Adroddiad diwedd prosiect Fferm Fro: Dibynadwyedd Profi Genomig mewn Heffrod Llaeth Holstein

Cyflwyniad:

Mae'r prosiect hwn yn bwriadu adolygu dibynadwyedd profi heffrod llaeth Holstein Friesian yn erbyn data bridio cyfartalog traddodiadol y tad a’r fam (PTA). Y nod oedd penderfynu os oes gwerth ariannol yn gysylltiedig â buddsoddi mewn profion genomig ar fferm laeth fasnachol. Mae profion genomig ar gyfer heffrod wedi bod ar gael yn eang yn y DU ers tua 8 mlynedd bellach ac fe'i cyflwynir yn yr un fformat â theirw a brofwyd yn genomig gyda lefelau tebyg iawn o ddibynadwyedd os caiff ei adolygu o fewn brîd.

Mae'r teulu Young ar Fferm Fro, Y Fenni yn rhedeg buches o dros 220 o wartheg Holstein Friesian sy’n lloia yn yr Hydref, gan fagu tua 70 o heffrod newydd. Mae eu contract llaeth yn cynnwys rhywfaint o bwyslais ar gyfansoddion er bod cyfaint yn bwysig hefyd.  Mae'r teulu wedi cymryd diddordeb brwd mewn bridio ers blynyddoedd lawer, fodd bynnag, mae eu meini prawf bridio wedi newid i gymryd mwy o ystyriaeth o Fynegai Proffidioldeb Oes (£PLI), tra'n sicrhau eu bod yn dal i ddefnyddio nodweddion Math i fridio buwch weithredol ond gyda llai o esgyrnogrwydd ac yn fyrrach.

 

Dull:

Mae gwahanol opsiynau ar gyfer profion Genomig yng Nghymru, drwy'r sefydliadau cofnodi llaeth, milfeddygon, cwmnïau bridio a chymdeithasau rhai bridiau. Yn Fferm Fro, cafodd yr heffrod eu profi drwy CIS/Holstein UK, gan ddefnyddio sampl DNA meinwe a anfonwyd i ffwrdd i'w ddadansoddi. Mae'r canlyniadau'n cymryd 6 - 8 wythnos i ddod yn ôl felly mae'n bwysig bod y samplu'n cael ei wneud ymhell cyn gwneud unrhyw benderfyniadau bridio fel y gellir defnyddio'r wybodaeth genomig i'w llawn botensial. 

Yn 2019, cafodd 63 o heffrod llaeth o dan 1 oed eu profi'n genomig, cyn eu gwasanaeth cyntaf i nodi eu cryfderau a'u gwendidau ac i gymharu unrhyw wahaniaethau rhwng data PTA a'r wybodaeth genomig. Roedd y wybodaeth yna i'w defnyddio i weld a fyddai meini prawf bridio y teulu Young yn newid o ganlyniad i'r wybodaeth newydd hon.  

Unwaith wnaethon ni dderbyn y canlyniadau, fe wnaethom gynnal gwiriad rhiant a phrosesu'r data drwy'r cwmni a wnaeth y profion a hefyd ar Adroddiad Genetig Buchesi AHDB (HGR) y fferm trwy AHDB Dairy. Byddai'r wybodaeth hon yn cael ei drosysgrifio ar ôl i'r data genomig gael ei ryddhau, oherwydd ei ddibynadwyedd cynyddol.  

Cyn hynny, roedd gan y teulu bolisi bridio clir a oedd yn cynnwys y meini prawf canlynol:

  • £PLI yn uwch na'r anifail gorau 
  • Dewis cadarnhaol ar gyfer nodweddion iechyd, braster % protein 
  • Atal unrhyw gynnydd pellach mewn taldra 
  • Gwella cryfder 
  • Dewis positif ar gyfer cadair blaen 
  • Rhwyddineb lloia 
  • Cyfradd beichiogi teirw os yw ar gael 
  • Lleihau unrhyw mewnfridio

Canlyniadau:

Dyma'r gwahaniaethau allweddol ar draws y grŵp o heffrod:

Nodwedd

PTA

Genomig

Dibynadwyedd £PLI (ar gyfartaledd)

36.76%

56.79%

Cyfartaledd £PLI

£403

£375

Anifail £PLI Gorau

£518

£542

Anifail £PLI Gwaethaf

£150

£143

Llaeth (ar gyfartaledd)

610 kg

542 kg

Braster (ar gyfartaledd)

23.82kg (0%)

20.57kg (0%)

Protein (ar gyfartaledd)

18.30kg (-0.01%)

15.68kg (-0.02%)

Cyfrif Celloedd Somatig (ar gyfartaledd)

-12.51

-11

Ffrwythlondeb (ar gyfartaledd)

+2.54

+3.55

Mantais TBb (ar gyfartaledd)

Ddim ar gael

+0.59

Tabl 1 – Data PTA ar gyfartaledd (oni nodir) o'i gymharu â chanlyniadau genomig ar gyfer 63 o heffrod yn Fferm Fro.

Ar y cyfan, mae'r canlyniadau'n dangos bod amrywiaeth ym mhotensial genetig anifail rhwng PTA a data genomig ac yn bwysig, mae'r ffigur genomig £PLI yn 20% yn fwy cywir gan ganiatáu i bolisi bridio mwy strategol gael ei weithredu i sicrhau'r elw mwyaf posibl. Fel y gwelir yn y tabl, mae'r data cynhyrchu genomig yn dangos gwelliant arafach na'r hyn a nodir yn y data PTA. Mae'r canfyddiadau cychwynnol yn dangos y bydd newid mewn meini prawf bridio, gyda phwyslais ychwanegol ar fraster a phrotein yn enwedig, yn arwain at elw ariannol os defnyddir y data genomig yn hytrach na'r data PTA traddodiadol. 

Byddai profion genomig o fudd ar lawer o ffermydd lle gellir defnyddio data mwy cywir i wella perfformiad buchesi yn ogystal â chaniatáu i ffermydd werthu heffrod dros ben nad ydynt yn cyd-fynd â gofynion ffermydd. Roedd gan y teulu Young bolisi bridio a oedd yn hoelio sylw ar agweddau penodol a rheolaeth fuches gref eisoes, sy'n arwain at lai o amrywiaeth rhwng PTA a data genomig, ond gellir adnabod ardaloedd targed o hyd gyda'r canlyniadau genomig.

Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae'r heffrod ond peth o’r ffordd trwy eu llaethiad cyntaf felly nid yw cymharu rhagamcanion genomig â pherfformiad gwirioneddol yn bosibl. Fodd bynnag, yn anecdotaidd, mae'r heffrod sydd â photensial braster llaeth a phrotein uwch rhagweledig, wedi perfformio'n well ond ar lawer o nodweddion eraill, fel cyfrifon celloedd somatig nid oes unrhyw allanolynnau go iawn, felly mae'n anodd gwerthuso gwahaniaeth.  Wedi dweud hyn, ar ffermydd eraill sydd eisoes yn defnyddio genomeg fel rhan o'u rhaglen fridio, rydym yn gweld anifeiliaid gyda chyfrifon celloedd somatig uchel rhagweledig yn rhedeg ffigurau cyfrifon celloedd somatig uwch fel mater o drefn pan fydd llaeth wedi'i recordio ac fel arall gyda'r rhai sydd â rhagfynegiadau cyfrifon celloedd somatig isel. 

Bydd gwerthusiad o ragfynegiadau genomig V perfformiad gwirioneddol yn cael ei gynnal yn Hydref 2021 pan fydd yr holl laethiadau cyntaf wedi'u cwblhau.

 

Mewnfridio:

Fel rhan o'r prosiect, defnyddiwyd data AHDB HGR i gynnal gwerthusiad cychwynnol yr heffrod, profion cyn genomig. O fewn yr adolygiad hwn, amlygwyd y ffaith fod angen rhoi mwy o sylw i fewnfridio. Roedd data HGR yn dangos mae 6.6% oedd y cyfartaledd mewnfridio ar gyfer y 63 o heffrod, pan fod y diwydiant yn argymell osgoi gadael i’r lefel fynd yn uwch na 6.25%. Yn achos mewnfridio, gall hyn gynnwys: 

  • llai o ffrwythlondeb anifeiliaid
  • cynhyrchiant is
  • problemau iechyd posibl 
  • her hirdymor o gywiro'r materion hyn 

Fe wnaeth ymchwiliad pellach ganfod nad oedd y rhaglen bresennol yr oedd y teulu wedi bod yn ei defnyddio i gyfrifo mewnfridio wedi bod yn cyfrifo'n iawn. Mae bellach yn bryder mawr yn Fferm Fro gyda nifer o heffrod newydd wedi’u mewnfridio dros 12% gyda'r R2 ar 6.8% fel cyfartaledd a'r R1 bellach ar 7%.  

Mae'r tabl isod yn dangos y risg sylweddol a berir drwy beidio â chael data cywir wrth edrych ar lefelau mewnfridio ar gyfer dwy heffer, a ddewiswyd ar hap yn Fferm Fro.  

Anifail

AHDB

HUK

Cwmni A

Cwmni B

Genomig

A

8.65

3.78

3.78

Ddim yn bosib

9.2

B

7.47

2.49

0

Ddim yn bosib

9.4

Tabl 2 - Ffigyrau mewnfridio ar gyfer 2 heffer yn Fferm Fro yng Ngwanwyn 2020. 

Ni fyddai'r gwahaniaeth hwn mewn ffigyrau wedi'i ganfod pe na bai'r prosiect yn Fferm Fro wedi defnyddio adroddiad AHDB HGR fel sgrin gychwynnol o'r data. O'r prosiect cyfan, mae'r canlyniadau annisgwyl hyn wedi cael yr effaith fwyaf ar wneud penderfyniadau bridio yn Fferm Fro.

 

Casgliad:

Ar y cyfan, mae'r canlyniadau'n dangos bod amrywiaeth ym mhotensial genetig anifail rhwng PTA a data genomig ac yn bwysig, mae'r ffigur genomig £PLI yn 20% yn fwy cywir gan ganiatáu i bolisi bridio mwy strategol gael ei weithredu i sicrhau'r elw mwyaf posibl.

Byddai profion genomig o fudd ar lawer o ffermydd lle gellir defnyddio data mwy cywir i wella perfformiad buchesi yn ogystal â chaniatáu i ffermydd werthu heffrod dros ben nad ydynt yn cyd-fynd â gofynion ffermydd. Roedd gan y teulu Young bolisi bridio a oedd yn hoelio sylw ar agweddau penodol a rheolaeth fuches gref eisoes, sy'n arwain at lai o amrywiaeth rhwng PTA a data genomig, ond gellir adnabod ardaloedd targed o hyd gyda'r canlyniadau genomig.

Y prif gasgliad o'r astudiaeth hon yw pwysigrwydd data dibynadwy, cywir a'r angen i sicrhau bod modd ymddiried mewn unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei defnyddio. Gall data anghywir gael goblygiadau enfawr yn y dyfodol, os nad ydyn nhw'n cael eu nodi.