Adolygiad diwedd tymor pori 1 yn Orsedd Fawr

Gethin Prys Davies, Swyddog Technegol Cig Coch

Y nod y llynedd yn Orsedd Fawr, sy’n fferm organig, oedd pesgi gwartheg ar borfa cyn iddyn nhw fod yn 18 mis oed trwy ddefnyddio system pori cylchdro gan symud y gwartheg bob dau ddiwrnod.

A wnaethom ni gyflawni hyn? Do, i ryw raddau, ond roedd y nifer y cafodd eu hanfon wedi eu pesgi braidd yn siomedig. Pum eidion gafodd eu hanfon wedi’u pesgi ar 10 Hydref allan o’r 24 eidion oedd ar y borfa trwy gydol y tymor pori (cafodd 6 anifail eu hychwanegu yn ystod mis Mehefin/Gorffennaf). Mae’r canran lladd, dosbarth ac oedran i’w gweld yn nhabl 1. Yn fy marn i, byddai dau o’r gwartheg oedd yn weddill wedi bod yn barod cyn diwedd mis Hydref, ond cafodd Gwyn gynnig gan brynwr o siop organig, felly, aeth yr eidion oedd yn weddill fel gwartheg stôr.

Tabl 1

Pwysau byw ar 28/9/17

Pwysau carcas

% lladd

Gradd

Oedran mewn misoedd

592

294

49.7

R2

18.8

610

302.1

49.5

O+2

18.1

574

285.6

49.8

O+2

17.2

610

302.6

49.6

R3

17.1

614

307.8

50

O+3

18.1

 

Roedd amgylchiadau annisgwyl yn golygu nad aeth y gwartheg i’r lladd-dy ar y dyddiad disgwyliedig, felly, mae’n bosib fod y canran lladd yn is gan fod pythefnos ychwanegol wedi’i dreulio ar y borfa.

Roedd yna wahaniaeth sylweddol ym mherfformiad yr eidion o ran cyfanswm y pwysau a enillodd yr eidion dros y tymor pori. Y cyfartaledd oedd 158kg dros 180 diwrnod gyda’r anifail a berfformiodd orau yn ennill 190kg a’r gwaethaf yn ennill dim ond 114kg dros yr un cyfnod.

Yn gyffredinol, roedd y perfformiad yn dda iawn hyd at wythnos gyntaf mis Gorffennaf. O hynny ymlaen roedd perfformiad lloeau a chynnydd pwysau da byw (DLWG) wedi gostwng o dan y targed 1kg gyda thri anifail yn benodol yn siomedig iawn o hynny ymlaen. Er gwaethaf cael eu pori ar ddigon o borfa, roedd y perfformiad yn waeth na’r disgwyl.

Roedd y tywydd o fis Medi ymlaen yn arbennig o wlyb a gallai hyn fod wedi cyfrannu at y DLWG isel mewn sawl ffordd. O ganlyniad i’r amgylchiadau gwlyb, mae’n bosib bod y baich parasitig yn drymach ar y gwartheg na’r disgwyl. Roedd dadansoddiad o gyfrif wyau ysgarthol (FEC) y gwartheg yn y cae yn cael ei gynnal yn rheolaidd. Cafodd llyngyr y rwmen a llyngyr yr ysgyfaint eu canfod a’u trin yn gynnar yn y tymor pori. Roedd gan un o’r anifeiliaid a gafodd eu hanfon i’w lladd olion llyngyr anaeddfed er nad oedd wyau llyngyr yr iau wedi cael eu canfod. Felly, mae’n bosib bod yna rhywfaint o faich llyngyr yr iau ar y gwartheg ar ddiwedd yr haf ac efallai mai dyna’r rheswm pam fod rhai o’r anifeiliaid wedi perfformio’n arbennig o wael.

Edrych tuag at 2019

Mae lloi eleni eisoes wedi cael eu diddyfnu a’u pwyso ac yn gyffredinol yn fwy hafal na lloi llynedd.  Cafodd lloi llynedd eu bwydo gyda thua 70kg y pen o ddwysfwyd o fis Tachwedd hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, a dyna’r unig ddwysfwyd cafodd y lloi yn ystod eu cyfnod ar y fferm. Mae Gwyn wedi penderfynu dyblu’r dwysfwyd bydd y lloi yn ei gael yn y gaeaf er mwyn cyflawni pwysau uwch wrth eu troi at borfa gyda’r bwriad o besgi mwy o wartheg ar borfa eleni o ganlyniad i’r manteision ariannol o’i gymharu â’u gwerthu fel gwartheg stôr. Bydd hyn yn cael ei fonitro er mwyn canfod a oes modd cyfiawnhau’r costau ychwanegol bydd hyn yn ei ychwanegu at y system.