Jacob Anthony
Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r ffermwr pumed genhedlaeth Jacob Anthony yn un o raddedigion Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth 2014. Dywed bod y profiad wedi bod mor fuddiol ei fod wrth ei fodd ei fod wedi ei ddewis yn awr ar gyfer y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig. Enillodd Jacob, sy’n ffermio ar y fferm deuluol, Cwm Risca, yn Nhondu, ger Pen-y-bont ar Ogwr, wobr Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly yn 2018.
Dywed Jacob bod ei brofiad yn yr Academi Amaeth wedi cyfrannu yn anferth at ei ddatblygiad personol a dywed ei bod yn hanfodol dal ati i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn gwneud y mwyaf o bob cyfle i wella eich perfformiad personol a pherfformiad y busnes.
Ar ôl gorffen diploma dair blynedd yng Ngholeg Hartpury, dychwelodd Jacob adref i Gwm Risca, lle mae’n gyfrifol ar ei ben ei hun am y fenter ddefaid. Erbyn hyn mae’n cadw 1,000 o famogiaid magu Llŷn croes Texel a 300 o wartheg, gan gynnwys 110 o wartheg magu du Cymreig croes Limousin/Charolais, a 10 o wartheg duon Cymreig pedigri.
Ers dychwelyd i’r fferm deuluol, mae wedi gwneud newidiadau i wella effeithlonrwydd a lleihau costau mewnbynnau. Yn aelod brwd o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio, defnyddiodd Jacob grant gan Lywodraeth Cymru i brynu system i drin defaid, sydd wedi helpu i wneud rheoli’r ddiadell yn haws.
“Rhoddodd fy mhrofiad cyntaf o’r Academi Amaeth hyder mawr i mi, fy helpu i ddatblygu mwy o’m gallu busnes a’m cyflwyno i lawer o unigolion o’r un meddylfryd a mentoriaid wnaeth fy ysbrydoli. Rwy’n obeithiol y bydd bod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig eleni yn rhoi’r sgiliau a’r cysylltiadau ychwanegol sydd arnaf eu hangen i helpu i hyrwyddo’r diwydiant a chynrychioli eraill trwy sefyll dros faterion yr wyf yn teimlo yn angerddol amdanynt.”