Adroddiad Terfynol Prosiect Gardd Fasnachol Glebelands

Safle: Gardd Fasnachol Glebelands

Swyddog Technegol: Delana Davies

Teitl y Prosiect: Gwerthuso buddion hof olwynion Terrateck gyda Bio-ddisgiau i reoli chwyn mewn llysiau

 

Cyflwyniad

Mae’r cwmni garddwriaeth Terrateck o Ffrainc yn cynhyrchu nifer o wahanol fathau o declynnau llaw ac offer peirianyddol arbenigol. Mae hofiau olwyn yn adnodd traddodiadol mewn systemau cnydau gardd fasnachol, ac mae’r fersiwn Terrateck wedi ychwanegu ‘Bio-ddisgiau’ at yr offer yn ddiweddar. Dau ddisg yw’r rhain sy’n rhedeg bob ochr i res o gnydau, wedi’u gosod gyda gofod ac ongl addas er mwyn gallu taflu pridd at i mewn a chreu effaith bentyrru neu gefnu o gwmpas gwaelod y cnwd.

Er nad yw defnyddio disgiau ar beiriannau trin tir yn anarferol, nid oes fersiynau llai wedi bod ar gael yn y gorffennol. Mae buddion claddu chwyn bychain (yn hytrach na’u codi o’u gwreiddiau, eu symud neu eu torri) wedi cael eu hanwybyddu i raddau, er bod y pwnc ehangach o reoli chwyn trwy ddulliau mecanyddol a diwylliannol yn dal i annog trafodaeth frwd. Mae systemau sydd wedi’u hardystio’n organig yn dibynnu ar amodau sych, heulog er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei drin yn effeithiol; mae claddu chwyn sy’n dod i’r wyneb yn weithred llawer llai sensitif i amodau’r tywydd. Yn ogystal, mae’n annhebygol iawn y bydd pwysau’r farchnad i dyfu cnydau yn effeithiol heb weddillion yn dod i ben. 

Cwblhawyd yr arbrawf yng Ngardd Fasnachol Glebelands – safle sy’n wynebu’r gogledd gyda phridd lôm clai trymach, wedi’i leoli ger Aberteifi yng ngorllewin Cymru.

 

Y Bio-ddisgiau

https://www.terrateck.com/en/houes-pousse-pousse/8-bio-discs.html 

Mae’r hof olwyn Terrateck yn dilyn dyluniad hanesyddol, gyda ffrâm ddur solet siâp petryal. Mae’n bosibl addasu’r uchder ac mae opsiwn gwrthbwyso, a defnyddiwyd yn wreiddiol (gwelwyd bod hyn yn llai effeithlon na dyluniad yr hof Glaser, felly aethpwyd yn ôl at broses lle’r oedd y defnyddiwr yn gwthio o gefn yr hof olwyn yn uniongyrchol). Mae’r hof olwyn yn dod at ei gilydd yn ddigon rhwydd (oddeutu dwy awr), ac mae wedi cael ei adeiladu’n gadarn a gwydn. Unwaith y bydd y Bio-ddisgiau wedi cael eu gosod gyda bolltau, gellir addasu’r gofod rhyngddynt i weddu i faint y cnwd. Fodd bynnag, roedd uchder y cnwd yn cyfyngu i raddau gyda chnydau penodol megis cennin neu sibols. Ar uchder o 20cm+, bydd pen uchaf cenhinen yn plygu yn erbyn ffrâm yr hof olwyn, ond roedd cennin talach yn peri mwy o broblem.

 

Yr arbrawf

Dewiswyd trawsblaniadau cennin fel cnwd arbrofol, gan ei fod yn bosibl cael nifer o welyau plannu i’w cymharu, a bod dulliau presennol o waredu chwyn yn dibynnu ar ddefnyddio hof â llaw a hof olwyn. Yn ogystal, mae’r ffaith eu bod yn tyfu’n syth ac yn araf yn golygu bod chwyn yn gallu bod yn broblem ddwys o ran llafur, ac yn ddrud.

Paratowyd y cae yn ôl yr arfer gyda chontractwr yn aredig ac yn llyfnu’r borfa lle’r oedd meillion yn dominyddu. Cafodd mwyafrif y gwelyau plannu cennin eu llyfnu unwaith eto – a rhai ohonynt ddwywaith – yn uniongyrchol cyn plannu. Cafodd y trawsblaniadau cennin naill ai eu meithrin ar y safle (math cynnar), neu eu prynu i mewn ar ffurf modylau (dau o’r mathau hwyrach). Cafodd pob un ei blannu â llaw – oddeutu 10,000 i gyd.

Cafodd tair rhes 200tr (61m) o led o welyau plannu eu labelu am yn ail, a rhoddwyd dwy driniaeth, gan ddefnyddio pum gwely plannu fesul triniaeth:

  1. Yr arfer presennol o hofio â llaw o fewn y rhesi gyda hof gwarthol a defnyddio hof olwyn rhwng y rhesi wedi hynny, gan ddefnyddio hof olwyn Glaser gyda llafn hof gwarthol a thyrchu gyda phigau sbring
  2. Mynd dros y cnwd unwaith yn unig gan ddefnyddio’r hof Terrateck a’r Bio-ddisgiau

 

Chwyn

Roedd yr ystod arferol o rywogaethau chwyn i’w gweld ar y safle. Y math mwyaf heriol a drytaf i’w drin yw dail tafol, sydd fel arfer angen eu tynnu â llaw gan ddefnyddio teclyn ysgafn tebyg i’r hyn a ddefnyddir i dynnu llygaid y dydd, neu fforch wedi’i addasu. Gellir delio gyda’r rhan fwyaf o fathau eraill gan ddefnyddio hof yn y modd confensiynol – hynny yw torri, sychu neu symud mewn amodau sych a gwyntog. Mae’n bosibl claddu pob math o chwyn (gan gynnwys dail tafol) am byth – neu o leiaf eu haflonyddu – gan ddibynnu faint o ddyddiau sydd nes i’r hedyn egino, a bod digon o bridd yn eu gorchuddio.

Mae’n dal i fod yn bwysig dilyn y cyngor traddodiadol i chwynnu yn ystod y cam ’gwallt gwyn‘, pan fo’r chwyn bron yn anweledig, ond gallai’r tywydd arwain at oedi o ran datblygiad chwyn, fel y gwelwyd yn yr arbrawf hwn. Tua diwedd y tymor gyda chennin cymharol aeddfed, gwelwyd tipyn o droed yr ŵydd gwyn a oedd yn egino’n hwyr, a rhywfaint o ysgall ym mhob un o’r rhesi arbrofol, er gwaethaf cnwd glân yn ystod yr amodau sych iawn ar ddechrau’r tymor. Gall cyfradd twf rhai mathau o chwyn megis troed yr ŵydd gwyn fod yn ddramatig dros yr haf.

Y mathau anoddaf o chwyn i ddelio â nhw oedd y rhai a oedd yn blaguro rhwng y rhesi ger y cnwd; er enghraifft, blewyn tenau o laswellt yn dynn wrth ymyl coesyn cenhinen, nad oedd yn cael ei effeithio gan y gorchudd deiliog uwchben.

 

Canlyniadau

Cafodd y gwaith chwynnu a chasglu data ei gwblhau ar 8, 15 a 30 Mehefin. Roedd y tywydd yn sych a heulog drwy gydol y cyfnod, gyda’r glawiad mawr mwyaf diweddar ar 23 Mai.

Roedd y sychder yn ddelfrydol ar gyfer lladd planhigion chwyn bychain, ond yn llai ffafriol ar gyfer sicrhau twf cyson y cnydau. Nid oedd y trwch a sicrhawyd ar ardal yr arbrawf yn ddelfrydol, gyda rhywfaint o bridd talpiog dros lawer o’r gwelyau plannu o ganlyniad i amodau gwlyb wrth aredig, a thywydd sych wedi hynny. Gan fod y Bio-ddisgiau’n dibynnu ar drwch mân er mwyn i’r pridd gael ei wthio’n rhwydd i mewn i’r cnwd, roedd gwaith y sawl a oedd yn gweithredu’r peiriant yn fwy anodd. Gyda thrawsblaniadau betys gyda phridd llawer mwy mân, roedd defnyddio’r Bio-ddisgiau yn gwneud y gwaith yn llawer rhwyddach a chynt.

Defnyddiwyd y Bio-ddisgiau i symud pridd at waelod y cennin ar gyfer y driniaeth gyntaf. Ar gyfer yr ail driniaeth, roedd angen defnyddio hof llaw ychwanegol i godi chwyn a oedd yn rhy fawr i’w claddu, a defnyddiwyd y Bio-ddisgiau’n unig ar gyfer y drydedd driniaeth. 

Ni welwyd gwahaniaethau amlwg o ran dwysedd chwyn a’r math neu gynnyrch y cnwd a’r gyfradd twf rhwng y ddau fath o driniaeth. Fodd bynnag, roedd y gofynion llafur yn wahanol iawn rhwng y ddau fath o driniaeth (Tabl 1).

Tabl 1: Amser chwynnu a chostau llafur ar gyfer pum gwely triniaeth, gyda phob un yn defnyddio’r hof olwyn Terrateck gyda Bio-ddisgiau a chymharu gyda’r hof Glaser a hofio â llaw

 

 

TBD

 

 

GH

 

Dyddiad

8 Mehefin

15 Mehefin

30 Mehefin

8 Mehefin

15 Mehefin

30 Mehefin

Amser chwynnu fesul gwely plannu (munudau)

11.8

75.0

11.4

78.0

45.0

63.0

Cyfanswm nifer yr oriau o driniaeth chwynnu (oriau)

 

8.2

 

 

15.5

 

Cost llafur ar gyfer pum gwely plannu £*

 

82

 

 

155

 

Arbediad cost %

 

47% yn llai

 

 

 

 

*Nodwyd bod costau llafur yn £10 yr awr

 

Mae’r cyfle i osgoi defnyddio hof llaw yn arbed llawer o amser. Mae unrhyw ddarn o offer ar olwynion yn gynt nag offer llaw, cystal â’i fod yn arwain at ganlyniadau tebyg.

Roedd mwyafrif y chwyn a nodwyd ar y taflenni data yn dilyn y tri gweithgaredd chwynnu naill ai’n flodau menyn ymlusgol neu’n laswelltau’n dynn yn erbyn coesynnau’r cennin. Mae claddu’r mathau hyn o chwyn yn ddibynnol ar gael trawsblaniad digon mawr, a symud digon o bridd yn rhwydd i’r rhes. Mae’r arbrawf wedi amlygu’r angen i ystyried amser plannu’n fwy gofalus, a’r angen i sicrhau pridd sy’n llifo’n rhydd yn seiliedig ar lefelau uchel o ddeunydd organig. Bydd y math yma o bridd bob amser yn ymdopi’n well gyda gweithrediadau pridd pan fo’r lleithder yn uwch neu’n is na’r optimwm. 

Yn dilyn y cyfnod treialu ac wedi i’r glaw ddychwelyd, roedd angen defnyddio hof olwyn Glaser i drin pob rhes. Roedd hadau chwyn a oedd yn gorwedd ynghwsg ymysg cennin aeddfed yn golygu nad oedd modd defnyddio’r offer Bio-ddisgiau oherwydd uchder y cnwd ar yr adeg honno. Byddai’r gallu i ddarparu digon o ddŵr trwy ddefnyddio offer tebyg i wn dŵr wedi gorfodi mwy o chwyn i ymddangos yn ddigon buan i allu eu dinistrio yn ystod y tair triniaeth arbrofol (mae mwy o blanhigion chwyn bychain yr un mor hawdd i’w lladd).

Roedd cynnyrch y cnydau’n ardderchog wrth ddefnyddio’r ddwy dechneg, gyda phwysau nodweddiadol o 400g yn cael ei sicrhau ar gyfer amrywiaethau cennin cynnar a chanol y tymor. Mae’r math sy’n cael ei aeafu’n cynhyrchu pwysau cyfartalog is o fewn cyfnod byrrach; mae’r canlyniadau yma’n debyg i gynnyrch cnydau blaenorol.

 

Defnydd ar gnydau eraill

Cafodd yr hof Terrateck hefyd ei asesu ar drawsblaniadau betys; gwelwyd ei fod yn gweithio’n effeithiol iawn, gyda chymorth pridd mân a phridd yn symud yn rhwydd i waelod y cnwd. Roedd y cnwd a dyfwyd yn hynod o lân gyda chynnyrch da. Byddai’r hof hon yn addas ar gyfer unrhyw gnwd bach, wedi’i drawsblannu, ond mae cefnogwyr brwd (JM Fortier yn arbennig) yn gefnogol iawn o’i ddefnyddio ar gnydau sy’n cael eu drilio i’r tir, megis berwr neu foron.

 

Casgliadau

Mae hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer amaethu cnydau syth. Mae pridd digon mân yn hanfodol er mwyn gallu ei ddefnyddio a sicrhau canlyniadau dibynadwy. Mae’r hof yn arbennig o addas ar gyfer ffermydd ar raddfa fach a chanolig gyda rhesi o gnydau gwerthfawr, heb ddigon o raddfa i gyfiawnhau costau’r peiriannau, amser gosod na hyfforddi ar gyfer fersiynau sy’n cael eu gosod ar dractor. Penbleth gyffredin i ffermydd bach i ganolig yw p’un a ddylen nhw dynnu’r tractor allan a gosod y peiriant trin perthnasol, neu ddefnyddio offer llai technolegol â llaw i’w ddefnyddio ar unwaith (ond yn llai effeithlon), wrth i’r ardal dan sylw gynyddu.

Mae gan Terrateck a gweithgynhyrchwyr eraill yng Ngogledd America opsiynau chwynnu ar raddfa fach i’w defnyddio â llaw ac ar raddfa peiriant chwynnu sy’n gallu gweithio ochr yn ochr â’r Bio-ddisgiau neu am yn ail, i daflu pridd allan ac oddi wrth waelod y planhigyn. Gallai hyn fod yn gyfuniad o declynnau i’w harchwilio mewn gwaith ymchwil at y dyfodol.                

https://www.youtube.com/watch?v=580-nUvehzI 

I gloi, mae’r data yn awgrymu bod yr arbedion amser a gofnodwyd yn golygu bod y Bio-ddisgiau yn declynnau cost effeithiol. Wrth chwynnu deirgwaith ar draws y pum gwely plannu, arbedwyd 7.3 o oriau llafur trwy ddefnyddio’r Bio-ddisgiau, ar gost o £73, o’i gymharu â defnyddio’r hof llaw Glaser - arbediad o 47% mewn costau. Pe byddai hyn yn cael ei ystyried wrth ei ddefnyddio ar gnydau eraill, byddai modd ad-dalu pris prynu’r Bio-ddisgiau (<£200 ar brisiau 2021, heb gynnwys yr hof olwyn) yn fuan iawn.

Adam York, Gardd Farchnad Glebelands