Alicia Miller

Llandysul, Ceredigion

AliciaMiller KM 01 0

Ganed Alicia Miller yng Nghaliffornia ac mae’n bartner yn Troed y Rhiw Organics, fferm fechan gymysg organig yng Ngheredigion, y mae’n ei rhedeg gyda’i gŵr, Nathan Richards.  Mae’n olygydd y we hefyd i’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy, sy’n cyhoeddi deunydd am faterion yn ymwneud â bwyd a ffermio. 

Gyda’u pwyslais yn gadarn ar arddwriaeth, mae’r cwpl yn gwerthu eu cynnyrch tymhorol lleol iawn i’r cymunedau o’u cwmpas trwy gynllun blychau, marchnad cynhyrchwyr, bwytai a siopau.  Mae ganddynt fuches fach o wartheg yr Ucheldir hefyd sy’n cynhyrchu cig, ychwanegu ffrwythlondeb ac yn hybug bioamrywiaeth ar draws y fferm.

Dywed Alicia, a raddiodd gyda rhagoriaeth o Brifysgol Stanford, er nad yw’n dod o gefndir amaethyddol, mae ei diddordeb tymor hir mewn bwyd a’i gynhyrchu, yn arbennig bwyd iach, cynaliadwy, yn golygu ei bod yn angerddol am yr hyn y mae’n ei wneud.

Gan weithio ochr yn ochr â Nathan, sy’n brif arddwr, Alicia sy’n gyfrifol am reoli popeth ariannol, trefnu’r cynllun blychau a goruchwylio’r tai gwyliau.  Mae hefyd yn cyfrannu at gynllunio’r busnes at y dyfodol, gan fod y cwpl yn benderfynol o sicrhau ei fod yn datblygu ymhellach.

“Fy uchelgais o ran arwain am y pump a 25 mlynedd nesaf yw siarad mwy, ysgrifennu mwy a chyfathrebu mwy am y pethau yr wyf yn poeni mwyaf amdanynt, ac rwy’n siŵr y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn helpu i gyflawni hyn.

“Rwyf am weld llawer mwy o bobl yn gweithio’n gynaliadwy ar y tir, yn cynhyrchu bwyd o safon uchel a gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod gan ffermio berthynas agos â natur ac yn gweithio i gadw ei fioamrywiaeth hanfodol.”