Arbrawf Elfennau Hybrin Glascoed
Prif ganlyniadau
- Tyfodd yr ŵyn ar y tair triniaeth ar yr un gyfradd bron iawn drwy gydol yr arbrawf, gan awgrymu nad ychwanegu elfennau hybrin ar ffurf seleniwm, ïodin a chobalt oedd y ffactor a oedd yn cyfyngu ar eu perfformiad
- Mae’n bosibl bod tywydd gwael a phorfa gyda lefel isel o ddeunydd sych oedd y prif ffactorau a oedd yn achosi cyfraddau twf isel, ond gallai ymchwiliad trylwyr o statws copr yr ŵyn fod o fudd i helpu i ddeall a oes hefyd angen copr. Gellir gwneud hyn drwy samplu gwaed, neu’n fwy manwl drwy fesur storfeydd copr yn yr iau
- Er bod yr arbrawf i’w weld yn dangos dim gwahaniaeth rhwng y tri dull o roi ychwanegion, mae’r canlyniadau’n pwysleisio bod modd gwastraffu llawer o arian ar ychwanegion os mae ffactorau pwysig eraill – megis y tywydd, maeth ac iechyd - yn dylanwadu’n sylweddol.
- Roedd costau’r tair triniaeth yn wahanol iawn gyda’r ychwanegion a brynwyd ar ffurf dos a bolws yn llawer drytach na’r dos a gymysgwyd gartref. Byddai ailadrodd y gwaith yn fuddiol, gan gynnwys copr o fewn un neu bob un o’r triniaethau o bosibl.
Cefndir
Mae diffyg elfennau hybrin wedi cael ei nodi ar fferm Glascoed dros y blynyddoedd diwethaf, a dangosodd archwiliad mwynau a ariannwyd yn rhannol drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn 2021 fod ïodin a seleniwm yn bryder penodol. Roedd rhywfaint o bryder hefyd ynglŷn â chopr gan fod lefelau sylffwr a molybdenwm yn y porthiant yn gymharol uchel, a allai fod yn effeithio ar amsugniad copr. Argymhellwyd y dylid monitro copr drwy ddadansoddiad o’r iau a'r gwaed.
Diben y gwaith:
Gan fod pob un o’r elfennau a enwyd yn effeithio ar iechyd a pherfformiad ŵyn, penderfynwyd cymharu tri gwahanol fath o ychwanegion i asesu eu heffaith ar gyfradd twf ac iechyd yr ŵyn.
Yr hyn a wnaed
Cafodd yr ŵyn eu neilltuo ar hap i un o’r tri grŵp gan dderbyn un o’r triniaethau canlynol:
- Bolws ŵyn â phatent (B)
- Dos defaid â phatent (PD)
- Dos a gymysgwyd gartref yn cynnwys cobalt, seleniwm ac ïodin (HM)
Roedd yr ŵyn yn gymysgedd o groesiadau: Aberfield, Highlander, Oxford a Texel. Roedd mwy na 55% ohonynt yn ŵyn benyw gan fod mwyafrif yr ŵyn yn yr arbrawf yn deillio o hyrddod mamol ac roedd yr ŵyn benyw yn cael eu cadw. Roedd y nifer fach o ŵyn Oxford a Texel yn ŵyn RamCompare a anwyd yn hwyr iawn.
Iechyd
- Derbyniodd pob un o’r ŵyn driniaeth Scabivax (i atal orff) a Click Extra (dicylanil) i atal cynrhon, ar 30 Ebrill i’r rhai a oedd yn mynd i’r tir comin ac ar 27 Mai i’r rhai a oedd yn aros ar y fferm.
- Rhoddwyd Albex (benzimidazole) i’r holl ŵyn budr rhwng 25-28 Mai.
- Gan ddefnyddio dull triniaeth ddethol wedi’i thargedu, rhoddwyd dos briodol o Animec (ivermectin) rhwng 20-25 Mehefin i’r holl ŵyn a oedd yn magu llai na 150g y dydd.
- Rhoddwyd Animec i ŵyn a oedd yn magu llai na 150g y dydd rhwng 19-21 Gorffennaf.
- Cafodd ŵyn eu brechu rhag clefydau clostridiol gan ddefnyddio Bravoxin rhwng 20-24 Awst.
- Rhoddwyd Chanavern (levamisole) rhwng 4-6 Medi i ŵyn a oedd yn magu llai na 120g y dydd, a rhoddwyd y driniaeth i’r holl ŵyn rhwng 21 a 23 Medi.
- Cafodd ŵyn benyw eu brechu rhag tocsoplasmosis (Toxovax) ac erthylu ensöotig (Enzovax) ar 10 Hydref.
- Ar ôl diddyfnu, rhannwyd yr ŵyn yn ddau grŵp (gyda phob triniaeth wedi’i chynrychioli’n deg ym mhob grŵp) a buont yn pori cnydau a ail heuwyd yn ddiweddar neu borfeydd llysieuol. Cafodd yr ŵyn eu tynnu allan ddechrau mis Hydref a rhoddwyd dwysfwyd i’r gweddill a oedd yn cael eu cadw dan do ar 24 Hydref (diwedd yr arbrawf).
Triniaethau
Cafodd y dos a gymysgwyd gartref ei gymysgu ar y fferm (gan ddilyn yr holl gamau diogelwch angenrheidiol) dwy hydoddi 4.2g o sodiwm selenat, 20g o botasiwm ïodid a 33g o gobalt mewn 5 litr o ddŵr. Cost y cynhwysion oedd £15.58/5 litr neu £3.27c/dos 10.5ml. Roedd hyn yn ddigon i drin 100 o ŵyn wedi’u diddyfnu bob 3 wythnos ar gyfradd o 10.5ml/dos – 4 gwaith gyda rhywfaint dros ben. Mae fformiwleiddiad pob cynnyrch i’w weld yn nhabl 1 isod.
Tabl 1 – Fformwla’r cynhyrchion
|
| Cobalt | Seleniwm | Ïodin | Cost drwy gydol yr arbrawf £/oen |
Bolws | Cyfanswm g | 185 | 100 | 660 |
|
| mg/dydd | 0.67 | 0.33 | 2.4 | 0.89 |
Dos â phatent (dos 5 ml) | Cyfanswm mg/l | 500 | 250 | 1000 | 1.00 (am 5 dos) |
Am dair wythnos | mg/dydd | 0.12 | 0.06 | 0.24 |
|
Dos a gymysgwyd gartref | Cyfanswm mg/l | 1.39 | 0.353 | 3.06 |
|
Dos 10.5ml /21 diwrnod | mg/dydd | 0.69 | 0.18 | 1.53 | 0.164 (am 5 dos) |
Cafodd yr ŵyn cyntaf i gael eu cynnwys yn yr arbrawf eu pwyso ar 20 Gorffennaf (96 diwrnod yn yr arbrawf) a’u neilltuo ar hap ar gyfer triniaethau, gan dderbyn y dos neu’r bolws a ragnodwyd. Cafodd mwy o ŵyn eu hychwanegu i’r grwpiau ar 28 Gorffennaf (88 diwrnod), 9 Awst a 13 Awst. Rhoddwyd y bolws wrth i’r ŵyn ymuno â’r arbrawf, yn yr un modd â’r triniaethau gyda dos, ond cafodd y dos a gymysgwyd gartref a’r triniaethau dos â phatent eu hailadrodd pedair/pum gwaith gyda bwlch o oddeutu 3 wythnos.
Canlyniadau
- Roedd ŵyn yn iach ar y cyfan drwy gydol cyfnod yr arbrawf, gydag oddeutu traean o’r ŵyn yn derbyn triniaeth llyngyr ar ôl i’r gyfradd twf ddisgyn yn is na’r targed ar 20 Gorffennaf, 5 Medi a 22 Medi.
- Mae cyfrif wyau ysgarthol yn cael ei wneud yn rheolaidd ar y fferm ac ni ystyriwyd fod parasitiaid mewnol yn broblem sylweddol yn ystod haf/hydref 2024, er gwaetha’r tywydd gwael.
- Roedd nifer fach o’r ŵyn yn rhan o’r arbrawf am lai na 40 diwrnod, a chafodd y rhain eu heithrio o gyfrifiadau enillion pwysau byw dyddiol. Cafodd pob un o’r ŵyn eu pwyso wrth ymuno â’r arbrawf ac unwaith eto ar 14 Awst, 6 Medi a 24 Hydref, oni bai eu bod wedi cael eu dethol i’w hanfon i’r lladd-dy. Yn ystod yr arbrawf, gwerthwyd cyfanswm o 8, 2 a 6 oen o’r grwpiau HM, B a PD yn y drefn honno. Cyfrifwyd cynnydd pwysau byw dyddiol ar gyfer pob oen dros gyfnod yr arbrawf cyn cyfrifo cyfartaledd. Roedd perfformiad yr ŵyn yn wael ar y cyfan, ar gyfartaledd o oddeutu 87g/dydd o fis Gorffennaf hyd fis Hydref, sy’n cael ei ystyried yn llawer is na’r targed ar gyfer ŵyn 4 i 6 mis oed (targed o 150g/dydd neu fwy).
- Gallai’r tywydd gwael yn ystod haf 2024 fod yn gyfrifol am hyn gyda glawiad ymhell dros y cyfartaledd yn lleihau deunydd sych yn y glaswellt, cymeriant deunydd sych yr ŵyn a chyfyngu ar dwf.
Cofiwch drafod gyda’ch milfeddyg a maethegydd annibynnol cyn gwneud unrhyw newidiadau i ychwanegiadau i’ch diadell.
Tabl 2: Canlyniadau
| Bolws | Dos â phatent | Dos a gymysgwyd gartref |
|
|
|
|
Cyfanswm yr ŵyn yn yr arbrawf >40 diwrnod | 90 | 92 | 91 |
Ŵyn benyw | 53 | 50 | 59 |
Enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) ŵyn benyw (g/dydd) | 94 | 90 | 94 |
Meheryn | 37 | 42 | 32 |
Enillion pwysau byw dyddiol meheryn (g/dydd) | 74 | 79 | 86 |
DLWG cyfun (g/dydd) | 86 | 88 | 89 |
Ŵyn bridiau croes |
|
|
|
Croesiadau Aberfield | 32 | 30 | 27 |
Croesiadau Highlander | 56 | 60 | 59 |
Oxford x | 2 | 1 | 3 |
Texel x | - | 1 | 2 |
Diolchiadau
Diolch o galon i Alwyn Nutting am gynnal a rheoli’r arbrawf, trin yr anifeiliaid a chasglu’r data. Diolch i Cyswllt Ffermio am gyflenwi’r ychwanegion elfennau hybrin.
Kate Phillips
21 Ionawr 2025