Chris Brooks, Westflight

Ar ôl bod yn datblygu systemau trydanol oddi ar y grid ar gyfer ffermydd mynydd anghysbell Cymru ers y 1960au, Chris Brooks yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Westflight Ltd. sy'n dylunio ac yn gosod systemau ynni adnewyddadwy yn benodol yn y sector amaethyddol ledled Cymru. Mae'r sefydliad wedi adeiladu enw da am beirianneg ac arloesi gyda thechnolegau ynni adnewyddadwy gan gynnwys gwynt, solar ac yn enwedig ynni hydro ar raddfa fach Mae prosiectau'n amrywio, o systemau bach oddi ar y grid ar gyfer ffermydd anghysbell neu safleoedd glampio i brosiectau masnachol ar raddfa fawr sy'n eiddo i ffermwyr sy'n cynhyrchu trydan fel ffynhonell incwm arall.

Wedi cymhwyso i ddechrau fel peiriannydd amaethyddol a gyda hanes hir mewn peirianneg fecanyddol a thrydanol, mae Chris hefyd yn ffermio ar fferm fynydd fechan yng nghanolbarth Cymru.