Nid yw rheoli busnes yn ystod cyfnodau anwadal yn hawdd ac mae angen pen busnes clir i lwyddo. Yr un yw’r stori i ffermydd llaeth, cig eidion a defaid.
Mae gwybod y gwahaniaeth rhwng llif arian ac elw yn bwysig. Os yw anghenion arian parod (arian parod preifat, treth, ad-daliadau benthyciadau cyfalaf a buddsoddiadau cyfalaf) yn fwy na’r elw cyn dibrisiant, yna bydd y busnes mewn sefyllfa negyddol o ran arian parod, er y gall fod yn broffidiol o hyd. Mae hyn yn iawn am gyfnodau tymor byr mewn rhagolwg llif arian, ond nid yw’n dda yn y tymor hwy. Os yw llif arian yn negyddol am gyfnod hir, mae’n rhaid i’r busnes edrych ar ffyrdd o gynyddu elw, lleihau’r arian a ddefnyddir neu wariant cyfalaf, neu ailstrwythuro ad-daliadau benthyciadau.
Ni ddylai anwadalrwydd tymor byr newid cynlluniau a strategaethau tymor hir, oni bai bod marchnadoedd yn newid yn sylfaenol ar gyfer y tymor hir. Felly, os ydych chi wedi buddsoddi mewn system benodol, nid nawr yw’r amser i fod yn betrusgar a thorri costau sy’n rhoi elw da (e.e. bwyd anifeiliaid), gan y bydd hi’n anochel y bydd allbwn yn gostwng yn gyflymach na’r costau y byddwch yn eu harbed.
Deg gair i gall:
1. Gofalwch fod gennych gynllun – tymor byr a thymor canolig.
2. Canolbwyntiwch – dylech fod â nod clir.
3. Cyllidebau – dylech eu paratoi gan ystyried anwadalrwydd, gan ddefnyddio prisiau synhwyrol - prisiau cyfartalog tair i bum mlynedd ac nid y pris ar ei uchaf na’i isaf. Yna dylech brofi gwytnwch y cyllidebau i weld pa brisiau y gallant ymdopi â nhw pan fydd prisiau’n isel, fel y gallant ddal i fod yn ariannol gadarnhaol.
4. Meddyliwch o safbwynt arian parod yn y tymor byr – os ydych yn rhagweld y bydd eich llif arian yn dynn, gwnewch eich gorau glas mewn meysydd a fydd yn ariannol gadarnhaol, a chwtogi ar wariant cyfalaf, os na fyddwch mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol cyn pen 12 mis. Os yw eich rhagolwg llif arian yn rhagweld y byddwch yn mynd y tu hwnt i’ch gorddrafft, yna rhowch wybod i’ch rheolwr banc cyn gynted ag y gallwch chi.
5. Cofiwch herio unrhyw gostau – holwch a ydych yn cael y pris gorau am bob mewnbwn gan asesu’r elw a gewch gan bob punt a werir.
6. Sicrhau’r gwerth mwyaf o’r hyn rydych yn ei werthu – gwnewch yn siŵr eich bod ar y contract cywir: Ar gyfer ffermio llaeth, hyd yn oed os nad ydych yn gallu newid prynwr llaeth, er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu newid eich contract gyda’r un prynwr (os ydynt yn cynnig mwy nag un). Ond dylech edrych ar y rhestr brisiau er mwyn sicrhau eich bod yn cael y fargen orau. Er enghraifft, a ydych yn colli cyfle i gael taliadau bonws? Ydych chi’n ymwybodol o natur dymhorol a/neu addasiadau o ran proffiliau ac a ydynt yn cyd-fynd â’ch proffil chi? Ar gyfer cig eidion a chig oen, gofalwch eich bod yn cynhyrchu ar gyfer marchnad benodol gan sicrhau bod pwysau’r carcas a’r cydffurfiad yn cyd-fynd â dymuniadau’r prynwyr.
7. Cymerwch ran mewn grŵp trafod – rhannu syniadau a meincnodi gyda ffermwyr o’r un anian mewn grŵp â strwythur da yw un o’r ffyrdd gorau o ennyn brwdfrydedd o blaid newid, er mwyn i’r penderfyniadau cywir gael eu gwneud a’u gweithredu’n gyflym.
8. Gofalwch fod cronfeydd wrth gefn ar gael – boed yn gynilion yn y banc neu’n asedau y gallwch eu gwerthu yn gymharol gyflym os oes angen.
9. Ystyriwch eich agwedd eich hun at risg - gerio yw’r gymhareb rhwng benthyciadau ac asedau, gyda thargedau gwahanol ar gyfer perchnogion preswyl a thenantiaid. Dim ond os ydych yn gyfforddus gyda’r risgiau a bod yr enillion posibl yn ddigon mawr y dylech fenthyg arian, ac nid dim ond am fod y banc yn cynnig yr arian i chi.
10. Gofalwch fod ‘gwytnwch’ yn rhan o’ch cynllun – mae llawer o fusnesau wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft – tyrbinau gwynt, solar ffotofoltaig, boeleri biomas a threulwyr anaerobig. Fel arfer, mae’r buddsoddiadau hyn yn cynhyrchu rhwng 10% a 25% o enillion ac yn incwm sicr, sy’n gysylltiedig â’r mynegai am 20 mlynedd. Hyd yn oed os telir amdanynt gyda benthyciad, gallant ychwanegu gwytnwch at fusnes a bod yn ariannol gadarnhaol yn ystod cyfnod ad-dalu’r benthyciad.