Cyflwyniad i’r prosiect - Pensarnau

Mewn adolygiad gan Brifysgol Cornell o astudiaethau ynghylch dognau â llawer o brotein a ffrwythlondeb mewn buchod, nodwyd bod protein uchel wedi cael ei gysylltu yn aml â gostyngiad yn y perfformiad wrth genhedlu, er bod llawer o brotein yn y ddeiet yn symbylu’r buchod i gynhyrchu llawer o laeth.

Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwerth biolegol protein yn y ddeiet i’r fuwch laeth sydd wrthi’n llaetha a statws egni’r fuwch a chydbwysedd yr asidau amino sydd wedi’u hamsugno o’u cymharu ag anghenion yr anifeiliaid. Mewn buchod sy’n llaetha, mae’r Protein Crai yn y ddeiet yn cynnwys ffracsiynau o RDP (Protein sy’n Diraddio yn y Rwmen) ac RUP (Protein nad yw’n Diraddio yn y Rwmen). Drwy gyfrwng yr eplesu arferol yn y rwmen, mae’r RDP yn cynnig ffynhonnell amonia at synthesu protein microbaidd. Mae rhywfaint o’r amonia’n dianc heb gael ei ymgorffori gan y meicro-organebau, yn tryledu o’r rwmen i mewn i’r gwaed portal, ac yn cael ei ddadwenwyno yn yr iau drwy ei droi’n wrea. Mae faint o amonia sy’n cael ei gynhyrchu yn y rwmen a faint sy’n dianc i gael ei droi’n wrea yn adlewyrchu’r RDP yn y ddeiet a faint o garbohydradau eplesadwy sydd ar gael yn y rwmen i helpu meicrobau i dyfu ac i helpu i synthesu protein.

Ffynhonnell arall yr wrea a gynhyrchir yn yr iau yw dadamineiddiad a metabolaeth asidau amino. Mae asidau amino sy’n cylchredeg yn deillio o RUP, protein meicrobaidd, a storfeydd protein yn y corff. Bydd asidau amino nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio wrth syntheseiddio protein llaeth yn cael eu dadamineiddio gan yr iau gan gynhyrchu is-haenau egni ac wrea. Er bod modd lleihau faint o amonia ac wrea a gynhyrchir drwy gydbwyso’r RDP a’r RUP, mae deiet fawr i helpu buchod i gynhyrchu llaeth ac amrywiadau yn y protein meicrobaidd a gynhyrchir yn peri ei bod yn anodd iawn rhagweld yn fanwl gywir pa asidau amino fydd ar gael.

O ganlyniad, mae’r mwyafrif o fuchod sy’n cynhyrchu llawer o laeth yn bwyta mwy o brotein na’r angen, ac mae crynodiad yr wrea yn eu gwaed yn cynyddu.

Mae’r wrea sy’n cylchredeg yn y gwaed yn cael ei fesur ar ffurf ffracsiynau o nitrogen wrea naill ai mewn plasma (PUN) neu mewn serwm a chyfeirir ato’n gyffredinol yn aml fel nitrogen wrea gwaed (BUN). At ei gilydd, mae BUN yn cyrraedd ei anterth o ryw 4 i 6 ar ôl prydau bwyd yn sgil catabolaeth RDP, tra bydd metabolaeth RUP yn cyfrannu at BUN yn barhaus drwy’r dydd. Bydd wrea’n pasio’n hawdd o’r gwaed i’r llaeth yn y chwarren laeth. Mae nitrogen wrea llaeth (MUN) yn ffordd gyflym, heb lawdriniaeth, a llai costus o asesu’r BUN a monitro metabolaeth gyffredinol protein mewn buchod sy’n llaetha.

Mae mesuriadau PUN neu MUN wedi rhoi mynegai defnyddiol at astudio’r cysylltiad rhwng metabolaeth protein yn y ddeiet ac effeithlonrwydd wrth atgenhedlu.

Ar draws llawer o astudiaethau, gwelwyd cydberthyniad rhwng crynodiad uwch o PUN neu MUN a gostyngiad yn ffrwythlondeb buchod llaeth, a hynny mewn buchesi o dan do a buchesi a oedd yn pori yn yr awyr agored.