Gwyndaf Thomas

Meidrim, Sir Gaerfyrddin

Magwyd Gwyndaf Thomas ar y fferm odro deuluol ym Meidrim, Sir Gaerfyrddin.  Pan oedd yn astudio am BSc mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, dioddefodd teulu Gwyndaf ergyd drom iawn – colli ei dad ar ôl damwain drychinebus. Penderfynodd nad oedd ganddo ddewis ond canslo ei gynlluniau i fynd i deithio a gweithio dramor ac ar ôl graddio, dychwelodd adref.

Gan weithio ochr yn ochr â’i fam a’i frawd fel partneriaid ar y fferm, fe wnaethant barhau’r model busnes oedd eisoes yn ei le, gyda buches yn lloea trwy’r flwyddyn ac yn prynu stoc cyfnewid i mewn. Tyfodd y busnes o ran maint a chwmpas, gan sefydlu dwy uned laeth. Ond, wrth gydnabod bod eu system yn eu gadael yn agored i amrywiadau ym mhris llaeth, symudodd Gwyndaf at fuches yn lloea yn yr hydref gyda’r pwyslais ar gynhyrchu llaeth o laswellt sy’n cael ei bori.

Heddiw, mae Gwyndaf yn cyfuno ffermio llaeth â dyletswyddau teuluol ac mae’n dweud bod llawer o’i amser yn cael ei dreulio yn cludo ei bedwar plentyn i amrywiol weithgareddau ar ôl yr ysgol, ond mae hefyd yn llwyddo i helpu yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Penybont.

Mae’n teimlo’n gryf ei bod yn ddyletswydd ar bob ffermwr i roi gwybodaeth i bobl am bwysigrwydd amaethyddiaeth, o ble y mae bwyd yn dod a gweithio yn erbyn yr agwedd negyddol sy’n cysylltu ‘newyddion’ ffermio fel arfer â thywydd gwael, afiechydon neu brisiau isel.

“Rwy’n gobeithio, trwy fod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig eleni, y bydd gennyf y rhwydweithiau a sgiliau newydd y mae arnaf eu hangen i siarad ar ran ein diwydiant, gan hyrwyddo amaethyddiaeth fel dewis da o ran gyrfa, nid yn unig i’r rhai sy’n cael eu geni iddo, ond i bobl eraill hefyd o gefndiroedd gwahanol.