Dr Chris Mann- Bennamann
Dr Chris Mann yw cyd-sylfaenydd, Cadeirydd a Phrif Swyddog Technoleg Bennamann, cwmni sy'n arwain chwyldro ynni glân ym myd amaeth. Cymhwysodd Chris fel ffisegydd cymhwysol a bu’n gweithio yn y sector gofod gan ddatblygu synwyryddion a ddefnyddir i sicrhau presenoldeb y twll osôn a dyfodiad cynnar newid hinsawdd. Ers sefydlu Bennamann yn 2011, mae Chris wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu technoleg dal nwy methan ffo. Mae’n gwybod y potensial aflonyddgar enfawr sydd gan y dechnoleg arloesol hon i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan roi mwy o annibyniaeth o ran ynni ar y fferm i ffermwyr a’r potensial ar gyfer ffrwd incwm newydd amrywiol. Mae Bennamann yn edrych ymlaen at rannu eu technoleg gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru drwy ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru.