Cyfle #127

Lleoliad: Rhwng Bala a Thrawsfynydd

Sector: Defaid

Tir: 2,500 erw

Cytundeb: Menter ar y cyd

Dyddiadu cau i ymgeisio: 14/02/2026
 

Proffil y Darparwr

(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)

Ynglŷn â’r cyfle:

Fferm fynydd/ucheldir 2500-erw wedi’i lleoli rhwng Bala a Thrawsfynydd, sy’n codi i 1500 troedfedd. Mae’r fferm yn gaeedig ac wedi'i rhannu'n bedair ardal gyfagos. Mae bugail yn gweithio ar y fferm ar hyn o bryd, yn rhedeg diadell o oddeutu 1500 o famogiaid Mynydd Cymreig. Rydym yn ŵyna’r mamogiaid i gyd yn yr awyr agored, o ganol fis Ebrill. Mae’r ŵyn yn cael eu diddyfnu ym mis Medi ac fel arfer cânt eu gwerthu fel ŵyn stôr neu hesbwrn yn nhymor y gwanwyn canlynol. Mae’r ŵyn benyw yn cael eu cadw fel defaid cyfnewid. Mae’r mamogiaid yn cael silwair a blociau egni yn ystod y gaeaf.

Mae’r tirfeddiannwr yn chwilio am gytundeb menter ar y cyd.

Os bydd pethau’n gweithio’n dda gyda’r fenter ar y cyd, mae posibilrwydd i’r cyfle hwn ddatblygu i denantiaeth.

Ynglŷn â’r tirfeddiannwr:

Mae’r tirfeddiannwr yn dymuno rhoi cyfle i fugail ymgymryd â menter ar y cyd, lle y bydd ef neu hi’n gweithio ar y fferm ac yn ei rhedeg o ddydd i ddydd yn gyfnewid am dâl a rhan o’r elw. 

Mae gan y tirfeddiannwr fuddiannau busnes eraill gan gynnwys ffermydd ar lawr gwlad yng Ngogledd Cymru. Mae’r fferm fynydd/ucheldir hon yn cael ei rheoli gan fugail ar hyn o bryd, sydd wedi bod yn gweithio yno am 35 mlynedd ond mae’n agosáu at oed ymddeol.

Ynglŷn â’r fferm:

Lleoliad: Rhwng Bala a Thrawsfynydd

Isadeiledd sydd ar gael: 

  • Cyfleusterau trin defaid
  • Sied ar gyfer gwartheg neu a fyddai’n addas ar gyfer 500 o famogiaid

Da byw sydd ar gael:

  • Mae 1200 o famogiaid a 350 o ddefaid cyfnewid, sydd i gyd yn ddefaid Mynydd Cymreig
  • Ar un adeg roedd y fferm yn cadw 2000 o famogiaid Mynydd Cymreig caled ond mae’r nifer bellach wedi lleihau oherwydd gwahanol ffactorau. Nid oes gan y tirfeddiannwr unrhyw wrthwynebiad i gynyddu nifer y mamogiaid os oes angen ac mae’n fodlon cyflwyno brîd gwahanol.
  • Nid oes gwartheg ar y fferm ar hyn o bryd, ond mae’r tirfeddiannwr yn fodlon ail gyflwyno gwartheg i’r fferm os yw’r ymgeisydd yn awyddus i wneud hynny.

Peiriannau sydd ar gael:

  • Tractor
  • Beic cwad
  • Hymac
  • Trelar da byw
  • Peiriant tocio cae

Llety ar gyfer yr ymgeisydd:

Nid oes llety ar gael ar y fferm. Fodd bynnag, byddai’n bosibl dod a charafán sefydlog i’r fferm.

Nodau am y 5 mlynedd nesaf:

  • Creu elw
  • Cynnal / gwella iechyd y pridd / statws ffrwythlondeb a bioamrywiaeth y fferm
  • Cynnal / gwella ffensys y fferm
  • Cynnal lefel dderbyniol o reolaeth dros weithrediad y fferm drwy gydweithrediad agos â’r bugail 

Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried:

Menter ar y cyd

Nodweddion allweddol mae’r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:

  • Unigolyn dwyieithog – gallu siarad Cymraeg a Saesneg
  • Unigolyn sy’n gweithio’n galed ac yn ymarferol
Manylion Cyswllt:
Defnyddir y rhif hwn i gysylltu â chi.
Amdanaf fi:
Cyflogwr Teitl Swydd Dyddiad Dechrau Dyddiad Gorffen