Dilwyn Evans
Cafodd Dilwyn Evans ei fagu ar fferm 67erw yn Llanddewi Brefi, Sir Aberteifi. Roedd y fferm yn cynnwys 29 o wartheg llaeth, wyth hwch ac roedd yn ddigon i fagu teulu o bedwar plentyn yn y saithdegau a'r wythdegau.
O ganlyniad i’w fagwraeth, roedd gan Dilwyn bob amser ddiddordeb mawr ym myd amaeth ac amaethyddiaeth, a bu iddo fynd i Brifysgol Caeredin i astudio milfeddygaeth. Cymhwysodd yn 1986 ac ar ôl treulio chwe mis ym Malawi ar brosiect yn astudio dip gwartheg i osgoi clefydau a gludir gan drogod, ymunodd â phractis cymysg yn Lechlade, Swydd Gaerloyw. Ar ôl cyfnodau'n gweithio fel milfeddyg cymysg yn yr Wyddgrug a Cheintun, bu iddo ddychwelyd i Lechlade.
Yn ddiweddar, mae Dilwyn wedi bod yn rhan o 'Clarkson's Farm', sef cyfres ar Amazon Prime, sy'n dilyn Jeremy Clarkson wrth iddo ffermio ei fferm 100 erw yn y Cotswolds, a'i ymdrechion i arallgyfeirio ac agor siop fferm a bwyty.