Cynnydd mewn achosion Pica mewn gwartheg - Nantglas

Cododd grŵp trafod yn Ne Cymru bryderon pan wnaethant sylwi bod cynnydd yn yr achosion o Pica, sy’n gysylltiedig â diffyg mwynau (sodiwm a ffosfforws) a/neu ddiffyg ffibr strwythurol sy’n achosi i fuchod fwyta cerrig a phriddoedd i gynyddu’r mwynau y maent yn eu bwyta, a all fod yn angheuol. Yn anffodus, ychydig iawn o ymchwil sydd i’r cyflwr a’r driniaeth ar ei gyfer.
Cododd nifer o fusnesau fferm bryderon gan gofnodi bod eu buchesi yn dioddef achosion tebyg sy’n awgrymau bod buchesi yn dioddef ledled y wlad. 

Dywedodd Rupert Sheppard, milfeddyg yn ProStock Vets Caerfyrddin, “mae’n debyg bod y tywydd gwlyb iawn yn ystod y gaeaf wedi golygu bod priddoedd wedi colli maetholion (ffosfforws) oherwydd ei fod yn colli o’r pridd. Gwaethygwyd hyn gan dymheredd oer y pridd a gawsom yn nes ymlaen, cyn y cyfnod hir sych, gan leihau gallu’r glaswellt i gymryd ffosfforws i mewn - cyfuniad perffaith i ysgogi Pica eleni”. 

Yn Nantglas, un o safleoedd arddangos llaeth Cyswllt Ffermio yn Sir Gaerfyrddin, mae’r ffermwr Iwan wedi cyflwyno cyfraddau ffosfforws uwch yn y dwysfwyd ac ychwanegu ffosfforws at y cafnau dŵr mewn ymgais i leihau’r achosion Pica, ond mae’r cyflwr yn un anodd iawn i’w reoli a rhoddwyd triniaeth i ychydig o wartheg i gael gwared ar rwystrau carreg. Mewn rhai achosion, credir bod gwartheg yn parhau i fwyta cerrig hyd yn oed ar ôl i’r diffyg gael ei drin yn llwyddiannus am bod y gwartheg wedi mynd i’r arfer. Ond, mae’n anodd ei brofi.

Pan fydd buchod yn cael digon o ffosfforws yn eu diet a lefelau digonol o ffosfforws yn bresennol yn y pridd, gall Pica hefyd fod yn eilaidd pan fydd ffibr yn brin mewn diet pan fydd glaswellt yn tyfu’n gyflym. Gall gwartheg sy’n cael diet prin o ffibr ddioddef asidosis oherwydd bod llai o ‘gnoi cil’ a lleihau’r effaith trwy lafoer, sy’n arwain at ostyngiad yn y bwyd a gymerir yn gyffredinol ac yn y llaeth a gynhyrchir o ganlyniad i hynny a llai o fraster llaeth oherwydd y newid yn y cydbwysedd o ran asid brasterog. Gall Pica hefyd gael ei achosi gan gynnydd yn y siwgr mewn glaswellt o safon uchel. Gall addasu’r diet trwy sicrhau bod y gwartheg yn gallu cael ffibrau hir fel gwellt neu silwair coesog helpu i leihau pica. 

Dywed Kate Burnby, milfeddyg annibynnol sy’n gweithio ar un o’n safleoedd arddangos, bod marwolaethau yn anghyffredin gan y gall sylwi yn gynnar ar fuchod yn llyfu ymylon llwybrau gwartheg fod yn arwydd cynnar. Ond, os bydd buchod yn bwyta gormod o ddeunydd na ellir ei dreulio, gall arwain at atal y perfeddion yn ddifrifol a marwolaeth.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich buches, cysylltwch â’ch milfeddyg am gyngor ac er mwyn cymryd samplau gwaed o bosibl. Gallwch hefyd gysylltu â maethegydd eich buches i gymryd samplau glaswellt i sicrhau bod digon o ffosfforws yn y porthiant.