Adroddiad terfynol - Ffordd awtomataidd o ganfod a yw buwch yn y cae yn gofyn tarw

Roedd Gwyn Parry, Orsedd Fawr, Pencaenewydd, yn awyddus i roi geneteg ehangach i’w fuches sugno’r tymor hwn, ac felly dewisodd ddefnyddio tarw potel ar rai o’r gwartheg.

Am fod y fuches yn lloia yn y gwanwyn, mae'r gwartheg allan yn  pori pan fyddant yn gofyn tarw, ac mae cadw llygad am y rhai gwasod yn gallu bod yn wastraffus o ran amser.  Er mwyn hwyluso pethau, trodd Gwyn at dechnoleg a threialu’r coler HEAT MooCall.

Rhoddwyd y coler ar darw a oedd wedi cael fasectomi.  A rhoddwyd tag adnabod syml (tag gwyrdd) ar bob buwch fagu.
 

 

 

Mae'r coler, sy'n pwyso tua 6kg, yn cynnwys yr holl dechnoleg a batris ar gyfer y system, a bydd yn gweithio unrhyw le yn yr awyr agored, waeth beth fo'r dopograffeg. Mae'r system yn monitro lleoliad y tagiau mewn perthynas â'r coler. Cyn bod neges yn cael ei hanfon i ddweud bod buwch yn gofyn tarw, rhaid i'r tarw fynd ar gefn y fuwch, ac yna hysbysir y ffermwr trwy neges destun a hysbysiad ar yr ap HEAT MooCall.  Bydd batri’r coler yn para am rhwng wyth a deuddeg wythnos, a bydd neges testun yn cael ei hanfon at y ffermwr pan fo’r batri’n isel ac angen ei ailwefru.

Gwnaed yr holl waith semenu artiffisial gan dechnegydd a fyddai’n cyrraedd y fferm am 7:30 bob bore. Byddai Gwyn yn mynd â’r holl fuchod a oedd yn gofyn tarw cyn 6am i’r crutiau trafod ar yr iard.  Byddai’r rhai a oedd yn gofyn tarw ar ôl 6am yn cael eu semenu’r diwrnod canlynol.  Cadwyd y gwartheg yn y caeau agosaf at y crutiau trafod yn ystod y cyfnod hwn er mwyn arbed cymaint â phosibl o waith ychwanegol.

Rhannwyd y gwartheg yn ddau grŵp, a rhoi'r tarw a oedd wedi cael fasectomi gyda 50 o wartheg i ddechrau; rhoddwyd tarw cyflawn gyda gweddill y gwartheg.  Roedd Gwyn wedi prynu 50 gwelltyn semenu ac ar ôl eu defnyddio i gyd, cymerwyd y tarw a oedd wedi cael fasectomi i ffwrdd a rhoddwyd tarw cyflawn yn ei le i ddelio ag unrhyw fuwch a oedd yn ail ofyn tarw.

 

Canlyniadau

Yn Orsedd Fawr, canfuwyd yr holl fuchod yn wasod a'u cyflwyno ar gyfer semenu artiffisial o leiaf unwaith rhwng 3 Gorffennaf a 30 Gorffennaf 2019.  Erbyn hynny roedd yr holl welltynnau wedi eu defnyddio, a chyflwynwyd tarw cyflawn i'r fuches.

Trwy gyfeirio at y canlyniadau sganio a dyddiad y semenu artiffisial, mae'n ymddangos fod 26 o'r gwartheg yn gyflo ar ôl y cylchred cyntaf, gan roi canran cyflo o 52% i semenu artiffisial. Mae'n werth nodi fod tair o'r 50 buwch yn hesb a’u bod heb sefyll i’r tarw ychwaith. Os ydym yn anwybyddu’r rhain, mae canran y buchod cyflo yn cynyddu i 55%.

 

Ystyriaethau ariannol

Costiodd y system ei hun £1,095; mae'n cynnwys un coler, 50 o dagiau buchod ynghyd â gwasanaeth rhwydwaith, hysbysiadau, a diweddariadau meddalwedd am 12 mis. Y tanysgrifiad blynyddol wedi hynny yw £250.  Does dim tâl am ddefnyddio’r ap Moocall Breedmanager.  Mae tagiau ychwanegol ar gael mewn pecynnau o 25, ar gost o £70 y pecyn.

Mae'r gymhareb coler-i-fuwch yn cael ei phennu gan allu'r tarw sydd wedi cael fasectomi i wasanaethu’r buchod; 50 o fuchod yw'r nifer fwyaf y gall tarw llawn-dwf ddygymod â nhw.   Er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer y tymor cyfan, rhaid i'r anifail hwn fod â’r iechyd gorau posibl a libido dda.

Rhaid rhoi ystyriaeth i gost gwelltynnau a brynwyd, a ffioedd storio a gwasanaethu, ond mae modd gwrthbwyso'r rhain i raddau -  naill ai am nad oes angen tarw magu, neu am fod modd lleihau nifer y teirw.

Rhaid talu milfeddyg i roi fasectomi i darw, a bydd y gost yn amrywio o filfeddygfa i filfeddygfa. Yn ddamcaniaethol, unwaith y bydd y fasectomi wedi digwydd, mae modd defnyddio'r tarw cyhyd â'i fod mewn iechyd da.  Fodd bynnag, mae’r teirw hyn yn dueddol o ddatblygu natur ymosodol a pheryglus dros amser, ac felly argymhellir eu defnyddio am un tymor yn unig, ac yna eu gwerthu i'r lladd-dy. Ni chynghorir rhoi fasectomi i darw llaeth, oherwydd mae’n tueddu i fod yn fwy peryglus na theirw eraill.

Mae defnyddio tarw potel yn golygu tipyn mwy o waith. Mae'r gwartheg yn Orsedd Fawr yn cael eu pori ar gylchdro ac yn cael eu symud yn rheolaidd, sy’n hwyluso’r sefyllfa i raddau. Mae maint y gwaith ychwanegol yn amrywio o fferm i fferm, ac mae’n dibynnu llawer ar niferoedd y gwartheg a pha mor agos yw’r cyfleusterau trafod.  Fodd bynnag, mae system HEAT Moocall, yn golygu llai o waith na phe bai rhywun yn gorfod cadw llygad ar fuchod i ganfod y rhai sy’n gofyn tarw.

Mae'r system hon hefyd yn addas i'w defnyddio dan do, os yw’r gyfradd stocio a’r math o adeilad yn briodol.  Gwnaed ambell gamgymeriad yn Orsedd Fawr, ond fel arfer fe’u canfuwyd ymhen llai na dwy awr. Anwybyddwyd y camgymeriadau gan Gwyn os nad oeddynt yn digwydd oddeutu 21 diwrnod ar ôl y tro diwethaf i’r fuwch ofyn tarw - oni bai ei bod yn amlwg fod y fuwch yn wasod.

Byddai'n arfer da i gyflwyno'r tarw â'r coler i'r buchod o fewn un cylchred cyn y dyddiad y bwriedir dechrau ar semenu artiffisial, i weld sut mae'n ymddwyn gyda'r gwartheg ac fel bod modd gwneud unrhyw newidiadau os oes angen.