Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
P’un a ydych chi’n weithiwr neu’n gyflogwr dylem i gyd fod yn ymwybodol o’n hawliau a’n cyfrifoldebau yn y gweithle.
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fwynhau gweithle lle cawn ein trin yn deg a theimlo’n ddiogel. Dyna pam rydym yn eich cysylltu â’r bobl a all eich helpu i gael gwybod mwy am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.
WeithwyrMynnwch wybod eich hawliau
|
|
Dysgwch fwy am eich hawliau yn y gwaith.O gyngor am ddiswyddiadau yn sgil COVID 19 i gwestiynau am isafswm cyflog, gwyliau, iechyd a diogelwch yn y gwaith, a thâl salwch, mae yna bobl sy’n gallu helpu. |
|
TUC CymruDysgwch fwy am sut i ddiogelu eich hawliau yn y gwaith Pan fo grŵp o weithwyr yn gweithredu ac yn siarad fel un, mae eu cyflogwr yn gorfod gwrando. Dyna sut mae undebau yn gwella pethau yn y gwaith. Gall undebau negodi gwell cyflog i’w haelodau, helpu i wneud gweithleoedd yn fwy diogel a sicrhau eich bod yn cael y fargen orau yn y gwaith. P’un a ydych chi eisiau cyngor ar eich hawliau yn y gwaith neu gyfleoedd hyfforddi, neu’n teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg, mae eich undeb yno i’ch cefnogi i gael y canlyniad iawn.
|
|
AcasMae Acas yn cynnig cyngor ar y gyfraith gyflogaeth, hawliau cyflogaeth ac arferion gorau. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu i ddatrys anghydfodau yn y gweithle. |
|
Cyngor ar bopethOs oes gennych broblem yn y gwaith a/neu os ydych yn meddwl eich bod yn dioddef triniaeth annheg neu wahaniaethu, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol. |
|
GyflogwyrMynnwch wybod eich cyfrifoldebau
|
|
Dysgwch fwy am sut i gefnogi eich gweithwyr.Fel cyflogwr, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn y gwaith ac yn cael eu trin yn dda. Os oes angen cyngor a chyfarwyddyd arnoch ynghylch gofalu am eich staff, mae yna bobl a all helpu. |
|
CBIRydyn ni’n grymuso busnesau drwy gynnig gwybodaeth i’w galluogi i wneud penderfyniadau deallus, gan osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant. |
|
Y Ffederasiwn Busnesau BachMae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnig cymorth i aelodau, cyngor ariannol a llais yn y Llywodraeth. Mae’n bodoli er mwyn helpu busnesau bach drwy’r heriau anoddaf. |
|
AcasGall Acas Cymru gynnig cyngor a chymorth arbenigol i gyflogwyr. Gall ein cynghorwyr weithio gyda chi ar faterion o bob math ynghylch y gyfraith gyflogaeth, diswyddo, ailstrwythuro neu reoli newid. |
|
Siambrau Fasnach CymruMae Siambrau Fasnach Cymru yn cynnig cymorth busnes i gwmnïau ledled Cymru, gan gynnig gwasanaethau sy’n berthnasol ac yn werthfawr, a chaniatáu i gwmnïau dyfu mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn cynnig gwybodaeth a chymorth clir i helpu busnesau Cymru i addasu a thyfu, gall ein harbenigwyr helpu. |
Astudiaethau achos