Toni Borella - Green Up Farm

Gyda chefndir yn gweithio yn y sector technoleg, roedd Toni bob amser yn gwybod bod ganddi angerdd am gynnyrch maethlon, ffres a lleol.  O wyliau'r haf yn Sir Benfro pan oedd hi'n blentyn i symud i'r ardal yn barhaol gyda'r gŵr yn 2019, ysbrydolodd prydferthwch Sir Benfro Toni i archwilio dulliau mwy ecogyfeillgar o gynhyrchu bwyd.

Bu iddi gyd-sefydlu Green Up Farm ym mis Tachwedd 2021, ac ers iddynt gael cymorth a mentoriaeth amhrisiadwy gan Cywain ym mis Ebrill 2022, maent bellach yn ehangu'n gyflym i fod y fferm fertigol hydroponeg gyntaf yn Sir Benfro, gan gynhyrchu perlysiau, cnydau arbenigol a chynnyrch micro-wyrdd ffres o safon.

Ar hyn o bryd, mae Green Up Farm yn gweithio gyda rhai o'r cogyddion, bwytai, caffis a thafarndai gastro gorau yn Sir Benfro a'r cyffiniau, gan ddarparu cnydau o safon sy'n ychwanegu lliwiau a blas at brydau sydd eisoes yn brydau dymunol.