. Mae cafnau dŵr cludadwy a phibelli dŵr dros y ddaear yn sicrhau cyflenwad dŵr digonol ym mhob padog.

Gosodwyd cewyll atal pori yng nghanol pob plot (gan gofnodi’r cyfesurynnau ar ôl penderfynu), a chasglwyd samplau glaswellt o du fewn y cewyll yn unig, unwaith y mis gan gofnodi canran deunydd sych a chyfanswm y deunydd sych a dyfwyd bob mis ym mhob cawell, gan gyfrifo cyfartaledd ar gyfer pob triniaeth.

Cymerwyd samplau glaswellt ffres o bob plot i’w dadansoddi gan ddefnyddio dulliau cemeg gwlyb ar 22 Gorffennaf er mwyn pennu gwerth maethol pob cymysgedd;

Ffigur 4. Y plotiau wedi’u rhannu’n badogau gan ddefnyddio ffensys trydan fel y nodir gan y llinellau du

 

Ffigur 5. Cawell atal pori ym mhlot triniaeth T2
 


Rheoli chwyn

O ganlyniad i fethiant y cnwd i sefydlu yn y lle cyntaf ynghyd â gweithgarwch cwningod yn y cae, mae chwyn megis march ysgall, mwsogl a gwlydd y dom wedi bod yn broblem ar y rhan fwyaf o blotiau. Mae’r mwsogl i’w weld wedi cilio ar ôl gwasgaru N ym mis Ebrill, ond mae’r ysgall yn dal i fod yn broblem, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli drwy docio, er bod y tywydd gwlyb yn ei gwneud yn anodd eu rheoli ar rannau mwy serth y cae.
 

Rhagor o fanylion am y defnydd o ffyngau mewm amaethyddiaeth