Philip Hughes, Ekogea UK Limited
Fel Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (Gwledig), Cymrawd Cymdeithas y Priswyr Amaethyddol, Ysgolhaig Ffermio Nuffield (NSch) a BSc (Anrh) mewn Menter Wledig a Rheoli Tir, mae gan Philip y sgiliau a’r profiad o ddatblygu a thyfu busnesau llwyddiannus. Mae Philip yn gweithio'n agos gyda chleientiaid a rhanddeiliaid i sicrhau'r canlyniadau gorau, sy'n canolbwyntio'n gyfartal ar ddatblygu cynnyrch a datrysiadau masnachol, wedi'u darparu mewn modd sy'n sensitif i amser.
Arweiniodd Philip y gwaith ar gyfer Ekogea UK gydag ymrwymiad yn 2017 i adeiladu peiriant treulio anaerobig 200kW OC fel ‘treial’ ar ei fferm deuluol, Hendwr, i ddangos effeithiolrwydd BioComplex yn llwyddiannus iawn.