John Morris, Welsh Farmhouse

Mae John a'i deulu'n berchen ar fferm organig 70erw ger Crucywel, sydd wedi arallgyfeirio i saith menter dros y blynyddoedd, gan gynnwys 'Welsh Farmhouse Apple Juice’. Fel cynhyrchwyr bach yng nghefn gwlad Cymru, roedd y teulu wrth eu bodd pan ofynnodd Tywysog Cymru iddynt wasgu sudd afal a gellyg o ffrwythau a gesglir ar ei ystadau brenhinol a'u rhoi mewn potel. Yn dilyn ymweliad brenhinol â'r fferm ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, bu iddynt ddod yn un o'r cwmnïau bwyd a diod lleiaf yn y byd i gael eu hanrhydeddu â Gwarant Frenhinol.

Bydd John yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Countryfile ac mae'n eiriolwr brwd dros gynyddu cynnyrch garddwriaethol yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Ein Bwyd 1200.