Edward Morgan, Castell Howell

Wedi ei eni a'i fagu ar fferm gymysg yn Sir Gaerfyrddin, mae gan Edward dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector bwyd ac mae wedi bod yn gweithio gyda Castell Howell am 22 mlynedd. Mae'n arwain nifer o brosiectau cadwyn gyflenwi, gan gynnwys menter gydweithredol ddiweddar, 'Llysiau o Gymru i Ysgolion Cymru' gyda Lantra a Cyswllt Ffermio.