Mark Lord - Berrys
Ymunodd Mark â Berrys yn 2017 ar ôl gweithio gyda Banc Lloyds am 36 mlynedd, ac o'r 36 mlynedd, bu'n gweithio yn y sector amaeth am 25 mlynedd. Dewisodd Mark arbenigo mewn amaethyddiaeth oherwydd yr ardaloedd y bu'n gweithio - Gogledd Cymru a Swydd Amwythig - a'r nifer o wahanol fentrau a chyfleoedd sy'n codi ym myd amaeth a'r economi wledig. Daw ei brofiad helaeth o'i amser fel Uwch Reolwr Amaethyddol a oedd yn cynnwys cynorthwyo cleientiaid gyda chyfleoedd i fuddsoddi, arallgyfeirio eu busnesau a datrys problemau pan nad yw pethau'n gweithio fel y disgwylir iddynt wneud.
Mae rôl Mark gyda Berrys yn cynnwys gweithio fel Ymgynghorydd i Cyswllt Ffermio, darparu cyngor un i un trwy werthuso ac adolygu busnesau cleientiaid gyda dadansoddiad llawn o'u perfformiad ariannol hanesyddol a'u cynorthwyo gyda chyfleoedd yn y dyfodol.
Mae Mark hefyd yn aelod o Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain (BIAC) ac mae'n aelod o'r pwyllgor trefnu ar gyfer eu Cynhadledd Cymraeg flynyddol.