5 dewis i besgi ŵyn

Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch

Yn Aberbranddu, ger Pumsaint, Sir Gaerfyrddin, mae Irwel Jones yn gwerthu 800 o ŵyn y flwyddyn i Dunbia ar ôl eu pesgi ar laswellt wedi ei ail-hadu ac adlodd silwair gyda pheth dwysfwyd, rhwng Medi a diwedd Tachwedd. Profwyd pum system besgi ar gyfer prosiect newydd ac i werthuso perfformiad yr ŵyn a’u heffeithiolrwydd o ran costau ar gyfer y fferm ucheldir 850 erw. Mae’r prosiect yn cymharu 310 o ŵyn gwryw, sydd wedi eu rhannu yn bum grŵp cyfartal y cyfan â chyfartaledd pwysau o tua 32kg, i’w pesgi mewn pum system wahanol:

• Cymysgedd o rêp porthiant a Rhygwellt Eidalaidd

• Glaswellt wedi ei ail-hadu o’r newydd

• Hen wndwn yn unig

• Hen wndwn a dwysfwyd

• Dwysfwyd dan do

“Rydym am besgi wŷn yn gyflymach ar bwysau trymach, felly bydd yn ddiddorol cymharu’r gwahanol ddewisiadau a gweld pa un sy’n helpu’r ŵyn i berfformio orau,” dywedodd Irwel.

“Ond, rhaid i gost y dull pesgi hefyd gael ei gyfiawnhau. Un o’n prif nodau yw dibynnu llai ar borthiant wedi ei brynu i mewn, felly trwy wneud y prosiect hwn gallaf roi gwerth ar ffyrdd gwahanol o besgi a bod yn ffyddiog ein bod yn defnyddio’r dull gorau i ni yn y dyfodol.”

Dechreuodd y prosiect yn gynnar ym mis Medi a bydd yr ŵyn yn cael eu pwyso bob pythefnos hyd at eu pesgi erbyn diwedd Tachwedd. Bydd y prosiect yn cofnodi’r nifer o ddyddiau hyd eu pesgi, y kg o gig oen a werthir i bob hectar, cyfanswm y dwysfwyd a ddefnyddiwyd, unrhyw broblemau iechyd a’r holl gostau a’r elw ar y buddsoddiad.

Dywed yr ymgynghorydd defaid blaenllaw Lesley Stubbings bod rhaid i ffermwyr ystyried eu dewisiadau yn ofalus wrth besgi ŵyn, gan sicrhau nad ydynt yn cael effaith ar y cnwd o ŵyn y flwyddyn nesaf.

“Ni all ffermwyr fforddio gadael i ŵyn ddwyn y borfa sydd ar y mamogiaid ei angen i ddod i’r cyflwr iawn i fynd at yr hwrdd. Bydd hyn yn effeithio, nid yn unig ar ganran sganio’r ddiadell, ond bydd hefyd yn cael effaith yn y pen draw ar dyfiant ŵyn y flwyddyn nesaf,” meddai Lesley. “Y lle gorau i ddechrau arni yw pwyso’r ŵyn sydd ar ôl, penderfynu faint o bwysau y mae angen iddynt ei ennill a chyfateb hynny â beth sydd ar gael. Efallai y bydd rhaid gwneud y penderfyniad, i ddiogelu’r ddiadell o famogiaid, i werthu rhai ŵyn yn stôr, yn hytrach na dod â nhw i mewn a’u pesgi ar ddwysfwyd. Fel rheol fras, erbyn yr hydref, o dybio eu bod yn iach, mae ar ŵyn angen 7-8kg o borthiant am bob kg a enillir, felly ar £200 y dunnell, bydd hyn yn costio 150-160c yr oen am bob kg a enillir.”