Sioned Davies, Oxbury Bank
Cafodd Sioned ei magu ar fferm bîff a defaid ei theulu yng nghanolbarth Cymru, yna aeth ymlaen i astudio Marchnata Bwyd-Amaeth gydag Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Harper Adams. Ar ôl ymuno ag Oxbury ar y cynllun i raddedigion yn 2020, cwblhaodd gylchdroadau o fewn y timau Credyd a Risg, Gwerthu a Marchnata. Ar ôl cwblhau cyfnod sabothol o chwe mis yn astudio amaeth ac arferion amaethyddol yng ngogledd a de America, ymgartrefodd Sioned i’w rôl bresennol yn Oxbury sy’n cynnwys datblygu, lansio a rheoli cynnyrch newydd. Mae Sioned yn frwd dros gael ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant, ac mae un o’r cynhyrchion hyn yn cynnwys Oxbury New Gen, cynnyrch sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r sector amaethyddol.