Helen Ovens, RSK ADAS

Mae Helen yn Ymgynghorydd ADAS gyda 25 mlynedd o brofiad ym maes systemau amaethyddol a datblygiad gwledig. Mae hi'n ymgynghorydd cymeradwy ar gyfer rhaglen Cyswllt Ffermio, gydag arbenigedd mewn archwilio lefel carbon ar y fferm a chynllunio camau gweithredu i reoli allyriadau, gan weithio ar gontractau Llywodraeth Cymru, HCC, AHDB a Defra. Yn ddiweddar bu i Helen drefnu prosiectau ar gyfer y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru ar destunau megis iechyd anifeiliaid ac olrhain da byw mewn systemau pori helaeth. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys gwerthuso rhaglen gwella geneteg diadell fynydd HCC a modelu allyriadau buches sugno yng Nghymru.

Mae Helen yn siarad Cymraeg a bu iddi astudio  system amaethyddol gynaliadwy yn yn UEA Norwich a gwarchod cnydau yn SAC Aberdeen. Helen yw un o'r bobl gyntaf i ennill cymhwyster cyngor ar allyriadau a rheoli carbon ar y fferm yn y DU BASIS, yn ogystal â meddu ar gymhwyster pridd a dŵr BASIS.