Adroddiad Terfynol Gardd Gegin Mostyn: Datblygu Menter Casglu Eich Pwmpenni Eich Hun

 

Cyflwyniad

Mae Gardd Gegin Mostyn yn ardd furiog Fictoraidd ar dir Neuadd Mostyn yn Sir y Fflint. Mae perllan fawr, a defnyddir y 2.5 erw (1ha) i dyfu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, gan gynnwys aeron, riwbob, tomatos, betys, ffa, perlysiau a chnydau salad. Gan ganolbwyntio ar wneud y gorau o bob cyfle i ychwanegu gwerth, mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch yn cael ei rewi adeg cynaeafu, ac yn cael ei ddefnyddio i wneud jam a siytni sy’n cael eu gwerthu’n lleol drwy gydol y flwyddyn. 

Mae tai gwydr traddodiadol sy’n gwyro yn erbyn wal ar un ochr ar gael, ynghyd ag amrywiaeth o offer garddwriaethol i ganiatáu cynhyrchu hunangynhwysol – gan gynnwys lluosogwr ar gyfer modiwlau.

Gydag ardal dyfu ar gael i ystyried plannu cnwd newydd ac i roi cyfle pellach i’r cyhoedd ymgysylltu, dewiswyd pwmpenni fel cnwd addas ar gyfer menter ‘casglu eich hun’. Mae’r safle’n lle atyniadol, ac mae’n hawdd ei gyrraedd o ffordd ddeuol yr A55. Nid oes ychwaith unrhyw ffermydd yn yr ardal gyfagos sydd â menter casglu pwmpenni eich hun.

 

Gweithredu

Gyda galw cynyddol gan y cyhoedd am brofiadau awyr agored lleol (sydd wedi dwysáu dros y cyfnod cloi), mae datblygu menter casglu pwmpenni eich hun yn ffordd ddelfrydol o fanteisio ar y farchnad hon. Gall tyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf fod yn ffrwd incwm da, ond mae angen ei reoli’n ofalus er mwyn sicrhau cynhyrchiant a’r gallu i glirio’r cnwd o fewn cyfnod byr iawn. Un fantais yw bod modd rheoli menter tyfu pwmpenni’n rhwydd ochr yn ochr â gweithgareddau arferol ar y fferm, ac mae’r gofynion o ran llafur yn isel.

Mae ychwanegu profiad ychwanegol yn seiliedig ar ymwelwyr yn helpu i adeiladu gwytnwch busnes. Gall menter casglu pwmpenni eich hun fod yn opsiwn proffidiol, oherwydd gall ddenu twristiaid a'r gymuned leol, gan helpu i sefydlu cysylltiadau trwy dyfu bwyd a chefnogi busnesau ffermio a garddwriaethol lleol. Gall pwmpenni hefyd gynnig enillion gwerth uchel o'r farchnad casglu pwmpenni eich hun.

 

Nodau’r prosiect

Y prif amcanion oedd:

  • Adeiladu gwybodaeth ar gynllun tyfu pwmpenni addas i fodloni gofynion menter casglu pwmpenni
  • Archwilio sut i ddarparu'r profiad gorau i ymwelwyr ar safle casglu pwmpenni newydd
  • Cofnodi perfformiad ariannol y fenter hon

Meysydd ffocws:

  • Dewis yr amrywiaethau gan ystyried y gofynion o ran lliw a maint
  • Cymharu tyfu o had dan do gyda phlannu’n uniongyrchol yn yr awyr agored
  • Dwysedd plannu mwyaf addas
  • Darparu'r cydbwysedd cywir o ran maetholion
  • Rheoli chwyn
  • Cofnodi unrhyw broblemau iechyd, yn enwedig Pydredd o Waelod y Ffrwyth a llwydni powdrog)
  • Pennu a oes angen dyfrhau

Beth a wnaed

Mae pwmpenni yn gnwd nad oes angen llawer o wrtaith neu ddyfrhau ychwanegol arno ar ôl sefydlu; bydd defnydd gormodol o nitrogen ond yn cynhyrchu mwy o ddeilen ar draul blodau a ffrwythau. Dangosodd profion pridd fod lefelau ffosfforws a photasiwm yn dda, a bod dim ond angen rhywfaint o borthiant lefel isel i gynnal twf cnydau.

Roedd yr ardal plannu a ddewiswyd yn dilyn cnwd tail gwyrdd o Ffaselia, a heuwyd i ddal maetholion gweddilliol yn y pridd dros y gaeaf. Pan oedd amodau'r gwanwyn yn caniatáu, torrwyd gweddillion cnwd Ffaselia i lawr trwy strimio a'u hymgorffori trwy aredig. Paratowyd y ddaear ar gyfer plannu erbyn y gwanwyn a llyfnu, a phalwyd ardal fach i ffurfio gwely hadau lle heuwyd rhywfaint o hadau yn uniongyrchol.

Roedd digon o amser i ddefnyddio techneg i waredu chwyn o’r gwely hadau yn ystod y tair wythnos olaf cyn plannu. Roedd chwynnu gan ddefnyddio fflam yn lladd unrhyw chwyn oedd yn egino, ac roedd hofio rheolaidd yn cael gwared ag unrhyw chwyn yn ystod y tymor tyfu.

Cafodd hadau gan gwmnïau masnachol eu prynu, a dewiswyd amrywiaethau i ddarparu dewis eang i ddiddori'r cyhoedd. Y pwmpenni mwyaf poblogaidd yw’r mathau oren mawr, ond mae rhai canolig a llai yn boblogaidd gyda phlant iau. Mae mathau anarferol, fel ffrwyth gwyn, rhai dafadennog a mathau o gwrdiau bach hefyd yn gwerthu'n dda, a gellir eu plannu ar hap i greu golygfa ysblennydd.

Dewiswyd arwynebedd o tua 2000m2 ar gyfer plannu, gyda bwlch o 90cm x 90cm yn dynodi bod angen 2500 o blanhigion. Mae hyn tua 0.5 erw (0.2ha). 

Gan ganiatáu ar gyfer colledion yn ystod egino a lluosogi, heuwyd 2800 o hadau mewn modiwlau dan do yn ystod wythnos 20 (o 10 Mai) a’u hegino ar 18°C. Fe'u tyfwyd ymlaen nes iddynt ddangos dwy ddeilen (tuag wythnos 23). Roedd hyn yn golygu y gallent gael eu plannu yn yr awyr agored yn ystod wythnos olaf mis Mai pan ddylai'r risg o rew fod wedi mynd heibio. Cafodd llai o hadau eu hau yn uniongyrchol ar yr un pryd a rhoddwyd gorchudd i’w hamddiffyn, i ganiatáu cymhariaeth rhwng drilio uniongyrchol a phlannu yn yr awyr agored.

Eginiad wedi'i ddrilio'n uniongyrchol Mehefin 2021

Roedd plannu a drilio yn cael eu gwneud â llaw. Defnyddiwyd og i reoli chwyn yn gynnar ac wedyn trwy hofio â llaw. Cafodd y cnwd rywfaint o ddyfrhad i hyrwyddo tyfiant.

Y dybiaeth oedd, pe bai 2500 o blanhigion yn cael eu plannu, a phob planhigyn yn cynhyrchu un bwmpen gyda chyfradd llwyddiant o 75%, mae'n bosibl y byddai 1860 o bwmpenni i'w gwerthu

Planhigion wedi’u drilio’n anuniongyrchol ddiwedd mis Mehefin 2021

Canlyniadau

Sefydlodd y cnwd a thyfodd yn dda dan do, er gwaethaf y ffaith ei fod yn wanwyn gwael, gydag Ebrill, Mai a dechrau Mehefin yn anarferol o oer. Roedd y planhigion a gafodd eu hau mewn modiwlau o ansawdd da ac nid oedd llawer o golledion. Yn y treial drilio uniongyrchol, nid oedd y pwmpenni yn egino cystal ag yn y modiwlau, a adawodd fylchau ar y ddaear. Yn ogystal, rhoddodd y planhigion a heuwyd yn yr awyr agored a oroesodd ac a gynhyrchodd gnwd ganlyniadau gwaeth o gymharu â'r planhigion a dyfwyd dan do.

Roedd chwyn yn cael ei gadw dan reolaeth dda gan ddefnyddio'r dechneg i waredu chwyn o’r gwely hadau cyn hau, wedi'i ddilyn gan gyfuniad o chwynoglau ar dractor a hofio â llaw. Y gyfrinach i reoli chwyn â llaw yw dinistrio'r chwyn wrth iddynt ymddangos. Mae trin tir o fewn rhesi hefyd yn fuddiol ar gyfer gadael aer i'r pridd a helpu i gynorthwyo treiddiad dŵr.

Chwynnu adeg y gwanwyn, Mehefin 2021


Perfformiodd y cnwd yn dda, ac erbyn diwedd Gorffennaf roedd wedi gorchuddio'r ddaear, gan atal chwyn hwyr. Ymddangosodd rhywfaint o lwydni powdrog ym mis Awst, ond erbyn hynny roedd y cnwd wedi sefydlu yn dda. Trafodwyd rheoli'r llwydni, ond ni chafodd ei weithredu, gan y byddai mynediad ar gyfer chwistrellu wedi achosi difrod posibl i'r ffrwythau ifanc. Yn ogystal, gall llwydni fod yn help mewn cnwd egnïol i adael rhywfaint o olau i mewn, sy'n helpu i aeddfedu'r ffrwythau, ac roedd hyn yn wir yn yr achos hwn.

Gyda'r arwynebedd o 150 o hadau wedi'u hau'n uniongyrchol, roedd y planhigion yn edrych yn fwy egnïol ond yn cynhyrchu cnwd salach. Yn yr achos hwn, canfuwyd bod plannu planhigion wedi eu hau mewn modiwlau yn yr awyr agored yn fwy llwyddiannus, gyda llai o golledion nag a heuwyd yn uniongyrchol. Cyfanswm y pwmpenni ar y safle oedd tua 2500, ond ar ôl colledion o ganlyniad i bydredd a phlâu, amcangyfrifwyd bod tua 2000 o bwmpenni ar werth. 

Cnwd pwmpen wedi sefydlu ym mis Medi 2021

Dechreuwyd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol fis cyn Calan Gaeaf, ac ynghyd ag enw’r stad, profodd yn ddigon i ddenu’r cyhoedd, gyda’r cnwd wedi’i werthu allan dros chwe diwrnod o fod ar agor. O edrych yn ôl, nid oedd digon o gnwd i fodloni galw'r farchnad, ond roedd y fenter wedi gwneud y gorau o'r holl dir dros ben ar y safle.

Roedd rhai faniau arlwyo symudol (gan gynnwys cacennau, lluniaeth a fan pitsa lleol), ynghyd â mynediad i ystod o gynhyrchion gwerth ychwanegol y safle, megis jam, siytni, sawsiau a finegr, hefyd yn boblogaidd, ac yn gyfle i hysbysebu cyffeithiau fel anrhegion Nadolig. Mae llawer o le i ddarparu gweithgareddau ychwanegol pellach, megis cerfio pwmpenni, sy'n ychwanegu at y profiad ac yn cynyddu gwariant ymwelwyr.

 

Costau cnydau

Costau hadau: 5000 o hadau £250-£300 ar gyfer hadau hybrid F1.  

Llafur: Plannu â llaw a chwynnu £1250 yr ha.

Gan dybio bod 7500 o bwmpenni gwerthadwy'r hectar yn costio £4 yr un ar gyfartaledd, mae allbwn gros o £30,000 yr ha o gynhyrchiant yn golygu bod gwariant ar gostau yn gymharol fach.

 

Casgliadau

Roedd modd rheoli’r cnwd yn rhwydd gyda'r staff a'r adnoddau presennol ar y safle, ac roedd modd ei sefydlu a'i dyfu'n hawdd. Roedd hau dan do a phlannu yn yr awyr agored yn darparu cnwd gwell a mwy cyson na hau yn uniongyrchol i'r ddaear. Roedd chwyn a llwydni yn cael eu rheoli'n llwyddiannus trwy beidio â defnyddio cemegau. 

Diolch i flaengynllunio ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol wedi'u targedu, gwerthodd y cnwd allan yn gyflym iawn. Dangosodd y fenter casglu pwmpenni eich hun ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y cnwd hwn fod y cyhoedd yn awyddus i ymgysylltu â thyfwyr cynnyrch lleol, a gall twristiaeth fferm fod yn ddewis arall ymarferol i dyfu cynnyrch bwytadwy prif ffrwd (sydd wedi dod yn anoddach o ystyried y prisiau isel a geir ar gyfer cynnyrch ffres mewn marchnadoedd mwy confensiynol). Mae'r fenter casglu pwmpenni eich hun hefyd wedi cyflwyno cwsmeriaid newydd i'r safle a'r ystod o gynhyrchion gwerth ychwanegol a gynhyrchir yno.

Byddai'r arwynebedd tir o 0.2ha a neilltuwyd ar gyfer y fenter yn cynrychioli'r lleiafswm sydd ei angen ar gyfer canlyniad hyfyw, a byddai ardal o faint llawer mwy yn gwneud mwy o synnwyr yn ariannol. Yn unol â hynny, byddai angen cynyddu maint y maes parcio, a allai greu problemau gyda pharcio ar laswellt pe byddai tywydd garw. Un fantais yw, byddai mwy o gyfle i wneud mwy o incwm trwy godi tâl archebu neu dâl mynediad fesul car ar ben gwerthu pwmpenni ar y diwrnod, yn ogystal â chynnig opsiynau arlwyo ac adloniant pellach.

Roedd ymateb y cyhoedd yn annog yr ardd i ystyried sefydlu menter casglu blodau a ffrwythau meddal eich hun yn 2022, gan fod y rhain yn anodd eu cynaeafu gyda’r tîm presennol, felly roedd yr ymarfer yn ddefnyddiol.