Sean Jeffreys
Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Wedi’i fagu yn Abertawe gan riant sengl, nid yw profiad amaethyddol Sean Jeffreys yn un nodweddiadol i ffermwr ifanc. Bellach yn byw yn Llandeilo, bu Sean yn ffodus o gael blas ar fywyd gwledig ar dyddyn ei daid a’i nain. Yno, wedi’i amgylchynu gan dirwedd anwastad Cwm Gwendraeth a diadell fechan o ddefaid Mynydd Cymreig Torddu a Thorwen pur, taniwyd diddordeb Sean mewn amaethyddiaeth.
Yn benderfynol o ddilyn gyrfa yn y diwydiant, aeth Sean ymlaen i ennill profiad gwaith ar ffermydd yn Ne Cymru ac ar draws y ffin ochr yn ochr â’i astudiaethau cyn mynychu Prifysgol Harper Adams, ble y gwasanaethodd fel cadeirydd Harper Cymru.
Bellach, gyda gradd mewn Amaethyddiaeth a Marchnata a’r dyhead i ddatblygu’r diwydiant cig coch, mae Sean yn gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd yn hwyluso gwelliannau genetig hirdymor yn y sector defaid Cymreig trwy gofnodi perfformiad.
Gyda’r awydd i ddringo i fyny’r ysgol ffermio ar ei liwt ei hun, ac o fod yn rhan o fusnes ei nain a’i daid yn hanesyddol, mae Sean wedi cychwyn busnes ei hun yn ddiweddar.
Yn dal yn ei ddyddiau cynnar, bydd y busnes yn cynhyrchu ŵyn wedi’u pesgi ac ŵyn benyw sy’n addas ar gyfer bridio. Mae ar hyn o bryd yn magu lloeau llaeth croes bîff ynghyd â’r fenter ddefaid am y tro cyntaf. Os yn llwyddiannus, hoffai Sean ehangu ar y llif incwm hwn ond mae’n ymwybodol fod rhaid mesur ei fanteision a’i anfanteision.
Yn ffordd o ychwanegu at y busnes, mae Sean hefyd yn rhoi amser i odro rhan amser fel ffordd o ychwanegu cyfalaf i’r busnes, ac er gwaethaf ei ragolwg cadarnhaol, mae’n adnabod rhai heriau a meysydd sydd angen eu gwella, megis mynd i’r afael â mynegeion pridd a rheoli glaswelltir.
“Trwy fod yn rhan o’r Rhaglen Busnes ac Arloesedd, rwy’n gobeithio datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i barhau i dyfu fy musnes. Oherwydd fy mhrofiad o fewn amaethyddiaeth, nid wyf wedi profi rhai o’r prosesau naturiol a’r profiadau o redeg busnes amaethyddol. Felly, rwy’n edrych ymlaen at rwydweithio gyda phobl i ddysgu, derbyn cymorth ac ysbrydoliaeth.”